Sut ydw i’n creu grwpiau deilliannau ar gyfer cwrs?

Drwy grwpio deilliannau mewn cwrs, mae modd trefnu nifer o ddeilliannau cysylltiedig.

Mae’r wers hon yn dangos sut mae creu grwpiau deilliannau yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cwrs yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn y wers hon, dysgwch sut mae creu grwp deilliannau mewn cwrs mewn cyfrif sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau.

Agor Deilliannau

Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).

Ychwanegu Grŵp Deilliannau

Ychwanegu Grŵp Deilliannau

Cliciwch y botwm Grŵp Newydd (New Group).

Creu Grŵp Deilliannau

Creu Grŵp Deilliannau

Rhowch enw grŵp Deilliannau Dysgu (Learning Outcome) yn y maes Enwi’r grŵp hwn (Name this group) [1]. Rhowch ddisgrifiad yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2]. Cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].

Gweld Grŵp Deilliannau

Gweld y grŵp Deilliannau. Gallwch chi greu deilliannau newydd yn y grŵp drwy greu deilliant newydd. Hefyd, gallwch symud deilliannau a grwpiau deilliannau i’r grŵp newydd.