Sut ydw i’n dewis polisi postio gradd ar gyfer cwrs yn y Llyfr Graddau?

Yn y Llyfr Graddau, gallwch chi ddewis polisi postio graddau awtomatig neu ddim yn awtomatig yn ddiofyn ar gyfer pob aseiniad cwrs. Mae polisïau postio yn pennu gweladwyedd graddau i fyfyrwyr.

Yn ddiofyn, mae cyrsiau Canvas yn defnyddio polisi postio cwrs awtomatig. Mae pob gradd aseiniad yn weladwy i fyfyrwyr cyn gynted â’u bod yn cael eu rhoi yn y llyfr graddau. Nid yw graddau ar gyfer aseiniadau dienw ac aseiniadau wedi’u safoni yn cael eu postion awtomatig.

Os byddwch chi’n dewis polisi postio cyrsiau eich hun, bydd pob gradd aseiniad yn cael ei chuddio o wedd fyfyrwyr yn ddiofyn nes eich bod chi’n postio graddau ar gyfer pob aseiniad. Os byddwch chi’n dewis polisi postio cyrsiau eich hun ar ôl i raddau aseiniadau gael eu rhoi, ni fydd y polisi yn newid y rhai blaenorol a bydd unrhyw raddau sydd wedi’u postio yn aros yn weladwy. Gallwch chi guddio graddau wedi’u postio o ddewislen Opsiynau’r aseiniad. Hefyd, pan mae graddau aseiniadau wedi’u cuddio, ni all myfyrwyr weld eu gradd aseiniad, sylwadau addysgwr, neu hysbysiadau newid gradd. Ond, gall addysgwyr bostio sylwadau i fyfyrwyr cyn i raddau gael eu rhoi.

Mae polisïau postio cyrsiau’n berthnasol i bob aseiniad cwrs yn ddiofyn. Gallwch chi hefyd ddewis polisi postio graddau ar gyfer aseiniad unigol. Dysgwch fwy am ddefnyddio polisïau postio yn eich cwrs a gweld y Siart Gweladwyedd Gradd Myfyriwr rhyngweithiol.

Nodiadau:

  • Os byddwch chi’n gwneud newidiadau i aseiniad gyda graddau wedi’u cuddio, bydd y sgôr gyflawn fel rydych chi’n ei gweld (yn y Llyfr Graddau a thudalen Graddau’r myfyriwr) yn cael ei heffeithio. Ond, ni fydd myfyrwyr yn gweld unrhyw newidiadau pan fyddan nhw’n edrych ar eu tudalen Graddau. Ar ôl i chi bostio’r graddau aseiniadau, bydd y radd gyflawn yng ngwedd y myfyriwr yn cael ei diweddaru.
  • Rhaid i raddau ar gyfer aseiniadau dienw ac aseiniadau wedi’u safoni gael eu postio eich hun. Does dim modd dad-guddio aseiniadau wedi’u safoni nes bod y graddau terfynol wedi cael eu postio.
  • Mae modd i fyfyrwyr weld sylwadau adolygiad gan gyd-fyfyrwyr pan mae graddau aseiniad wedi’u cuddio. Ond, dim ond os bydd yr addysgwr yn postio graddau neu sylwadau cyflwyno y bydd myfyrwyr yn gallu gweld sylwadau addysgwr.
  • Os byddwch chi’n postio graddau ar gyfer aseiniad gyda dyddiadau erbyn amrywiol, bydd pob myfyriwr yn derbyn canlyniadau sgôr ar yr un pryd.
  • Gall gweld y Golofn Cyfanswm yn y Llyfr Graddau fod wedi ei gyfyngu, os oes mwy nag un cyfnod graddio wedi’i alluogi.
  • Yn Cwisiau Clasurol, ni fydd myfyrwyr yn gallu gweld eu hymatebion i gwis tra bod graddau cwis wedi’u cuddio.
  • Yn Cwisiau Newydd, ni fydd galluogi polisi postio yn effeithio ar allu myfyriwr i gael gafael ar eu sgorau cwis. Rhaid rheoli gallu myfyrwyr i weld Cwisiau newydd o'r ddewislen gosodiadau cwis.
  • Os byddwch chin copïo cwrs i gragen cwrs newydd neu’n mewngludo cynnwys cwrs ac yn cynnwys gosodiadau cwrs fel rhan o’r ffeil sy’n cael ei mewngludo, bydd y polisi postio cwrs o'r cwrs gwreiddiol yn cael ei gopïo i’r cwrs newydd. Bydd hyn yn disodli unrhyw osodiadau polisi postio graddau sydd gennych chi yn y cwrs newydd. Ar ben hyn, bydd aseiniadau wedi’u mewngludo yn cadw eu polisi postio aseiniadau o’r cwrs gwreiddiol.

Agor Graddau

Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).

Agor Gosodiadau Llyfr Graddau

Cliciwch yr eicon Gosodiadau.

Gweld Polisi Postio Graddau

Gweld Polisi Postio Graddau

Cliciwch y tab Polisi Postio Graddau (Grade Posting Policy).

Postio Graddau’n Awtomatig

Postio Graddau’n Awtomatig

I bostio graddau’n awtomatig, dewiswch yr opsiwn Postio Graddau’n Awtomatig (Automatically Post Grades). Pan mae graddau’n cael eu postio’n awtomatig, mae myfyrwyr yn gallu gweld graddau aseiniad cyn gynted â’u bod yn cael eu rhoi.

Nodyn: Os byddwch chi’n dewis yr opsiwn Postio Graddau’n Awtomatig ar ôl i chi guddio graddau, bydd y graddau oedd wedi’u cuddio yn aros wedi’u cuddio.

Postio Graddau Eich Hun

Postio Graddau Eich Hun

I bostio graddau eich hun i fyfyrwyr eu gweld, dewiswch yr opsiwn Postio Graddau Eich Hun (Manually Post Grades). Pan mae’r opsiwn Postio Graddau Eich Hun wedi’i dewis, mae graddau wedi’u cuddio o wedd myfyrwyr yn ddiofyn a rhaid eu postio i fyfyrwyr allu eu gweld.

Diweddaru Polisi

Diweddaru Polisi

I osod newidiadau i'r polisi postio graddau, cliciwch y botwm Gosod Gosodiadau (Apply Settings).

Gweld Llyfr Graddau

Os oed polisi postio eich hun wedi cael ei osod mewn cwrs, bydd pob pennyn aseiniad yn dangos y label Eich Hun (Manual) [1]. Mae’r label hwn yn nodi bod polisi postio eich hun ar waith ac y bydd graddau wedi’u cuddio o wedd y myfyriwr yn y dyfodol.

Ar ôl i gyflwyniad gael ei raddio, bydd pennyn yr aseiniad yn dangos yr eicon Gweladwyedd [2]. Mae hwn yn nodi bod graddau o fewn yr aseiniad y mae’n rhaid eu postio cyn y gallan nhw gael eu gweld gan fyfyrwyr.

Pan mae graddau wedi’u cuddio o wedd y myfyriwr, mae’r golofn Cyfanswm hefyd yn dangos yr eicon Gweladwyedd [3]. Mae hyn yn nodi bod y radd gyflawn yn y Llyfr Graddau’n wahanol i’r radd gyflawn sy’n cael ei gweld gan y myfyriwr.

I reoli polisi postio aseiniad, cliciwch yr eicon Opsiynau [4].