Sut ydw i’n defnyddio’r Dudalen Mynegai Cydweithrediadau?

Mae’r Dudalen Mynegai Cydweithrediadau yn gadael i chi greu cydweithrediadau ar gyfer defnyddwyr ar eich cwrs. Gallwch greu cydweithrediadau newydd, golygu cydweithrediadau sy’n bodoli’n barod a dileu cydweithrediadau.

Os bydd eich sefydliad yn rhoi caniatâd, gall myfyrwyr greu cydweithrediadau yn y cwrs. Gallwch bob amser weld unrhyw gydweithrediad sydd wedi’i greu gan fyfyriwr ar y cwrs, ond dim ond cydweithrediadau sydd wedi cael eu rhannu â nhw y bydd myfyrwyr eraill yn gallu eu gweld. Os ydych chi wedi creu grwpiau yn eich cwrs, bydd myfyrwyr bob amser yn gallu creu cydweithrediadau o fewn grwpiau.

Dysgu mwy am Gydweithrediadau.

Note: Yn dibynnu ar ddewisiadau eich sefydliad, mae’n bosib na fydd eich tudalen Cydweithrediadau yn cyfateb i’r delweddau sydd yn y wers hon. Ond, bydd y ffordd y mae'r dudalen yn gweithio yn aros yr un fath.

Ni fydd modd delio â Google Apps LTI ar ôl 30 Mehefin, 2024. Dysgwch sut mae creu cydweithrediadau gan ddefnyddio Google Assignments LTI 1.3.

Agor Cydweithrediadau

Agor Cydweithrediadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cydweithrediadau (Collaborations).

Gweld Cydweithrediadau

Bydd y dudalen Cydweithrediadau yn dangos pob cydweithrediad sydd wedi cael ei greu ar gyfer y cwrs. Ar gyfer pob cydweithrediad, mae modd gweld enw’r cydweithrediad [1], y disgrifiad [2], y person sydd wedi creu’r cydweithrediad [3], a dyddiad a'r amser y cafodd y cydweithrediad ei greu [4].

Ychwanegu Cydweithrediad

I greu cydweithrediad newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Cydweithrediad (Add Collaboration).

Yn dibynnu ar ddewisiadau’ch sefydliad, mae’n bosib y byddwch chi’n gallu creu cydweithrediad Google Drive neu greu cydweithrediad Microsoft Office 365.

Os nad yw eich tudalen cydweithrediadau yn cyfateb i’r ddelwedd yn y wers hon, byddwch chi’n dal yn gallu creu cydweithrediad Google Docs.

Note: Ni fydd modd delio â Google Apps LTI ar ôl 30 Mehefin, 2024. Dysgwch sut mae creu cydweithrediadau gan ddefnyddio Google Assignments LTI 1.3.

Agor Cydweithrediad

I agor cydweithrediad, cliciwch enw’r cydweithrediad.

Note: Bydd y cydweithrediad yn agor mewn tab newydd. Mae’n bosib y gofynnir i chi fewngofnodi i weld y ffeil.

Rheoli Cydweithrediadau

I olygu cydweithrediad, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddileu cydweithrediad, cliciwch yr eicon Dileu [2].