Sut ydw i’n creu trafodaeth grŵp mewn cwrs?

Mae grwpiau yn is-set o gwrs, ac maen nhw’n debyg iawn i gwrs. Mae ganddyn nhw adnoddau eu hunain ar gyfer Cydweithrediadau, Bwrdd Trafod a Chalendr. Dim ond myfyrwyr sydd wedi’u hychwanegu at grŵp sydd â hawl i weld a defnyddio’r adnoddau hynny yn y grŵp.

Mae aseiniad trafodaeth grŵp yn creu'r un pwnc trafod yn union ym mhob categori grŵp. Pan fydd myfyrwyr yn ymateb i’r pwnc trafod, maen nhw’n gwneud hynny o fewn y grŵp, sydd wedi’i gysylltu â’r cwrs lle cafodd yr aseiniad ei greu.

Os byddai’n well gennych chi greu trafodaeth grŵp i’w graddio, gallwch ddysgu sut mae creu trafodaethau grŵp wedi’u graddio.

Nodyn: Bydd angen i chi greu setiau grwpiau a grwpiau cyn gosod aseiniad ar gyfer trafodaeth grŵp.

Agor Trafodaethau

Agor Trafodaethau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).

Ychwanegu Trafodaeth

Cliciwch y botwm Ychwanegu Trafodaeth (Add Discussion).

Creu Trafodaeth Grŵp

Creu Trafodaeth Grŵp

Rhowch deitl i drafodaeth yn y maes Teitl Pwnc (Topic Title) [1].

Ychwanegwch gynnwys at drafodaeth drwy ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2].

Yn opsiynau’r drafodaeth, dewiswch y blwch ticio Mae hon yn Drafodaeth Grŵp (This is a Group Discussion) [3].

Dewis Set Grwpiau

Dewis Set Grwpiau

I ddewis set grwpiau sy’n bodoli’n barod, cliciwch y gwymplen Set Grwpiau (Group Set) [1]. I greu categori grŵp newydd, cliciwch y botwm Categori Grŵp Newydd (New Group Category) [2].

Creu Set Grwpiau

Bwrdd Gwaith

Os byddwch chi’n dewis creu categori grŵp newydd, rhowch y set grwpiau a gwybodaeth y grŵp yn yr is-ffenestr Creu Set Grwpiau.

Teipiwch enw’r set grwpiau yn y maes Enw’r Set Grwpiau (Group Set Name) [1]

Os ydych chi eisiau caniatáu hunangofrestru ar gyfer grwpiau yn y set grwpiau, ticiwch y blwch ticio Caniatáu hunangofrestru (Allow self sign-up) [2].

Dewiswch opsiwn strwythur grŵp yn yr adran Strwythur Grŵp (Group Structure) [3]. Gallwch chi ddewis rhannu myfyrwyr i nifer penodol o grwpiau [4], rhannu myfyrwyr yn grwpiaau gyda nifer penodol o fyfyrwyr ym mhob grŵp [5], neu greu grwpiu nes ymlaen ar dudalen Pobl (People) [6].

Ar ôl i chi orffen, cliciwch y botwm Cadw (Save) i greu’r set grwpiau a grwpiau [7].

Gallwch chi edrych at ein canllawiau grŵp i gael rhagor o wybodaeth am greu a golygu setiau grwpiau a chreu grwpiau.

Gosod Dyddiadau Ar Gael

Gosod Dyddiadau Ar Gael

I ddarparu eich trafodaeth ar ddyddiad penodol neu yn ystod cyfnod penodol, rhowch y dyddiadau yn y meysydd Ar gael o (Available From) a Tan (Until) [7], neu cliciwch yr eiconau calendr i ddewis dyddiadau. Mae’r dyddiadau hyn yn berthnasol i bob defnyddiwr. Fel mater o drefn, mae’r meysydd hyn yn cael eu gadael yn wag, a bydd modd gweld y drafodaeth drwy’r cwrs i gyd.

Nodyn: Dim ond i drafodaethau heb eu graddio y mae’r meysydd hyn yn berthnasol; os byddwch chi’n creu trafodaeth grŵp wedi’i graddio, dydy’r meysydd dyddiad hyn ddim yn berthnasol.

Cadw a Chyhoeddi

Cadw a Chyhoeddi

Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich trafodaeth, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish) [1]. Os ydych chi am greu drafft o’ch trafodaeth a’i chyhoeddi rywbryd eto, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Cyhoeddi Cwrs

Pan fydd eich trafodaeth yn cael ei chadw ar ffurf drafft, gallwch fynd yn ôl i’r dudalen a'i chyhoeddi ar unrhyw adeg drwy glicio’r botwm Cyhoeddi (Publish).

Gweld Trafodaeth

Gweld Trafodaeth

Gweld y drafodaeth. Bydd Athro neu Gynorthwyydd Dysgu yn gweld dolenni ar gyfer pob grŵp. Cliciwch enw’r grŵp i agor y drafodaeth grŵp, a gweld ymatebion i’r pwnc.

Gweld Trafodaeth yn Ailddylunio Trafodaethau

Os yw Ailddylunio Trafodaethau wedi’i alluogi ar eich Cwrs, gallwch chi weld y drafodaeth yn Ailddylunio Trafodaethau. I agor y drafodaeth grŵp, cliciwch yr eicon Grwpiau [1], yna clicio enw’r grŵp rydych chi eisiau ei agor [2].

Yr adran Trafodaeth fel mae’n ymddangos i Fyfyrwyr

Pan fydd myfyrwyr yn agor y drafodaeth, byddan nhw’n cael eu harwain i’r dudalen Trafodaethau yn eu grŵp prosiect penodol er mwyn cwblhau’r aseiniad.

Nodyn: Does dim modd rhoi negeseuon dienw ar drafodaeth.