Sut ydw i’n ychwanegu sylwadau wedi eu hanodi mewn cyflwyniadau gan fyfyrwyr, a hynny gan ddefnyddio DocViewer yn SpeedGrader?

Mae DocViewer Canvas yn adnodd sy'n caniatáu anodiadau ar aseiniadau sydd wedi eu cyflwyno ar-lein yn Canvas. Gallwch chi ddefnyddio DocViewer i edrych ar ffeiliau ac aseiniadau yn SpeedGrader. Gallwch weld pan fydd myfyrwyr yn gweld adborth gydag anodiadau yn yr adran manylion yr aseiniad yn y bar ochr.

Mae gan DocViewer gyfyngiad o 10 awr ar sesiynau, a fydd yn dechrau pan fyddwch chi’n agor cyflwyniad. Os ydych chi’n dechrau gwneud anodiad ond nad ydych chi’n ei gyflwyno cyn i’r sesiwn ddod i ben, ni fydd yr anodiad yn cael ei gadw. Nid yw'r cyfyngiad ar y sesiwn yn effeithio ar anodiadau sydd wedi eu cadw. Ar ôl 9 awr a 50 munud, bydd Canvas yn dangos rhybudd yn nodi bod y sesiwn ar fin dod i ben, yna rhoddir rhybudd 5 munud a rhybudd 1 munud nes bod y cyfyngiad o 10 awr wedi dod i ben. Gallwch ailddechrau sesiwn yn DocViewer unrhyw bryd drwy adnewyddu'r dudalen cyflwyno.

Os yw eich porwr yn cynnwys dangosydd PDF yn barod, dewiswch yr opsiwn i weld y PDF yn nangosydd y system.

Gall myfyriwr weld eich sylwadau yn DocViewer o dudalen Manylion Cyflwyniadau (Submissions Details) yr aseiniad.

Ffeiliau DocViewer Cydnaws (Compatible DocViewer Files)

Os yw cyflwyniad yn cynnwys ffeil y mae modd ei rendro yn DocViewer, ond nad yw rhagolwg o’r cyflwyniad wedi’i gwblhau eto, bydd Canvas yn creu neges yn nodi bod y ddogfen wrthi’n cael ei phrosesu.

Nodiadau:

  • Ni fydd ffeiliau dros 100 MB a ffeiliau sy'n cael eu diogelu gan gyfrinair yn cael eu newid yn DocViewer.
  • Nid yw adnoddau anodiadau ar gael ar gyfer aseiniadau cofnod testun.
  • Ar ôl i aseiniad gael ei gyflwyno, gall SpeedGrader gymryd hyd at ddeg munud i ddangos ffeil sy'n delio â DocViewer.
  • Mewn dyfeisiau symudol, dim ond ap Canvas Teacher sy'n gallu delio’n gyfan gwbl ag anodiadau DocViewer.
  • Dydy Canvas DocViewer ddim yn gallu delio â sylwadau dienw, felly does dim modd ei ddefnyddio ar gyfer adborth ag anodiadau ar aseiniadau sydd ag adolygiadau dienw gan gyd-fyfyrwyr.
  • Os yw aseiniad yn cael ei raddio'n ddienw, ni fydd myfyrwyr yn gallu gweld nodiadau'r addysgwr nes bod yr aseiniad yn cael ei ddad-dewi neu fod graddau'r aseiniad wedi'u postio.
  • Os ydy myfyrwyr wedi galluogi’r hysbysiad Sylw ar Gyflwyniad, byddan nhw’n derbyn hysbysiadau pan fyddwch chi’n ychwanegu sylwadau at eu dogfen Os ydy sylwadau anodi wedi’u gwneud yn ddienw, bydd myfyrwyr yn derbyn hysbysiadau sydd ddim yn cynnwys enw’r defnyddiwr a bostiodd y sylw. Os oes gan yr aseiniad bolisi postio eich hun, efallai y bydd angen i chi bostio graddau a/neu sylwadau i fyfyrwyr gael hysbysiad.

Gweld Bar Offer DocViewer

Mae Bar Offer DocViewer yn eich helpu chi i reoli cyflwyniad yr aseiniad.

I lwytho PDF o’r cyflwyniad sydd wedi’i anodi i lawr, cliciwch y botwm Llwytho i Lawr (Download) [1].

Os oes mwy nag un dudalen, bydd y maes Rhif tudalen (Page number) [2] yn gadael i chi symud ymlaen drwy'r cyflwyniad i ddod o hyd i’r dudalen rydych chi am wneud anodiadau arni. I fynd i dudalen arall, rhowch rif y dudalen yn y maes Tudalen. Gallwch ddefnyddio'r eiconau saethau [3] i symud ymlaen drwy’r cyflwyniad.

I droi’r dudalen bresennol gyda’r cloc 90 gradd, cliciwch y botwm Troi (Rotate) [4]. Does dim modd troi tudalennau sydd ag anodiadau.

I nesáu a phellhau yn y cyflwyniad, defnyddiwch y botymau Nesáu/Pellhau (Zoom) [5].

I weld y cyflwyniad mewn sgrin lawn, cliciwch y botwm Sgrin Lawn (Full Screen) [6].

