Ar ôl i chi gyhoeddi cwis, mae bar ochr y cwis yn dangos y ddolen Safoni Cwis (Moderate Quiz) sy’n gadael i chi safoni’r cwis ar gyfer pob myfyriwr ar eich cwrs. Ar y dudalen Safoni Cwis (Moderate Quiz), gallwch weld cynnydd cyflwyniadau myfyrwyr a gweld sawl cwis mae pob un wedi’u wneud. Gallwch hefyd roi cyfleoedd ychwanegol i fyfyrwyr roi cynnig ar gwis, rhoi amser ychwanegol ar gyfer cwisiau wedi’u hamseru, a datgloi ymgais ar gwis eich hun.
Nodiadau:
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Cliciwch enw’r cwis.
I weld ymgais myfyriwr penodol ar gwis, defnyddiwch y maes Chwilio drwy’r adran Pobl (Search People).
Mae’r dudalen Safoni Cwis (Moderate Quiz) yn dangos y wybodaeth ganlynol:
I adnewyddu’r dudalen a gwneud yn siŵr bod ystadegau pob colofn yn gyfredol, cliciwch yr eicon adnewyddu [6].
Os ewch chi i weld y dudalen Safoni Cwis (Moderate Quiz) wrth i fyfyriwr wneud cwis, yna bydd y golofn Amser (Time) yn dangos yr amser rhedeg ar gyfer y cwis. Pan fydd yr amser wedi dod i ben, bydd y golofn Amser (Time) yn dangos y cyflwyniad fel Amser wedi dod i ben! (Time Up!)
Gyda chwisiau sydd heb eu hamseru, mae’r amserydd yn parhau i gyfrif i lawr hyd at ddyddiad Ar gael Tan (Until) y cwis. Os nad oes dyddiad Ar gael Tan (Until) wedi ei osod ar gyfer y cwis, mae’r cwis yn defnyddio dyddiad gorffen y cwrs yn ddiofyn. Mae’r dangosydd rhifau uchaf yn dangos misoedd, dyddiau, oriau, munudau, ac eiliadau.
Nodyn: Pan fydd myfyrwyr yn gwneud cwis sydd heb ei amseru, bydd eu hamserydd yn dangos yr amser sydd wedi mynd heibio.
Os ewch chi i weld y dudalen Safoni Cwis (Moderate Quiz) wrth i fyfyriwr wneud cwis wedi’i amseru, yna bydd y golofn Amser (Time) yn dangos yr amser rhedeg sydd ar ôl ar gyfer y cwis [1]. Pan fydd yr amser wedi dod i ben, bydd y golofn Amser (Time) yn dangos y cyflwyniad fel Amser wedi dod i ben! (Time Up!)
Mae’r cwis hefyd yn dangos eicon cloc [2] y gallwch ei ddefnyddio i ymestyn yr amser ar yr ymgais bresennol. Gallwch ddysgu mwy am safoni cwisiau presennol wedi’u hamseru.
Nodyn: Pan fydd myfyrwyr yn gwneud cwis wedi’i amseru, bydd eu hamserydd yn dangos yr amser sydd ar ôl.
Os yw’r dudalen yn dangos neges rhybudd, yna mae amser wedi dod i ben ar o leiaf un darn o waith gan fyfyriwr, ond dydy’r gwaith ddim wedi cael ei gyflwyno ac mae angen mynd ati i wneud hynny. Dysgu sut i gyflwyno cwisiau sydd heb eu cyflwyno.
Gallwch ddefnyddio’r eicon Golygu (Edit) i safoni’r cwis ar unrhyw adeg i fyfyriwr. Mae safoni cwis yn gadael i chi roi ymgeisiau ychwanegol i fyfyrwyr a datgloi ymgais ar gwis eich hun. Yn dibynnu ar osodiadau’r cwis, gallwch hefyd roi amser ychwanegol ar gyfer cwisiau wedi’u hamseru a gadael i fyfyrwyr weld canlyniadau cwis unwaith eto.
Os ydych am safoni cwis ar gyfer mwy nag un myfyriwr a rhoi’r un gosodiadau i bob un, gallwch osod eich newidiadau ar yr holl fyfyrwyr ar yr un pryd. Gallwch ddysgu mwy am roi ymgeisiau ychwanegol ar gwis.