Sut ydw i’n defnyddio’r Dudalen Mynegai Aseiniadau?
Gallwch weld eich holl aseiniadau ar gyfer cyrsiau ar y dudalen Mynegai Aseiniadau. Fel addysgwr, gallwch hefyd ychwanegu grwpiau aseiniadau, creu aseiniad ac addasu gosodiadau aseiniad. Gallwch hefyd aildrefnu aseiniadau a grwpiau aseiniadau.
Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).
Gweld Tudalen Mynegai Aseiniadau

Mae’r dudalen Mynegai Aseiniadau wedi’i chynllunio gyda gosodiadau cyffredinol ar frig y dudalen [1], yna’r grwpiau Aseiniadau (Assignment) [2]. Mae Aseiniadau unigol yn cael eu gosod ym mhob grŵp Aseiniadau [3].
Nodyn: Mae'r dudalen Mynegai Aseiniadau yn delio â bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau hwylus, pwyswch y bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.
Gweld Opsiynau Cyffredinol Aseiniad
Mae’r gosodiadau cyffredinol yn cynnwys chwilio am aseiniadau [1], ychwanegu grŵp aseiniadau newydd [2], ac ychwanegu aseiniad newydd [3]. I bwysoli’r radd derfynol gyda grwpiau aseiniadau neu i ddiweddaru swp o ddyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [4].
Gweld yn ôl Cyfnodau Graddio
Pan fydd y nodwedd mwy nag un cyfnod graddio wedi’i galluogi ar gwrs, gallwch ddefnyddio’r gosodiadau cyffredinol i drefnu a hidlo’r dudalen Aseiniadau yn ôl cyfnod graddio.
Mae aseiniadau a grwpiau aseiniadau yn cael eu dilysu yn erbyn aseiniadau mewn cyfnodau graddio sydd wedi dod i ben.
Gweld Mathau Aseiniadau

Mae'r dudalen Aseiniadau yn dangos yr holl aseiniadau yn y cwrs. Mae pob math o aseiniad yn dangos eicon sy'n cynrychioli'r math o aseiniad: aseiniad [1], trafodaeth [2], cwis clasurol [3], neu cwis newydd [4].
Mae Trafodaethau a chwisiau hefyd yn ymddangos o fewn eu tudalennau mynegai yn Canvas.
Gweld Asesiadau New Quizzes

Os ydych chi’n defnyddio LTI New Quizzes yn eich cwrs, mae New Quizzes wedi’u nodi gan yr eicon New Quizzes [1]. Mae cwisiau sydd wedi cael eu creu gydag adnodd cwisiau clasurol Canvas wedi’u nodi gan yr eicon Classic Quiz [2]. Gellir defnyddio'r ddau fath o gwis yn yr un cwrs.
Am gymorth gyda swyddogaethau New Quizzes, ewch i weld y bennod New Quizzes yn y Canllaw Addysgwyr
Gweld Aseiniad Unigol

Mae pob aseiniad yn dangos enw’r aseiniad [1], dyddiad erbyn (os oes un) [2], sawl pwynt y mae’r aseiniad werth [3], a statws drafft yr aseiniad (wedi’i gyhoeddi neu heb ei gyhoeddi) [4].
Gallwch hefyd osod gwahanol ddyddiadau erbyn ar gyfer aseiniad, a chreu dyddiadau erbyn yn unol ag adran y cwrs. Mae gwahanol ddyddiadau erbyn yn ymddangos fel mwy nag un dyddiad.
Os oes aseiniad yn gysylltiedig â modiwl, bydd enw’r modiwl yn ymddangos ar eitem llinell unigol yr aseiniad [5].
Nodyn: Does dim rhaid rhoi dyddiadau erbyn ar gyfer aseiniad.
Gweld Dyddiadau Ar Gael

Mae aseiniadau hefyd yn gallu cynnwys dyddiadau ar gael. Mae dyddiadau ar gael yn gallu golygu nad yw aseiniad ond ar gael am gyfnod penodol.
Rheoli Aseiniad Unigol
I weld aseiniad, cliciwch enw’r aseiniad [1].
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwymplen opsiynau i olygu’r aseiniad [2], open SpeedGrader [3], dyblygu’r aseiniad [4], rheoli myfyrwyr sy’n rhan o'r aseiniad a dyddiadau'r aseiniad [5], dileu’r aseiniad [6], symud yr aseiniad [7], anfon yr aseiniad at addysgwr arall [8], neu gopïo’r aseiniad i gwrs arall [9].
Nodyn: Gellir rheoli'r gosodiad Llwybrau Meistroli yn eich cwrs os yw'r gosodiad wedi ei alluogi gan eich sefydliad.
Aildrefnu Aseiniad eich Hun

