Sut ydw i’n rhoi aseiniad i grŵp cwrs?
Gallwch chi greu aseiniad grŵp drwy ddefnyddio’r blwch ticio Aseiniad Grŵp. Mae Canvas yn defnyddio setiau grŵp i neilltuo aseiniadau grŵp, ac mae angen pob grŵp yn y set grŵp sydd wedi’i neilltuo i’r aseiniad i gwblhau’r aseiniad. Wrth greu neu olygu aseiniad grŵp, gallwch roi aseiniad i grwpiau penodol. Hefyd, gallwch osod gwahanol ddyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael i grŵp o fewn aseiniad sydd wedi’i roi i weddill y dosbarth.
Bydd angen i chi neilltuo set grŵp fel rhan o’r aseiniad. Gallwch chi ychwanegu set grŵp sydd eisoes yn bodoli, neu gallwch chi greu set grŵp newydd fel rhan o'r aseiniad ac ychwanegu myfyrwyr at grwpiau yn nes ymlaen. Ond, os byddwch chi’n creu set grŵp gydag aseiniadau grŵp hunan-gofrestru neu eich hun ni fyddwch chi’n gallu defnyddio’r set grŵp nes bod defnyddwyr wedi cael eu hychwanegu at yr is-grwpiau hyn. Does dim modd defnyddio grwpiau wedi’u creu gan fyfyrwyr ar gyfer aseiniadau grŵp.
Wrth wahaniaethau grwpiau mewn aseiniad, dim ond os ydyn nhw’n aelod o grŵp wedi’i neilltuo y gall myfyrwyr weld yr aseiniad. Fel arall, ni fydd yr aseiniad yn ymddangos ar dudalen aseiniadau’r myfyriwr. Does dim modd rhoi graddau i fyfyrwyr sydd heb eu cynnwys yn yr aseiniad, a dydy aseiniadau sydd heb gael eu rhoi i fyfyriwr ddim yn cael eu cynnwys mewn graddau cyffredinol.
Pan fydd Mwy nag un Cyfnod Graddio ar waith mewn cwrs, mae’r aseiniadau hefyd yn cadw at gyfnodau graddio sydd wedi dod i ben.
Nodiadau:
- Mewn aseiniadau grŵp bydd un cyflwyniad yn cyfrif ar gyfer y grŵp cyfan. Rhagor o wybodaeth am werthuso gwaith grŵp.
- Does dim modd defnyddio aseiniadau grŵp gydag aseiniadau Adnodd Allanol.
- Dylai myfyrwyr gael eu neilltuo i grwpiau cyn i aseiniadau grŵp gael eu cyhoeddi. Efallai y bydd effaith ar raddau a chyflwyniadau myfyrwyr a oedd ddim yn y grŵp adeg cyflwyno’r aseiniad ond a gafodd eu hychwanegu at y grŵp yn nes ymlaen neu fyfyrwyr a gafodd eu tynnu o’r grŵp.
- Os oes mwy nag un dyddiad yn berthnasol i fyfyriwr, bydd Canvas yn rhoi'r dyddiad erbyn diweddaraf i'r myfyriwr. Er enghraifft, os yw dyddiad erbyn y grŵp yn 18 Tachwedd a bod y dyddiad erbyn unigol y myfyriwr yn 20 Tachwedd, yna bydd y myfyriwr yn cael dyddiad erbyn o 20 Tachwedd.
Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).
Ychwanegu Aseiniad

Cliciwch y botwm Ychwanegu Aseiniad (Add Assignment).
Dewis Aseiniad Grŵp

Cliciwch y botwm ticio Mae hwn yn Aseiniad Grŵp (This is a Group Assignment).
Neilltu Graddau’n Unigol

Gallwch chi ddewis neilltuo graddau i fyfyrwyr unigol drwy ddewis y blwch ticio Neilltuo graddau i bob myfyriwr yn unigol (Assign grades to each student individually).
Os bydd y blwch yn cael ei adael heb ei dicio, bydd pob myfyriwr yn grŵp yn cael yr un radd.
Dewis Set Grwpiau

I ddewis set grwpiau sy’n bodoli’n barod, cliciwch y gwymplen Set Grwpiau (Group Set) [1]. I greu categori grŵp newydd, cliciwch y botwm Categori Grŵp Newydd (New Group Category) [2].
Nodyn: Does dim modd defnyddio grwpiau wedi’u creu gan fyfyrwyr ar gyfer Aseiniadau Grŵp ac nid ydynt yn ymddangos yn y gwymplen.
Mynnu Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr

Mae modd defnyddio adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr gydag aseiniadau grŵp. Os ydych chi eisiau neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr, cliciwch y blwch ticio Mynnu Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr (Require Peer Reviews).
Neilltuo Gwahanol Ddyddiadau i Grwpiau