I anodi’r cyflwyniad, defnyddiwch yr adnoddau anodiadau [7].

Ychwanegu Anodiad Pwyntio

I adael anodiad pwyntio, dewiswch yr anodiad Pwyntio (Point) [1].

Dewiswch liw ar gyfer yr anodiad pwyntio yn y panel lliwiau [2].

Cliciwch yr ardal dan sylw yn y cyflwyniad [3]. Bydd yr anodiad pwyntio yn ymddangos i nodi lleoliad yr anodiad. I ychwanegu sylw at yr anodiad pwyntio, teipiwch y sylw yn y maes Gwneud Sylw (Comment) [4]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y fysell Shift+Enter/Return. I gyflwyno eich sylw, cliciwch y fysell Enter/Return.

Gallwch ateb sylwadau myfyrwyr yn DocViewer drwy glicio y botwm Ateb (Reply) [5].

I symud yr anodiad, dylech hofran dros eicon yr anodiad pwyntio yn y ddogfen. Cliciwch yr anodiad a’i lusgo i’r ardal newydd.

I ddileu anodiad pwyntio, cliciwch yr anodiad ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [6]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu’r anodiad. Drwy ddileu anodiad, byddwch chi hefyd yn dileu unrhyw sylwadau cysylltiedig.

Ychwanegu Anodiad Amlygu

I amlygu testun yn y ddogfen, dewiswch Amlygu (Highlight) fel math o anodiad [1].  

Dewiswch liw ar gyfer yr anodiad amlygu yn y panel lliwiau [2].

Gallwch glicio a llusgo i amlygu testun yn y cyflwyniad [3].

I ychwanegu sylw at yr anodiad amlygu, cliciwch y botwm Gwneud Sylw (Comment) [4]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y fysell Shift+Enter/Return. I gyflwyno eich sylw, cliciwch y fysell Enter/Return.

I ddileu anodiad amlygu, cliciwch yr ardal sydd wedi ei hamlygu ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [5]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu'r amlygiad. Drwy ddileu anodiad, byddwch chi hefyd yn dileu unrhyw sylwadau cysylltiedig.

Ychwanegu Anodiad Testun

I ychwanegu testun yn uniongyrchol yn y cyflwyniad, dewiswch yr anodiad Testun Rhydd (Free text) [1].

Dewiswch liw ar gyfer yr anodiad testun yn y panel lliwiau [2].

Dewiswch gefndir gwyn neu dryloyw ar gyfer yr anodiad testun [3] yn ogystal â maint ffont ar gyfer yr anodiad [4].

Cliciwch yr ardal dan sylw yn y cyflwyniad, yna teipiwch eich cofnod [5]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y fysell Shift+Enter/Return.

I symud yr anodiad, dylech hofran dros y blwch testun yn y ddogfen. Cliciwch yr anodiad a’i lusgo i’r ardal newydd.

I ddileu’r anodiad testun, cliciwch y blwch testun ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [6]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu'r blwch testun.

Ychwanegu Anodiad Testun Diddymu

I nodi y dylid dileu testun, dewiswch yr anodiad Diddymu (Strikeout) [1].

Dewiswch liw ar gyfer y llinell diddymu yn y panel lliwiau [2].

Cliciwch a llusgo er mwyn diddymu yn y cyflwyniad. Bydd llinell yn ymddangos i nodi bod y testun wedi cael ei ddiddymu [3].

I ychwanegu sylw at yr anodiad diddymu, cliciwch y botwm Gwneud Sylw (Comment) [4]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y fysell Shift+Enter/Return. I gyflwyno eich sylw, cliciwch y fysell Enter/Return.

I ddileu anodiad diddymu, cliciwch yr ardal sy’n cael ei diddymu ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [5]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu'r llinell diddymu. Drwy ddileu anodiad, byddwch chi hefyd yn dileu unrhyw sylwadau cysylltiedig.

Ychwanegu Anodiad Llunio

I wneud anodiadau a lluniadau rhydd, dewiswch yr anodiad Llunio Rhydd [1].

Dewiswch liw ar gyfer yr anodiad llunio yn y panel lliwiau [2].

Dewiswch led llinell eich anodiad o’r panel lled llinell [3].

Cliciwch a llusgo i ddechrau llunio. Bydd llinellau rhydd yn nodi’r ardal llunio [4]. Gallwch ychwanegu mwy nag un llinell at anodiad llunio.

I ychwanegu sylw at yr anodiad sydd wedi’i lunio, cliciwch y botwm Gwneud Sylw (Comment) [5]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y fysell Shift+Enter/Return. I gyflwyno eich sylw, cliciwch y fysell Enter/Return. 

I dderbyn anodiad sydd wedi’i lunio, cliciwch yr eicon Tic (Check) [6].

I symud lluniad, mae angen i chi hofran dros y lluniad, yna llusgo a gollwng y lluniad yn yr ardal newydd o’r ddogfen.

I ddileu lluniad unrhyw bryd, cliciwch y lluniad ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [7]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu'r lluniad. Drwy ddileu anodiad, byddwch chi hefyd yn dileu unrhyw sylwadau cysylltiedig.

