Sut ydw i’n ymateb i drafodaeth fel addysgwr?

Gallwch ymateb yn hawdd i unrhyw drafodaeth, un aml-drywydd neu benodol. Ond, mae’r broses ymateb yn amrywio yn ôl y math o drafodaeth.

Os nad yw’r camau yn y wers hon yn cyd-fynd â’r hyn sydd wedi’i ddangos yn eich cwrs, dysgwch sut i ymateb i drafodaeth yn y rhyngwyneb Ailddylunio Trafodaethau.

Nodyn: Mae Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor) ar gyfer ateb trafodaeth yn dangos cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun.

Agor Trafodaethau

Agor Trafodaethau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).

Agor Trafodaeth

Cliciwch enw’r Drafodaeth.

Ymateb i Drafodaeth

Ymateb i Drafodaeth

I ymateb i’r brif drafodaeth, teipiwch eich ymateb yn y maes Ymateb (Reply).

Postio Neges

Postio Neges

I roi eich ymateb, ychwanegu dolenni, lluniau, hafaliadau, a/neu gyfryngau, defnyddiwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [1]. I atodi ffeiliau at eich ymateb i drafodaeth, ciciwch y ddolen Atodi (Attach) [2].

I bostio eich ymateb, cliciwch y botwm Postio Ymateb (Post Reply) [3].

Nodyn: Os byddwch chi’n postio eich ymateb i drafodaeth cyn i ddelwedd atodol orffen llwytho i fyny, mae Canvas yn dangos neges rhybudd.

Gweld eich Ymateb

Gweld eich Ymateb

Bydd eich ymateb yn cael ei bostio ar waelod yr edefyn ymateb i drafodaeth. Bydd border eich post yn fflachio’n las i ddangos ei fod wedi cael ei bostio’n ddiweddar. Bydd y dangosydd dot drws nesaf i’ch post yn dangos amlinelliad eicon yn syth os bydd Canvas yn marcio’n awtomatig bod eich post wedi’i ddarllen. Ond, os ydych chi’n marcio eich hun bod eich post wedi’i ddarllen, bydd y dangosydd yn aros yn ddot solid.

Ymateb i Sylw mewn Trafodaeth Benodol

Ymateb i Sylw mewn Trafodaeth Benodol

Mewn trafodaeth benodol, gallwch ymateb i sylw sydd wedi cael ei bostio gan fyfyriwr arall drwy glicio yn y maes ymateb (reply) o dan y post.

Postio Neges

Postio Neges

I roi eich ymateb, ychwanegu dolenni, lluniau, hafaliadau, a/neu gyfryngau, defnyddiwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [1]. I atodi ffeiliau at eich ymateb i drafodaeth, ciciwch y ddolen Atodi (Attach) [2].

I bostio eich ymateb, cliciwch y botwm Postio Ymateb (Post Reply) [3].

Nodyn: Os byddwch chi’n postio eich ymateb i drafodaeth cyn i ddelwedd atodol orffen llwytho i fyny, mae Canvas yn dangos neges rhybudd.

Gweld eich Ymateb

Gweld eich Ymateb

Bydd eich ymateb yn cael ei bostio ar waelod yr edefyn ymateb i drafodaeth. Bydd border eich post yn fflachio’n las i ddangos ei fod wedi cael ei bostio’n ddiweddar. Bydd y dangosydd dot drws nesaf i’ch post yn troi’n wyn yn syth os bydd Canvas yn marcio’n awtomatig bod eich post wedi’i ddarllen. Ond, os ydych chi’n marcio eich hun bod eich post wedi’i ddarllen, bydd y dangosydd yn aros yn las.

Ymateb i Sylw mewn Trafodaeth Aml-Drywydd

Ymateb i Sylw mewn Trafodaeth Aml-Drywydd

Mewn trafodaeth aml-drywydd, mae modd ymateb i sylw sydd wedi cael ei bostio gan fyfyriwr arall. Dewch o hyd i’r post yr hoffech chi ymateb iddo a chliciwch yr eicon ymateb.

Postio Neges

Postio Neges

I roi eich ymateb, ychwanegu dolenni, lluniau, hafaliadau, a/neu gyfryngau, defnyddiwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [1]. I atodi ffeiliau at eich ymateb i drafodaeth, ciciwch y ddolen Atodi (Attach) [2].

I bostio eich ymateb, cliciwch y botwm Postio Ymateb (Post Reply) [3].

Nodyn: Os byddwch chi’n postio eich ymateb i drafodaeth cyn i ddelwedd atodol orffen llwytho i fyny, mae Canvas yn dangos neges rhybudd.

Gweld eich Ymateb

Gweld eich Ymateb

Bydd eich ymateb yn cael ei bostio ar waelod yr edefyn ymateb i drafodaeth. Bydd border eich post yn fflachio’n las i ddangos ei fod wedi cael ei bostio’n ddiweddar. Bydd yr eicon heb eu darllen drws nesaf i’ch post yn troi i’r eicon wedi’u darllen yn syth os bydd Canvas yn marcio bod eich post wedi’i ddarllen yn awtomatig. Ond, os ydych chi’n mynd ati eich hun i farcio bod y post wedi’i ddarllen, bydd yn dangos yr eicon heb eu darllen nes i chi fynd ati’ch hun i farcio bod y post wedi’i ddarllen.