Sut ydw i’n defnyddio’r Canvas App Center mewn cwrs?
Drwy’r Ganolfan Apiau gallwch gael gafael ar adnoddau dysgu pwerus sy’n hawdd eu hintegreiddio mewn cwrs Canvas.
Agor Gosodiadau
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor Apiau
Cliciwch y tab Apiau (Apps).
Gweld y Ganolfan Apiau
Mae’r Ganolfan Apiau yn dangos pob ap sydd ar gael yn eich cwrs [1]. Hefyd, gallwch hidlo yn ôl y rhai wedi’u gosod [2] a’r rhai heb eu gosod [3], neu ddefnyddio’r maes chwilio i ddod o hyd i ap penodol [4].
Gweld Ap
I weld disgrifiad byr o ap, mae angen hofran dros yr ap. I weld yr holl fanylion, cliciwch yr ap.
Gweld Manylion Ap
Ar y dudalen manylion, gallwch weld disgrifiad o’r ap [1]. Pan fyddwch chi’n barod i osod yr ap gyda’r manylion adnabod cywir, gallwch ychwanegu’r ap fel adnodd ar gyfer eich cwrs [2].
Nodyn: Dydy’r Canvas App Center ddim wastad yn cynnwys yr holl wybodaeth am ap. Efallai y byddwch chi am ymweld â’r Edu App Center i gael y manylion llawn am ap allanol rydych chi am ei ffurfweddu.
Gweld Ffurfweddiadau Ap
I weld apiau a ffurfweddiadau sy’n bodoli’n barod yn eich cwrs, cliciwch y botwm Gweld Ffurfweddiadau Ap (View App Configurations).
Gweld Apiau Lefel y Cyfrif
Gallwch weld pob ap sydd wedi’i ffurfweddu yn eich cwrs.
Mae apiau sydd wedi’u ffurfweddu gan eich gweinyddwr Canvas ar lefel y cyfrif yn cynnwys eicon Clo [1]. Gallwch weld lleoliad yr ap drwy glicio’r eicon Gwybodaeth [2]. Mae’r lleoliad yn dangos lle mae’r ap, ee yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs neu’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel eich bod yn gwybod lle mae’n ymddangos yn eich cwrs.
Rheoli Apiau Lefel y Cwrs
I weld ffurfweddiadau ap allanol ar lefel y cwrs, cliciwch eicon Gosodiadau yr ap [1]. I olygu’r ap, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2]. I weld lleoliadau ar gyfer yr ap, cliciwch y ddolen Lleoliadau (Placements) [3]. I ddileu’r ap, cliciwch y ddolen Dileu (Delete) [4].
Gweld Lleoliadau Ap
Mae Lleoliadau Ap yn dangos lle yn Canvas y mae modd defnyddio eich ap.
Nodyn: Mae’n bosib y byddwch chi’n gweld neges Dim Lleoliadau wedi’u Galluogi (No Placements Enabled). Mae’r neges hon yn nodi nad oes gan yr ap unrhyw leoliadau penodol o fewn Canvas. Ond, bydd yr ap yn dal i weithio’n iawn.