Pan rydych chi’n creu cwis, mae gennych chi amrywiaeth o opsiynau i ddewis ohonynt mewn cwis.
Wrth greu cwis newydd, mae Canvas yn mynd i’r tab Manylion (Details) yn ddiofyn.
Mae gan osodiadau cwisiau nifer o opsiynau.
Cymysgu Atebion (Shuffle Answers) [1]: Gallwch gymysgu (hapdrefnu) atebion. (Hefyd, gallwch gymysgu cwestiynau drwy greu grŵp o gwestiynau.)
Terfyn Amser (Time Limit) [2]: Gallwch benderfynu pennu terfyn amser drwy osod nifer y munudau sydd gan fyfyrwyr i gwblhau’r cwis cyfan. Mae cwisiau wedi’u hamseru yn dechrau unwaith y bydd myfyriwr yn dechrau’r arholiad ac ni fydd yn cael ei rewi (will not be paused) os yw’r myfyriwr yn gadael y cwis. Os nad oes terfyn amser wedi’i osod, yna bydd gan fyfyrwyr faint bynnag o amser i orffen y cwis.
Nodiadau:
Mwy nag un ym gais (Multiple Attempts) [3]: Gallwch ganiatáu mwy nag un ymgais.
Ymatebion Cwis (Quiz Responses) [4]: Gallwch ddewis gadael i fyfyrwyr weld yr hyn maen nhw wedi ei ateb, unrhyw adborth awtomatig wedi’i greu gan y cwis ar gyfer atebion cywir neu anghywir, a pha gwestiynau y cawson nhw’n anghywir. Mae cwisiau’r defnyddio’r opsiwn hwn yn ddiofyn, felly os nad ydych chi am i fyfyrwyr weld eu hymatebion i gwisiau, dad-ddewiswch y blwch ticio.
Fel rhan o’r opsiwn hwn, gallwch sicrhau mai Dim ond Unwaith ar ôl Pob Ymgais (Only Once After Each Attempt) y gall myfyrwyr weld canlyniadau cwis [5]. Bydd myfyrwyr ddim ond yn cael gweld y canlyniadau yn syth ar ôl iddyn nhw gwblhau'r cwis — bydd y canlyniadau yn cynnwys eu hatebion nhw a’r atebion cywir.
Nodiadau:
Atebion Cywir (Correct Answers) [6]: Gallwch adael i fyfyrwyr weld atebion cywir cwis ar ôl cwblhau'r cwis. Mae’r gosodiad hwn yn galluogi tab Cywir gwyrdd ar bob ateb cywir yn yr holl gwis. Mae cwisiau yn defnyddio’r opsiwn hwn yn ddiofyn, felly os nad ydych chi am i fyfyrwyr weld yr atebion cywir, dad-ddewiswch y blwch ticio.
Fel rhan o'r opsiwn hwn, gallwch hefyd reoli pryd ac am ba mor hir y gall myfyrwyr weld yr atebion cywir drwy osod dyddiadau (ac amseroedd penodol os hoffech chi) yn y meysydd Dangos a Chuddio (Show and Hide).
Nodyn: Os yw’r opsiwn Dim ond Unwaith ar ôl pob Ymgais (Only Once After Each Attempt) wedi’i ddewis, bydd hyn yn disodli unrhyw ddyddiadau neu amseroedd dangos neu guddio Os ydych chi am ddangos neu guddio atebion cywir ar unrhyw ddyddiad neu amser penodol, ni ddylid dewis yr opsiwn Dim ond Unwaith (Only Once) fod wedi cael ei ddewis.
Un cwestiwn ar y tro (One Question at a Time) [7]: Gallwch ddangos un cwestiwn ar y tro a chloi cwestiynau ar ôl cael ateb.
Nodiadau:
Mae rhai o’r gosodiadau’n cynnwys opsiynau dewislen wedi’u hehangu:
Caniatáu mwy nag un ymgais (Allow Multiple Attempts)
Os ydych chi’n cadw opsiwn diofyn y Cwisiau o ran gadael i fyfyrwyr weld eu hymatebion i gwis:
Os ydych chi’n cadw opsiwn diofyn y Cwisiau o ran gadael i fyfyrwyr weld yr atebion cywir:
Dangos un cwestiwn ar y tro (Show One Question at a Time)
Gallwch gyfyngu ar gwis fel mai dim ond mewn amgylchiadau penodol y gellir ei wneud. Dydy’r opsiynau hyn byth yn cael eu dewis fel mater o drefn.
