Gallwch ddefnyddio arolygon i gael adborth gan eich myfyrwyr, neu roi pwyntiau ychwanegol iddyn nhw wrth ymateb i arolwg. Mae arolygon wedi’u graddio i’w gweld yn y Maes Llafur, Llyfr Graddau, Calendr a’r Rhestr o Dasgau i’w Gwneud.
Nodiadau:
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis.
Os oes gan eich cwrs New Quizzes wedi’u galluogi, rhaid i chi ddewis peiriant cwis.
Rhaid i arolygol gael eu creu’n defnyddio cwisiau clasurol. I greu arolwg yn defnyddio cwisiau clasurol, cliciwch yr opsiwn Classic Quizzes [1].
Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [2].
Rhowch enw i’ch arolwg (survey) [1], a nodi unrhyw gyfarwyddiadau ar gyfer yr arolwg yn y blwch testun [2].
Cliciwch y gwymplen Math o Gwis (Type of Quiz) [1] a dewiswch y math o arolwg rydych chi am ei greu [2].
Bydd angen i chi roi’ch arolwg mewn grŵp aseiniadau (assignment group) [1], rhoi sgôr i’ch arolwg [2] a nodi opsiynau’r arolwg [3].
Mewn arolygon, mae gennych chi’r holl opsiynau cwis, arferol, ond gallwch hefyd sicrhau bod yr wybodaeth a gyflwynir yn aros yn ddienw [4]. Mae’r opsiwn dienw hwn yn berthnasol i arolygon wedi’u graddio a rhai heb eu graddio, ac mae modd ei alluogi a’i analluogi cyn neu ar ôl cyflwyno gwybodaeth ar gyfer arolwg.
Gallwch hefyd osod dyddiad erbyn a’r dyddiadau y bydd eich arolwg ar gael.
Cliciwch y tab Cwestiynau (Questions) [1]. Gallwch fynd ati i greu cwestiwn newydd ar gyfer yr arolwg drwy glicio’r botwm Cwestiwn Newydd (New Question) [2]. I gael gwybod pa fath o opsiynau sydd ar gael ar gyfer cwestiynau, edrychwch ar y wers math o gwestiwn yn y Canllaw i Addysgwyr.
Nodyn: Os byddwch chi’n cynnwys cwestiwn lle mae angen llwytho ffeil i fyny mewn arolwg dienw, bydd y ffeiliau wedi’u llwytho i lawr yn cynnwys enw’r myfyriwr yn enw’r ffeil. I sicrhau ei bod yn bosib aros yn ddienw mewn arolwg, peidiwch â chynnwys cwestiynau llwytho ffeil i fyny.
Dydy cwestiynau arolwg ddim yn cael eu rhifo’n awtomatig ar gyfer addysgwyr. I ychwanegu enw personol at gwestiwn yn eich arolwg, rhowch yr enw ym maes testun y cwestiwn. Gall enwau personol eich helpu chi i adnabod cwestiynau arolwg yn haws.
Beth bynnag yw enw’r cwestiwn, bydd y myfyrwyr bob amser yn gweld cwestiynau’r arolwg mewn trefn rifol (h.y. Cwestiwn 1, Cwestiwn 2).
Os ydych chi’n awyddus i greu cwestiynau sy’n cynnwys graddfa feintiol, gallwch greu cwestiwn graddfa Likert gan ddefnyddio math o gwestiwn sydd â mwy nag un gwymplen. Edrychwch ar y wers graddfa Likert i gael rhagor o wybodaeth.
Cliciwch y botwm Cadw i gadw eich gwaith ac i weld rhagolwg o’r arolwg.
Nodyn: Ni ddylech gyhoeddi eich arolwg nes eich bod wedi’i gwblhau’n derfynol. Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich arolwg a’i roi i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi.
I weld rhagolwg o’r arolwg, cliciwch y botwm Rhagolwg (Preview) [1]. Pan fyddwch chi’n barod i fyfyrwyr weld yr arolwg yn y cwrs, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [2].
If you have a suggestion to improve this guide, or if you want to recommend corrections, please share your feedback