Sut ydw i’n defnyddio polisïau postio mewn cwrs?

Gallwch chi ddefnyddio polisiau postio yn y Llyfr Graddau i reoli gweladwyedd gradd aseiniad i fyfyrwyr. Mae myfyrwyr yn gallu gweld graddau wedi’u postio yn eich cwrs. Rydych chi’n gallu gweld graddau wedi’u cuddio yn llyfr graddau’r cwrs, ond nid yw myfyrwyr yn gallu eu gweld.

Mae modd gosod polisïau postio ar gyfer cwrs cyfan a/neu aseiniadau unigol. Bydd polisïau postio lefel aseiniad yn disodli’r polisi postio lefel cwrs ar gyfer yr aseiniad hwnnw. Pan mae polisi postio wedi’i osod i awtomatig, mae graddau’n cael eu postio’n awtomatig i fyfyrwyr pan maen nhw’n cael eu rhoi. Pan mae polisi postio wedi’i osod i eich hun, rhaid i raddau gael eu postio gennych chi i fyfyrwyr gan ddefnyddio’r opsiwn postio graddau cyn mae modd eu gweld.

Mae graddau wedi’u postio hefyd yn gallu cael eu cuddio gan ddefnyddio’r opsiwn Cuddio graddau. Mae’r opsiwn Cuddio graddau yn cuddio graddau y mae myfyrwyr yn gallu eu gweld ar hyn o bryd. Er mwyn sicrhau bod pob gradd aseiniad yn y dyfodol wedi’’u cuddio, bydd angen i chi ddefnyddio polisi postio eich hun ar gyfer yr aseiniad neu gwrs.

Nodiadau:

  • Rydym ni’n argymell eich bod chi’n gosod polisïau postio cwrs ac aseiniad cyn rhoi graddau.
  • Yn Cwisiau Clasurol, ni fydd myfyrwyr yn gallu gweld eu hymatebion i gwis tra bod graddau cwis wedi’u cuddio.
  • Yn Cwisiau Newydd, nid yw cuddio graddau’n effeithio ar allu myfyriwr i gael gafael ar eu sgorau cwis. Rhaid rheoli gallu myfyrwyr i weld Cwisiau newydd o'r ddewislen gosodiadau cwis.

Gweld Siart Polisïau Postio

Gweld Siart Postio Polisïau

Mae’r siart hwn yn amlinellu sut mae polisïau postio’n gweithio i addysgwyr yn eu cyrsiau. Dylech chi ddewis polisi postio cwrs yn seiliedig ar eich dewis postio graddau cyffredinol. Yna gallwch chi osod polisïau postio ar gyfer aseiniadau unigol fel bo angen.

Gallwch chi hefyd guddio graddau sydd eisoes wedi’u postio, yn enwedig os oes angen i chi drwsio gwallau neu os cafodd graddau eu postio drwy gamgymeriad.

Pan mae myfyrwyr wedi gosod gosodiadau hysbysu gradd, byddan nhw’n derbyn hysbysiadau pan mae graddau’n cael eu postio, fel y nodir yn y siart.

Gallwch chi hefyd weld y siart hwn fel PDF rhyngweithiol.

Gosod Polisi Postio Cwrs

Gosod Polisi Postio Cwrs

Yn ddiofyn, mae gan gyrsiau Canvas bolisi postio Awtomatig (Automatic) [1]. Mae graddau aseiniadau, sylwadau graddio ac anodiadau cyflwyno’n gallu cael eu gweld gan fyfyrwyr cyn gynted â bo graddau’n cael eu rhoi yn y Llyfr Graddau neu’n cael eu cyflwyno yn SpeedGrader.

Neu, gallwch chi ddewis polisi postio Eich Hun (Manual) ar gyfer eich cwrs [2]. Mae graddau aseiniadau, sylwadau graddio ac anodiadau cyflwyno wedi’u cuddio rhag myfyrwyr nes eich bod chi’n eu postio eich hun. Ni fydd Anodiadau Cyflwyno’n unig yn ysgogi’r opsiwn i bostio graddau, byddai angen rhoi gradd eu sylw graddio. Mae modd i fyfyrwyr weld sylwadau adolygiad gan gyd-fyfyrwyr pan mae graddau aseiniad wedi’u cuddio. Ond, dim ond os bydd yr addysgwr yn postio graddau neu sylwadau cyflwyno y bydd myfyrwyr yn gallu gweld sylwadau addysgwr.

