Sut ydw i'n gweld manylion defnyddiwr ar gyfer ymrestriad ar gwrs?

Mae tudalen manylion y defnyddiwr yn dangos llun proffil defnyddiwr, aelodaeth, a negeseuon diweddar, yn ogystal â data arall.

Nodiadau:

  • Os nad yw tudalen manylion y defnyddiwr yn cyfateb i’r cynllun a ddangosir yn y wers hon, edrychwch ar y wers proffiliau defnyddiwr, sy'n dangos sut mae defnyddio tudalen manylion y defnyddiwr pan fydd Proffiliau wedi’u galluogi ar gyfer eich sefydliad.
  • Mae gweld manylion defnyddwyr a chyfeiriadau e-bost defnyddwyr yn hawliau'r cwrs. Yn dibynnu ar eich hawliau, efallai na fyddwch chi’n gallu gweld yr holl wybodaeth sydd ar gael ar dudalen manylion y defnyddiwr.

Agor yr adnodd Pobl

Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).

Dod o hyd i Ddefnyddiwr

Yn y maes chwilio [1], rhowch enw'r defnyddiwr. Gallwch hidlo defnyddwyr yn ôl rôl hefyd yn y gwymplen Rolau (Roles) [2].

Agor Manylion Defnyddiwr

Cliciwch eicon Opsiynau (Options) y defnyddiwr [1], yna dewiswch y ddolen Manylion Defnyddiwr (User Details) [2].

Gweld Enw ac E-bost

Mae’r dudalen Manylion Defnyddiwr (User Details) yn dangos manylion am y defnyddiwr.

Yn adran Enw ac E-bost (Name and Email) y defnyddiwr, gallwch weld enw'r defnyddiwr [1], llun proffil (os yw wedi’i alluogi gan eich sefydliad) [2], e-bost diofyn [3], a chylchfa amser [4].

Os oes gan y defnyddiwr lun proffil amhriodol, gallwch ei dynnu oddi yno drwy glicio’r ddolen Tynnu llun avatar oddi yno (Remove avatar picture).

Nodyn: Mae gweld cyfeiriadau e-bost defnyddwyr yn hawl cwrs. Yn dibynnu ar eich hawliau, efallai na fyddwch chi’n gallu gweld cyfeiriad e-bost defnyddiwr.

Gweld Manylion Ychwanegol

I weld manylion aelodaeth y defnyddiwr, cliciwch y ddolen rhagor o fanylion am y defnyddiwr (more user details) [1].

Gallwch weld ymrestriadau cwrs a rolau defnyddiwr y defnyddiwr [2]. Os oes rôl bersonol wedi’i neilltuo i ddefnyddiwr, dim ond y rôl sylfaenol sy’n cael ei dangos ar hyn o bryd. Yn dibynnu ar hawliau eich cwrs, mae’n bosib y byddwch chi’n gallu dirwyn yr ymrestriad i ben [3] a dileu’r ymrestriad [4].

Hefyd, gallwch weld a rheoli cyfyngiadau ar adrannau cwrs defnyddiwr [5] a’r maes Diwrnod mynychwyd ddiwethaf [6].

Gweld Negeseuon Diweddar

Mae’r adran Negeseuon Diweddar yn dangos gweithgarwch diweddar y defnyddiwr mewn cyhoeddiadau a thrafodaethau, os o gwbl.

Gweld Bar Ochr

Gweld Bar Ochr

Os oes gennych chi’r hawliau priodol, yna mae’n bosib y bydd y bar ochr yn cynnwys dolenni at wybodaeth ychwanegol am y defnyddiwr: