Sut ydw i’n gosod gradd ddiofyn i aseiniad yn y Llyfr Graddau?
Os ydych chi eisiau gosod gradd ddiofyn ar gyfer aseiniad penodol, defnyddiwch gwymplen yr aseiniad. Mae modd godo graddau diofyn i bob myfyriwr neu dim ond i fyfyrwyd swydd heb gael gradd eto.
Nodiadau:
- Pan mae Mwy nag un Cyfnod Graddio ar waith mewn cwrs, does dim modd i chi osod gradd ddiofyn ar gyfer unrhyw aseiniad sydd ag o leiaf un myfyriwr mewn cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.
- Pan mae Graddau wedi’u Safoni wedi’u galluogi ar gyfer aseiniad, nid yw’r opsiwn Gosod Gradd Ddiofyn ar gael cyn i raddau gael eu rhyddhau.
- Nid yw statws cyflwyno wedi’u ffactora i mewn i roi graddau diofyn.
Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).
Agor y Ddewislen Aseiniadau

Hofrwch dros bennawd y golofn aseiniad a chlicio’r eicon Opsiynau.
Gosod Gradd Ddiofyn

Cliciwch y ddolen Gosod Gradd Ddiofyn (Set Default Grade).
Creu Graddau Diofyn

Teipiwch y gwerth gradd diofyn yn y maes Gwerth Gradd (Grade Value) [1]. Os hoffech chi ddisodli graddau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer yr aseiniad, dewiswch y blwch ticio Disodli graddau sydd wedi’u rhoi’n barod (Overwrite already-entered grades) [2].
Cliciwch y botwm Gosod Gradd Ddiofyn (Set Default Grade) [3].
Nodiadau:
- Os ydy’r maes Gwerth Gradd yn cael ei adael yn wag a bod y blwch ticio Disodli graddau sydd wedi’u rhoi’n barod wedi’i dicio, bydd pob gradd aseiniad yn cael eu tynnu.
- Bydd gradd ddiofyn yn cael ei neilltuo i fyfyrwyr beth bynnag fo’u statws cyflwyno.
- I osod gradd ddiofyn pob aseiniad i ar goll teipiwch ar goll yn y maes gwerth gradd.
Gwirio Graddau Diofyn

Cliciwch y botwm Iawn (OK).
Gweld Graddau Newydd

Mae modd rhoi graddau diofyn yn awtomatig i bob myfyriwr sydd heb radd. Mae modd newid graddau drwy glicio’r radd ddiofyn a theipio sgôr wedi’i ddiweddaru.