Sut ydw i’n dyblygu tudalen mewn cwrs?
Gallwch chi ddyblygu tudalen ar eich cwrs. Pan fydd tudalen yn cael ei chopïo, bydd y gair Copi (Copy) yn cael ei ychwanegu at ddiwedd enw’r dudalen/
Mae dyblygu tudalen yn rhoi statws heb ei chyhoeddi i'r dudalen sydd wedi’i chopïo yn ddiofyn. Mae’r holl eitemau yn y dudalen yn cael eu dyblygu gan gynnwys enw’r dudalen, cynnwys ac opsiynau.
Os yw tudalen yn cael ei defnyddio yn y Llwybrau Meistroli, mae’r gosodiad Llwybrau Meistroli hefyd yn cael ei alluogi ar dudalen sydd wedi’i chopïo. Yn ogystal, mae unrhyw dudalen Llwybrau Meistroli hefyd yn ymddangos ar y dudalen mynegai Aseiniadau.
Os yw’n berthnasol, mae Tudalennau’n dangos eiconau Cyrsiau Glasbrint ar ôl i’r dudalen gael ei hadnewyddu.
Agor Tudalennau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).
Gweld Tudalennau
Mae’r adran Tudalennau (Pages) wedi’i dylunio i agor i dudalen flaen y cwrs, os oes tudalen flaen wedi cael ei dewis. I ddewis tudalen o’r mynegai Tudalennau (Pages), cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).
Agor Tudalen
Chwiliwch am y dudalen rydych chi am ei dyblygu. Cliciwch yr eicon Opsiynau [1], a chlicio’r botwm Dyblygu (Duplicate) [2].