Sut ydw i'n defnyddio cyfarwyddyd sgorio i raddio cyflwyniadau yn SpeedGrader?
Os ydych chi'n ychwanegu cyfarwyddyd sgorio at aseiniad, gallwch asesu'r cyfarwyddyd sgorio yn SpeedGrader
Defnyddio Cyfarwyddyd Sgorio i Raddio
Os ydych chi am ddefnyddio'r cyfarwyddyd sgorio i gyfrifo gradd, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi dewis y blwch ticio Defnyddio’r cyfarwyddyd sgorio ar gyfer graddio aseiniadau wrth ychwanegu cyfarwyddyd sgorio at aseiniad. Gwnewch yn siŵr bod y blwch ticio hwn wedi'i ddewis cyn i chi ddechrau graddio cyflwyniadau.
Os na fyddwch chi'n dewis y cyfarwyddyd sgorio yn arbennig ar gyfer graddio, byddwch dal yn gallu defnyddio'r cyfarwyddyd sgorio i werthuso aseiniad ond ni fydd y sgôr yn diweddaru'n awtomatig.
Credyd Ychwanegol ar gyfer Deilliannau
Os yw eich cyfarwyddyd sgorio yn cynnwys deilliannau, mae'n bosib y byddwch yn gallu neilltuo pwyntiau ychwanegol i'r maen prawf deilliant os yw'r nodwedd hon wedi ei galluogi ar gyfer eich cwrs. Rhagor o wybodaeth am sut mae rheoli opsiynau nodweddion yn y wers ar nodweddion cyrsiau.
Nodiadau:
- Os nad yw eich cyfarwyddyd sgorio yn cynnwys unrhyw feini prawf sydd wedi'u rhagosod ar gyfer cyfarwyddyd sgorio, dylech raddio'r cyfarwyddyd sgorio gan ddefnyddio sylwadau testun rhydd.
- Os nad yw eich cyfarwyddyd sgorio yn cynnwys unrhyw werthoedd pwyntiau, dylech raddio'r cyfarwyddyd sgorio fel cyfarwyddyd sgorio sydd ddim yn cadw sgôr.
- Os nad yw’r camau yn y wers hon yn cyd-fynd â’r hyn sydd wedi’i ddangos yn eich cyfrif, dysgwch sut i ddefnyddio cyfarwyddyd sgorio yn y rhyngwyneb Cyfarwyddyd Sgorio Gwell (Rubric Enhancements).
Agor SpeedGrader
Agorwch SpeedGrader o unrhyw aseiniad, trafodaeth wedi’i graddio, neu gwis.
Gweld Cyfarwyddyd Sgorio
Cliciwch y botwm Gweld Cyfarwyddyd Sgorio (View Rubric).
Newid Maint Cyfarwyddyd Sgorio
I weld holl ffenestr cyfarwyddyd sgorio, efallai y bydd angen i chi sgrolio i lawr ac ar draws. I newid maint ffenestr cyfarwyddyd sgorio, cliciwch a llusgo'r golofn newid maint ar draws.
Cwblhau Cyfarwyddyd Sgorio
Ar gyfer pob maen prawf, cliciwch y lefel sgôr sy'n berthnasol i gyflwyniad y myfyriwr [1]. Mae'r lefel sgôr dan sylw yn dangos gwerth lefel sgôr yn y maes Pwyntiau (Points) [2]. Os yw maen prawf yn cynnwys ystod, mae clicio lefel sgôr yn dewis yr ystod gyfan ac yn mynd i'r gwerth uchaf yn yr ystod yn ddiofyn [3].
I ddewis gwerth arall o fewn yr ystod, teipiwch y gwerth yn y maes Pwyntiau (Points) [4]. Gallwch roi pwyntiau eich hun sydd tu hwnt i uchafswm gwerth pwynt y meini prawf. Mae pob maen prawf yn ychwanegu at gyfanswm pwyntiau'r myfyriwr [5].
I ddad-ddewis sgôr a newid yn ôl i’r gwerth pwynt a neilltuwyd, cliciwch y sgôr sydd wedi’i neilltuo [6].
Mae'n bosib y bydd deilliannau yn gallu cefnogi pwyntiau ychwanegol hefyd. Os nad yw pwyntiau ychwanegol ar ddeilliannau yn cael eu cadw ar ôl i'r cyfarwyddyd sgorio gael ei gadw, nid yw'r nodwedd hon wedi'i galluogi ar gyfer eich cwrs.
Hefyd, gallwch ychwanegu sylw at holl feini prawf y cyfarwyddyd sgorio trwy glicio'r eicon Gwneud Sylw (Comment) icon [7].
Cadw Cyfarwyddyd Sgorio
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Gweld Sgôr
Os byddwch chi'n gosod eich cyfarwyddyd sgorio ar gyfer graddio, bydd pwyntiau'r cyfarwyddyd sgorio yn cael eu gosod yn y maes gradd yn awtomatig. Fel arall, gallwch roi'r radd o'r cyfarwyddyd sgorio eich hun.