Dysgu sut i ddewis polisi postio cwrs.

Gosod Polisi Postio Aseiniad

Gosod Polisi Postio Aseiniad

Gallwch chi hefyd ddewis polisi postio graddau ar gyfer aseiniadau unigol. Pan fyddwch chi’n gosod polisi postio aseiniad unigol, bydd y polisi postio cwrs yn cael ei ddisodli ar gyfer yr aseiniad hwnnw.  

Er enghraifft, os byddwch chi’n defnyddio polisi postio cwrs Awtomatig, efallai y byddwch chi eisiau cuddio graddau aseiniadau ar gyfer aseiniad penodol nes bod pob cyflwyniad wedi’i raddio. Gallwch chi ddewis polisi postio eich hun ar gyfer aseiniad, a bydd graddau’n aros wedi’u cuddio o wedd myfyrwyr nes eich bod chi’n eu postio eich hun yn eihc cwrs.

Dysgu sut i ddewis polisi postio aseiniad.

Postio Graddau wedi’u Cuddio

Postio Graddau wedi’u Cuddio

Pan fyddwch chi’n barod i fyfyrwyr weld graddau, gallwch chi bostio graddau a/neu sylwadau cyflwyno ar gyfer aseiniad penodol. Gallwch chi bostio graddau i bawb ar y cwrs [1], neu gallwch chi bostio dim ond graddau ar gyfer cyflwyniadau wedi’u graddio [2].

Pan fyddwch chi’n postio graddau i bawb, nid yw cyflwyniadau heb eu graddio yn dangos gradd.

Pan fyddwch chi’n postio graddau ar gyfer cyflwyniadau wedi’u graddio a/neu sylwadau cyflwyno, bydd unrhyw raddau aseiniadau heb eu graddio sy’n cael eu diweddaru yn nes ymlaen yn aros wedi’u cuddio nes eu bod yn cael eu postio gennych chi.

Os byddwch chi’n diweddaru graddau wedi’u postio, bydd myfyrwyr yn gallu gweld y diweddariadau hyn ac, yn dibynnu ar eu gosodiadau hysbysebu, yn cael hysbysiad newid gradd.  

Dysgwch am bostio graddau ar gyfer aseiniad. Dysgwch am bostio graddau ar gyfer aseiniad o SpeedGrader.

Cuddio Graddau wedi’u Postio

Cuddio Graddau wedi’u Postio

Os oes angen i chi guddio graddau sydd eisoes wedi cael eu postio i fyfyrwyr eu gweld, gallwch chi Guddio Graddau yn y llyfr graddau. Dim ond graddau sydd eisoes wedi’u rhoi sy’n cael eu heffeithio gan guddio graddau.

Dysgwch am guddio graddau aseiniadau. Dysgwch am guddio graddau ar gyfer aseiniad o SpeedGrader.

Nodiadau:

  • Pan fyddwch chi’n cuddio graddau, bydd yr aseiniad yn cadw ei bolisi postio. Os byddwch chi’n ychwanegu graddau aseiniad ar gyfer myfyrwyr ychwanegol i aseiniad gyda pholisi postio awtomatig, mae’r myfyrwyr yn gallu gweld y graddau hynny.
  • Ar ôl cuddio graddau, os ydych chi eisiau cuddio graddau myfyrwyr ychwanegol ar gyfer yr aseiniad, gosodwch bolisi postio’r aseiniad i Eich Hun.

Gweld Eiconau Polisi Postio’r Llyfr Graddau

Gweld Eiconau Postio Polisi’r Llyfr Graddau

Mae aseiniadau gyda pholisi postio eich hun yn dangos label Eich Hun (Manual) [1]. Pan fyddwch chi’n rhoi graddau ar gyfer aseiniadau polisi postio eich hun, mae’r llyfr graddau’n dangos eicon Gweladwyedd [2]. Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld gradd eu haseiniad nes eich bod chi yn ei phostio. Yn ogystal, pan mae gradd aseiniad wedi’i chuddio ar gyfer myfyriwr, mae’r golofn Cyfanswm yn dangos eicon Gweladwyedd [3].

Gwedd Myfyriwr

Gwedd Myfyriwr

Pan mae graddau aseiniadau wedi’u cuddio, mae tudalen raddau’r myfyriwr yn dangos eicon Gweladwyedd. Mae graddau wedi’u postio i’w gweld yn lle’r eicon.