Nodiadau:
Er mwyn gofyn am god mynediad, rhowch y cod mynediad yn y maes testun cod mynediad [1].
I hidlo cyfeiriadau IP, rhowch y cyfeiriad IP yn y maes testun cyfeiriad IP [2]. Nodyn: Mae hidlyddion IP cwis yn ffordd o gyfyngu mynediad at gwisiau ar gyfrifiaduron mewn ystod benodol o IPs. Mae hidlyddion yn gallu bod yn rhestr o gyfeiriadau wedi’u gwahanu gydag atalnodau, neu’n gyfeiriad a ddilynir gan fasg (ee 192.168.217.1/24 neu 192.168.217.1/255.255.255.0). Am ragor o wybodaeth am y masgiau hyn, edrychwch ar y PDF Hidlo IP yn Canvas.
Yn y maes Neilltuo (Assign) [1], gallwch neilltuo’r cwis i bawb, adran o gwrs, neu fyfyriwr unigol.
Gallwch osod y Dyddiad Erbyn [2], y dyddiad Ar Gael O [3], a’r dyddiad Ar Gael Tan [4] ar gyfer y cwis. Mae’r meysydd hyn yn ddewisol a gellir eu gosod yn dibynnu ar sut rydych chi am reoli’r cwis:
Gallwch ddysgu mwy am ddyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael.
Nodiadau:
Ar ôl i chi osod y gosodiadau ar gyfer eich cwis, cliciwch y tab Cwestiynau (Questions) i greu cwestiynau a phwyntiau’r cwis. Gallwch greu cwestiynau cwis unigol, cwestiynau gyda banc cwestiynau,, cwestiynau gyda grŵp cwestiynau, a chwestiynau gyda banc cwestiynau mewn grŵp cwestiynau.
Cliciwch y botwm Cadw (Save) i gadw eich gwaith ar y cwis.
Nodyn: Ni ddylech gyhoeddi eich cwis nes eich bod wedi’i gwblhau’n derfynol. Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich cwis a’i ddarparu i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).
Ar ôl i chi gadw eich cwis, bydd gennych chi sawl opsiwn.
I gyhoeddi’r cwis, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [1]. Mae cyhoeddi cwis yn golygu y bydd myfyrwyr yn gallu gweld y cwis yn y cwrs.
Cyn cyhoeddi'r cwis, os ydych chi am weld gwedd y myfyrwyr a gwneud yn siŵr ei fod yn edrych yn iawn, cliciwch y botwm Rhagolwg (Preview) [2]. I olygu’r cwis, cliciwch y botwm Golygu (Edit) [3].
Hefyd, gallwch weld mwy o opsiynau yn y ddewislen Opsiynau (Options) [4]:
Nodyn: Os ydych chi am guddio’r cwis rhag myfyrwyr, peidiwch â chyhoeddi'r cwis. Pan nad ydy’r cwis wedi’i gyhoeddi, dim ond yr addysgwr all ei weld.
I ddatgloi cwis, cliciwch yr eicon Opsiynau [1] a chlicio’r ddolen Gadael i Fyfyrwyr Wneud y Cwis Hwn Nawr [2].
I ddatgloi cwis am gyfnod amhenodol, cliciwch y botwm radio Dim cyfyngiad amser (No time limit) [1]. Os oes well gennych chi ddatgloi cwis hyd at ddyddiad ac amser penodol, cliciwch y botwm radio Tan (Until) [2] a defnyddiwch yr eicon calendr [3] i ddewis y dyddiad a'r amser. Cliciwch y botwm Datgloi (Unlock) [4] ar ôl i chi orffen.
Ar ôl i chi gyhoeddi cwis, gallwch weld opsiynau ychwanegol.
Ynghyd â’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer cwisiau sydd heb eu cyhoeddi, yn y ddewislen Opsiynau [1], gallwch wneud y canlynol:
Yn y bar ochr, byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar nodweddion cysylltiedig â chwis:
Hefyd, gallwch guddio graddau rhag myfyrwyr drwy ddefnyddio polisïau postio yn y llyfr graddau.