Sut ydw i’n gweld hanes tudalen mewn cwrs?

Pan rydych chi’n gallu golygu tudalennau cwrs, rydych chi’n gallu gweld hanes y dudalen a gweld y dyddiad, amser, ac awdur unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i’r dudalen. Mae golygwyr tudalen hefyd yn gallu rholio cynnwys tudalen yn ôl i fersiwn flaenorol o’r dudalen.

Mae’r delweddau sydd i’w gweld yr y wers hon ar gyfer y wedd addysgwr, ond mae’r un camau’n berthnasol ar gyfer myfyrwyr sydd â mynediad at dudalennau golygu cwrs.

Nodiadau:

  • Hyd yn oed pan fo ganddyn nhw fynediad golygu i osodiadau tudalen, nid yw myfyrwyr yn gallu rholio’n ôl i fersiwn flaenorol o dudalen mewn cwrs. Dim ond cynnwys tudalen ar gyfer tudalennau mewn grwpiau myfyrwyr y gallan nhw eu rholio’n ôl.
  • Nid yw newidiadau i ddarnau cod HTML a CSS yn cael eu storio yn hanes y dudalen.

Agor Tudalennau

Agor Tudalennau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).

Gweld Tudalennau

Mae’r adran Tudalennau (Pages) wedi’i dylunio i agor i dudalen flaen y cwrs, os oes tudalen flaen wedi cael ei dewis. I ddewis tudalen o’r mynegai Tudalennau (Pages), cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).

Agor Tudalen

Cliciwch y dudalen rydych chi am ei gweld.

Gweld Hanes Tudalen

Gweld Hanes Tudalen

Cliciwch yr eicon Opsiynau [1], a chlicio’r ddolen Gweld Hanes Tudalen (View Page History) [2].

Gweld Diwygiad Diweddaraf

Gweld Diwygiad Diweddaraf

Yn ddiofyn, bydd hanes y dudalen yn dangos y fersiwn ddiweddaraf.

Gweld neu Adfer Fersiwn Flaenorol

Gweld neu Adfer Fersiwn Flaenorol

I agor fersiwn flaenorol o’ch tudalen, cliciwch y dyddiad rydych chi eisiau ei weld [1] ac yna clicio’r ddolen Adfer y diwygiad hwn (Restore this revision) [2].

Nodwch: Nid yw myfyrwyr yn gallu adfer fersiwn flaenorol o dudalen mewn cwrs.

Bydd Canvas yn adfer y fersiwn flaenorol i’r diwygiad mwyaf diweddar [1]. Os ydych chi eisiau newid eich tudalen gyfredol am gynnwys gwahanol, cliciwch ddiwygiad tudalen a dyddiad gwahanol. Sylwch y bydd adfer diwygiad tudalen hefyd yn cysylltu eich enw â hanes y dudalen.

I ddychwelyd i'r diwygiad tudalen cyfredol cliciwch yr eicon cau [2]. Gallwch chi hefyd ddefnyddio llywio briwsion [3] i ddychwelyd i’r dudalen gyfredol neu i’r mynegai tudalennau.