Sut ydw i’n anfon tudalen at addysgwr arall?

Fel addysgwr, gallwch chi rannu tudalennau unigol yn eich cwrs gydag addysgwyr eraill yn eich sefydliad. Gallwch chi hefyd gopïo tudalen unigol i gwrs arall. Pan fyddwch chi’n rhannu tudalen, bydd unrhyw asedau yn y dudalen honno (delweddau, ffeiliau, ac ati) yn cael eu cynnwys yn y ffeil sydd wedi’i rhannu.

Nodiadau:  

  • I rannu cynnwys cwrs, rhaid i chi fod â’r hawl Cynnwys Cwrs - ychwanegu / golygu / dileu wedi’i alluogi.
  • Nid yw cynnwys wedi’i rannu yn cyfrif tuag at gwotâu cysiau na defnyddwyr.
  • Gallwch chi ddefnyddio’r nodwedd Anfon at i anfon cynnwys cwrs atoch chi eich hun.

Agor Tudalennau

Agor Tudalennau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).

Gweld Pob Tudalen

Mae’r adran Tudalennau (Pages) wedi’i dylunio i agor i dudalen flaen y cwrs, os oes tudalen flaen wedi cael ei dewis. I ddewis tudalen o’r mynegai Tudalennau (Pages), cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).

Agor Opsiynau Tudalen

Chwiliwch am y dudalen rydych chi am ei hanfon i ddefnyddiwr, yna cliciwch eicon Opsiynau y dudalen [1]. Dewiswch yr opsiwn Anfon at... (Send to...) [2].

Dewis Derbynnydd

Dewis Derbynnydd

I anfon eich tudalen at addysgwr arall, cliciwch neu deipio yn y maes Anfon at (Send to) [1]. Yna cliciwch enw’r addysgwr i dderbyn eich tudalen [2].

Nodyn: Gallwch chi anfon y dudalen i fwy nag un addysgwr ar y tro.

Gweld Derbynwyr

Gweld Derbynwyr

Gallwch chi weld yr holl dderbynwyr sydd wedi’u dewis yn y maes Anfon at (Send to) [1]. I dynnu derbynydd, cliciwch yr eicon tynnu [2].

Nodyn: I rannu’r dudalen â chi eich hun, ychwanegwch eich enw at y maes Anfon at

Anfon Tudalen

Anfon Tudalen

Cliciwch y botwm Anfon (Send).

Gweld Hysbysiad wedi’i Anfon

Gweld Hysbysiad wedi’i Anfon

Mae Canvas yn dangos hysbysiad pan fo cynnwys wedi’i anfon yn llwyddiannus.

Gweld Cynnwys wedi’i Rannu

Gweld Cynnwys wedi’i Rannu

Pan fydd addysgwr yn derbyn cynnwys wedi’i rannu, bydd bathodyn yn ymddangos ar eicon Cyfrif y defnyddiwr [1] ac yn y ddolen Cynnwys wedi’i Rannu [2].

Dysgu sut i reoli cynnwys wedi’i dderbyn.