Yn ddiofyn, bydd Canvas yn rhoi’r aseiniad i bawb ar eich cwrs. I ychwanegu dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael newydd ar gyfer defnyddwyr eraill yn eich cwrs, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add) [1].
Yna, dechreuwch deipio enw’r grŵp yn y maes Rhoi i (Assign to) newydd [2]. Mae meysydd chwilio’n ddeinamig, a gallwch chwilio am unrhyw ran o enw’r grŵp. Cliciwch enw’r grŵp pan mae’n ymddangos [3]. Does dim modd sgrolio drwy restrau.
Gallwch gynnwys mwy nag un myfyriwr yn y maes Rhoi i (Assign to) cyn belled â bod y grwpiau’n cael yr un dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael.
Neilltuo i Grŵp yn Unig

I greu aseiniad sydd ddim ond ar gyfer grŵp penodol yn y set grŵp, cliciwch yr eicon Tynnu wrth y label Pawb [1].
Dechreuwch deipio enw’r grŵp yn y maes Rhoi i (Assign to) [2]. Cliciwch enw’r grŵp pan mae’n ymddangos [3].
Golygu Dyddiadau Erbyn a Dyddiadau Ar Gael

Yn y meysydd dyddiad, rhowch y dyddiad(au) rydych chi’n eu ffafrio gyda’r opsiynau canlynol:
- Erbyn (Due) [1]: Gosodwch ddyddiad ac amser cyflwyno’r aseiniad hwn. Bydd y dyddiad erbyn wedi’i lenwi’n barod i chi os ydych chi wedi creu cragen aseiniad, ond gallwch ei newid os oes angen.
- Ar gael o [2]: Gosodwch y dyddiad a’r amser pan fydd yr aseiniad ar gael.
- Tan [3]: Gosodwch y dyddiad a’r amser pan na fydd yr aseiniad ar gael bellach.
Nodyn: O dan y meysydd Dyddiad Erbyn (Due Date) a Dyddiad Ar Gael (Availability date), bydd Canvas yn dangos dyddiad ac amser y gylchfa amser yn ôl y cyd-destun. Os ydych chi’n rheoli cyrsiau mewn cylchfa amser wahanol i’ch cylchfa amser leol ac yn creu neu’n golygu dyddiad erbyn aseiniad, yna mae amser y cwrs a’r amser lleol yn cael eu dangos er gwybodaeth.
Tynnu Dyddiadau

Hefyd, gallwch ddileu dyddiadau ychwanegol drwy glicio’r eicon tynnu wrth y dyddiad perthnasol.
Cadw a Chyhoeddi

Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich aseiniad, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish) [1]. Os ydych chi am greu drafft o’ch aseiniad a’i gyhoeddi rywbryd eto, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].
Gweld Rhybudd Dyddiad Erbyn

Hyd yn oed os nad ydych chi’n ychwanegu adrannau, byddwch yn gweld neges rhybudd yn gofyn a ydych chi am ychwanegu adrannau.
Os nad ydych chi am ychwanegu unrhyw adrannau eraill at yr aseiniad, yna gallwch glicio’r botwm Bwrw ymlaen (Continue) [1] neu cliciwch y botwm Yn ôl (Go Back) [2] i fynd yn ôl ac ychwanegu adrannau.
Nodyn: Ni fydd y rhybudd hwn yn ymddangos os yw pawb yn y cwrs neu os yw pob adran o’r cwrs wedi’i neilltuo.
Gweld Gwall Dyddiad

Os wnewch chi gyflwyno llinyn annilys o ddyddiadau erbyn a cheisio cadw’r aseiniad, yna bydd Canvas yn cynhyrchu hysbysiad gwall. Mae cofnodion annilys o’r fath yn cynnwys peidio datgloi’r aseiniad mewn pryd, peidio gosod y dyddiad erbyn o fewn ystod y dyddiadau ar gael, neu osod dyddiad sydd y tu allan i ddyddiadau’r cwrs neu’r tymor.
Cywirwch y dyddiad ac wedyn diweddarwch yr aseiniad eto.
Nodiadau:
- Os nad yw’r cwrs yn cynnwys dyddiadau dechrau a gorffen penodol, yna bydd Canvas yn dilysu’r aseiniad yn erbyn y dyddiad tymor sydd wedi’i osod ar gyfer y cwrs.
- Os yw eich cwrs yn defnyddio Mwy nag Un Cyfnod Graddio (Multiple Grading Periods), yna mae’r maes Rhoi (Assign) yn dilysu’r dyddiad erbyn yn erbyn y cyfnod graddio sydd wedi dod i ben, ac mae gofyn i ddyddiad yr aseiniad fod ar ôl dyddiad y cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.
Gweld Dyddiadau Aseiniad

Gallwch weld y dyddiadau a’r defnyddwyr sydd wedi’u hychwanegu at yr aseiniad.
Gweld Tudalen Aseiniadau

Ar y Dudalen Mynegai Aseiniadau (Assignments Index Page), mae’r aseiniad yn dangos bod mwy nag un defnyddiwr a dyddiad wedi’u gosod ar yr aseiniad. Gallwch hofran dros y testun i weld pa ddyddiadau sydd ar gael.