Sut ydw i’n golygu rôlau defnyddiwr mewn cwrs?

Unwaith mae defnyddwyr wedi cael eu hychwanegu at eich cwrs, efallai y byddwch chi’n gallu golygu’r math o ymrestriad ar gyfer defnyddiwr yn y cwrs drwy’r dudalen Pobl. Mae’r nodwedd hon yn gadael i chi wneud addasiadau i fathau o ymrestriad cwrs heb orfod dileu’r ymrestriad cyfredol. Er mwyn golygu rôl nid oes rhaid i’r defnyddiwr dderbyn gwahoddiad cwrs newydd.

Os cafodd defnyddiwr ei ychwanegu at gwrs gyda mwy nag un rôl, mae dewis rôl newydd yn disodli pob ymrestriad cyfredol y defnyddiwr gyda'r rôl newydd wedi’i golygu. Os yw defnyddiwr wedi ymrestru mewn mwy nag un adran, mae’r rôl wedi’i golygu yn berthnasol i bob adran.

Nodiadau:

  • Os yw arsyllwr wedi’i gysylltu i fyfyriwr, allwch chi ddim golygu rôl arsyllwr. Dysgu sut i reoli myfyrwyr wedi’u cysylltu.
  • Mae modd ychwanegu ymrestriadau drwy system gwybodaeth myfyrwyr (SIS) eich sefydliad. Os yw ymrestriad yn cynnwys ID SIS, ni allwch olygu ymrestriad yn y cwrs. Yn ogystal â golygu rôl defnyddiwr mewn hawl cwrs. Os na allwch chi olygu rolau defnyddwyr yn eich cwrs, mae eich sefydliad wedi atal y nodwedd hon.
  • I gael rhagor o wybodaeth am hawliau, edrychwch ar ddogfen adnodd Hawliau Rôl Cwrs Canvas.

Agor yr adnodd Pobl

Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).

Dod o hyd i Ddefnyddiwr

Yn y maes chwilio [1], rhowch enw'r defnyddiwr. Gallwch hidlo defnyddwyr yn ôl rôl hefyd yn y gwymplen Rolau (Roles) [2].

Golygu Rôl

Cliciwch eicon Opsiynau (Options) y defnyddiwr [1], yna dewiswch y ddolen Golygu Rôl (Edit Role) [2].

Golygu Rôl Cwrs

Golygu Rôl Cwrs

Cliciwch y gwymplen Rôl (Role) [1], yna dewis y rôl newydd i’r defnyddiwr [2].

Nodyn: Yn dibynnu ar eich hawliau defnyddiwr, efallai na fyddwch chi’n gallu dewis o bob rôl defnyddiwr yn eich cwrs.

Golygu Mwy Nag Un Rôl

Golygu Mwy Nag Un Rôl

Os oes gan ddefnyddiwr fwy nag un rôl mewn cwrs, mae dewis rôl newydd yn disodli pob ymrestriad cyfredol y defnyddiwr.

Diweddaru Rôl

Diweddaru Rôl

Cliciwch y botwm Diweddaru (Update).