Nodyn: Ni all anodiadau llunio gael mwy nag un lled llinell ym mhob anodiad. Rhaid i anodiadau unigol gael eu cadw cyn creu llinell newydd gyda lled gwahanol.

Ychwanegu Anodiad Ardal

I adael anodiad ardal, dewiswch yr anodiad Ardal (Area) [1].

Dewiswch liw ar gyfer yr anodiad ardal yn y panel lliwiau [2].

Dylech glicio a llusgo’r petryal o amgylch ardal o’r cyflwyniad [3]. Bydd blwch yn ymddangos gan nodi ardal yr anodiad.

I ychwanegu sylw at yr anodiad ardal, teipiwch y sylw yn y maes Gwneud Sylw (Comment) [4]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y fysell Shift+Enter/Return. I gyflwyno eich sylw, cliciwch y fysell Enter/Return.

Gallwch ateb sylwadau myfyrwyr yn DocViewer drwy glicio y botwm Ateb (Reply) [5].

I symud yr anodiad, mae angen i chi hofran dros y border. Cliciwch yr anodiad a'i lusgo i’r ardal newydd yn y ddogfen.

I ddileu anodiad ardal, cliciwch yr anodiad ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [6]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu’r sylw. Drwy ddileu anodiad, byddwch chi hefyd yn dileu unrhyw sylwadau cysylltiedig.

Rheoli Sylwadau

Gweld Sylwadau

Mae sylwadau unigol yn cynnwys eicon sy'n dangos y math o anodiad a'i liw [1]. Mae’r eicon anodiad yn ymddangos wrth ymyl enw’r sawl sydd wedi gwneud sylw ac mae'n ymddangos yn y prif sylw ar gyfer anodiad yn unig. Nid yw atebion i sylwadau yn cynnwys yr eicon.

Mae sylwadau yn aros ar y dudalen lle cafodd yr anodiad ei wneud. Os bydd gormod o sylwadau i’w dangos ar un dudalen, bydd modd sgrolio’r adran sylwadau a bydd rhai sylwadau wedi’u cuddio. Bydd dangosydd yn nodi sawl sylw sydd wedi’i guddio [2].

Pan fydd sylw sydd wedi ei anodi yn cynnwys mwy nag phum llinell o gynnwys, bydd y blwch cynnwys yn dangos dolen elipsis [3]. I ehangu sylw, cliciwch y ddolen elipsis. Os yw sylw yn cynnwys mwy nag un ateb, bydd yr holl atebion yn cael eu hehangu.

Mae sylwadau gydag atebion yn cael eu pentyrru [4]. Pan fyddwch chi’n clicio ar sylw, bydd pob ateb yn cael ei ehangu yn y grŵp. Mae nifer yr atebion wedi’u pentyrru i’w weld o dan y sylw cyntaf.

Os oes angen, gallwch ddileu sylwadau unrhyw ddefnyddiwr trwy glicio’r eicon Dileu (Delete) [5]. Pan fydd sylw'n cael ei ddileu, ni fyddwch yn gallu gweld y sylw. Ond, bydd y perchennog yn parhau i allu gweld y sylw a gafodd ei ddileu ynghyd â nodyn yn dweud bod y sylw wedi'i ddileu. Gall y perchennog adolygu a dileu sylw a dewis i ddileu'r sylw yn barhaol.

Rheoli Anodiadau Addysgwyr Dienw

Rheoli Anodiadau Addysgwyr Dienw

Os byddwch yn galluogi'r opsiwn Anodiadau Addysgwyr Dienw ar gyfer aseiniad, ni fydd myfyriwr yn gweld enw'r addysgwr na'r graddiwr ar nodiadau a sylwadau yn DocViewer.

Nodiadau:

  • Dim ond ar ôl i'r opsiwn gael ei alluogi y mae Anodiadau Addysgwyr Dienw yn berthnasol i sylwadau.
  • Ar hyn o bryd nid yw Anodiadau Addysgwyr Dienw yn berthnasol i sylwadau a nodiadau a wneir gan ddefnyddio dyfais symudol.

Rheoli Anodiadau Defnyddwyr Eraill

Gweld Anodiadau Defnyddwyr Eraill

Pan fydd defnyddiwr arall yn ychwanegu anodiad mewn dogfen, gallwch weld awdur yr anodiad drwy glicio’r anodiad [1]. Gallwch hefyd adael sylw ar unrhyw anodiad wedd wedi’i greu gan ddefnyddwyr eraill [2].

Os oes angen, gallwch ddileu sylwadau unrhyw ddefnyddiwr yn y ddogfen trwy glicio’r anodiad a chlicio'r eicon Dileu (Delete) [3]. Pan fydd anodiad yn cael ei ddileu, ni fyddwch yn gallu gweld yr anodiad. Ond, bydd y perchennog yn parhau i allu gweld yr anodiad a gafodd ei ddileu ynghyd â nodyn yn dweud bod yr anodiad wedi'i ddileu. Gall y perchennog adolygu a dileu anodiad a dewis i ddileu'r anodiad yn barhaol.