Gallwch hefyd aildrefnu aseiniad eich hun drwy hofran dros y ddolen llusgo wrth ymyl yr aseiniad, a llusgo’r aseiniad i’r lleoliad dan sylw.
Nodyn: Os ydych chi’n defnyddio Mwy nag un Cyfnod Graddio, does dim modd i aseiniadau na chwisiau sy’n rhan o gyfnod graddio sydd wedi dod i ben gael eu symud i grŵp aseiniadau arall. Fodd bynnag, fe allwch chi symud aseiniadau a chwisiau i grŵp aseiniadau arall.
Gweld Aseiniadau SIS

Os yw’ch sefydliad wedi galluogi integreiddiad system gwybodaeth myfyrwyr (SIS), gallwch weld a yw aseiniad wedi’i osod i gael ei anfon i SIS eich sefydliad. Gall aseiniadau wedi’u graddio gael eu galluogi’n uniongyrchol drwy glicio’r eicon cysoni wrth ymyl aseiniad.
Mae rhai integreiddiadau SIS, fel PowerSchool, yn gadael i chi fewngludo grwpiau aseiniadau. Mae grwpiau wedi’u mewngludo yn cynnwys eicon mewngludo, er mwyn gallu gwahaniaethu rhwng y grwpiau hynny a grwpiau aseiniadau sydd heb gael eu creu’n awtomatig yn Canvas.
Nodyn: Efallai y bydd rhai sefydliadau yn cyfyngu ar enwau aseiniadau a/neu’n mynnu bod gan aseiniadau ddyddiadau erbyn. Os ydych chi'n ceisio galluogi aseiniad a'ch bod yn cael neges gwall, bydd y neges yn dangos beth y mae angen ei ddatrys cyn bod modd galluogi’r aseiniad i'w gysoni â'ch SIS.
Analluogi’r broses Cysoni

Os oes angen i chi analluogi’r broses cysoni ar gyfer pob aseiniad yn y cwrs heb eu rheoli’n unigol, gallwch analluogi’r broses cysoni ar gyfer pob aseiniad ar yr un pryd. Cliciwch y ddewislen Opsiynau (Options) [1] a dewis y ddolen Analluogi Cysoni â SIS (Disable Sync to SIS) [2]. Bydd pob aseiniad yn cael ei ddiweddaru, a bydd y broses cysoni â SIS wedi’i hanalluogi ar eu cyfer.
Nodyn: Dydy Analluogi Cysoni â SIS ddim ar gael yn y ddewislen Opsiynau (Options), oni bai fod o leiaf un aseiniad wedi’i alluogi’n barod i’w gysoni â SIS.
Gweld Llwybrau Meistroli

Os ydych chi’n defnyddio Llwybrau Meistroli ar eich cwrs, gallwch weld pa eitemau sydd wedi cael eu gosod yn yr adran Modiwlau fel Llwybrau Meistroli neu fel eitemau cynnwys amodol.
Nodyn: Gellir rheoli'r gosodiad Llwybrau Meistroli yn eich cwrs os yw'r gosodiad wedi ei alluogi gan eich sefydliad.
Gweld Cwrs Glasbrint

Os yw eich cwrs yn cynnwys eiconau Glasbrint (Blueprint), yna mae eich cwrs yn gysylltiedig â chwrs glasbrint. Mae Cyrsiau Glasbrint yn gyrsiau sy’n cael eu rheoli fel templed a gallant gynnwys gwrthrychau wedi’u cloi ac wedi’u rheoli gan weinyddwr, dylunydd cyrsiau, neu addysgwr arall yn Canvas.
Bydd y tab Manylion Cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs yn rhoi gwybod i chi os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint. Fel arfer, ni fydd eich cwrs yn gwrs glasbrint a dim ond cynnwys wedi’i ddatgloi fyddwch chi’n gallu ei reoli yn eich cwrs. Os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint, gallwch gloi a chysoni cynnwys cwrs â chyrsiau cysylltiedig.