Sut ydw i’n defnyddio’r Dudalen Mynegai Tudalennau (Pages Index)?

Gallwch weld holl dudalennau eich cwrs ar y dudalen Mynegai Tudalennau (Pages Index). Fel addysgwr, gallwch ychwanegu tudalennau newydd, golygu tudalennau, a rheoli gosodiadau tudalennau.

Dysgu mwy am dudalennau.

Agor Tudalennau

Agor Tudalennau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).

Gweld Tudalen Flaen

Mae’r adran Tudalennau wedi’i chynllunio fel ei bod yn agor ar dudalen flaen benodedig y cwrs. Mae’r gosodiadau cyffredinol ar frig y dudalen [1], wedi’u dilyn gan gynnwys y dudalen unigol [2].  

Gallwch hefyd ddefnyddio'r Dudalen Flaen fel tudalen hafan y cwrs.  

Nodyn: Os nad oes gan eich cwrs dudalen flaen eto, bydd yr adran Tudalennau’n agor ar y Dudalen Mynegai Tudalennau (Pages Index).

Gweld Gosodiadau Cyffredinol Tudalennau

Ar gyfer tudalennau unigol, mae gosodiadau cyffredinol yn cynnwys Gweld Pob Tudalen (Viewing All Pages) [1], cyhoeddi a dad-gyhoeddi’r dudalen [2], a golygu’r dudalen [3].

Yn y gwymplen Opsiynau (Options) [4], gallwch ddileu’r dudalen a gweld hanes y dudalen.

Nodyn: Does dim modd i chi ddileu tudalen sydd wedi cael ei gosod fel y Dudalen Flaen.

Gweld Pob Tudalen

I weld y Mynegai Tudalennau (Pages Index) o’r Dudalen Flaen neu unrhyw dudalen unigol, cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).

Gweld y Dudalen Mynegai Tudalennau

Mae gan y Mynegai Tudalennau ddwy swyddogaeth gyffredinol, i ychwanegu tudalennau newydd [1] a dileu’r tudalennau sydd wedi’u dewis [2].

Mae gweddill y Mynegai yn dangos y tudalennau unigol sydd wedi cael eu creu yn Canvas [3]. Gellir adnabod eich tudalen flaen drwy ei thag Tudalen Flaen (Front Page) [4].

Gallwch chi drefnu pryd y bydd tudalen yn cael ei chyhoeddi, a gallwch chi weld pryd y mae tudalen wedi’i threfnu i gael ei chyhoeddi [5].

Trefnu Tudalennau

Mae’r adran tudalennau yn dangos teitl y dudalen, dyddiad creu, golygiad diweddaraf, a dyddiad tasgau myfyriwr ar gyfer pob tudalen yn eich cwrs. Mae tudalennau’n cael eu trefnu yn ôl yr wyddor. Gallwch weld y tudalennau o fewn y mynegai mewn trefn o’r dechrau i’r diwedd, neu fel arall, drwy glicio’r saeth drws nesaf i’r pennawd.

Rheoli Tudalennau Unigol

I olygu tudalen cliciwch enw’r dudalen [1].

I reoli tudalen unigol, cliciwch yr eicon Opsiynau [2]. Gan ddefnyddio'r gwymplen Opsiynau, gallwch olygu enw'r dudalen [3], dileu'r dudalen [4], gosod unrhyw dudalen fel eich tudalen flaen [5], dyblygu'r dudalen [6], anfon y dudalen at addysgwr arall [7], neu gopïo'r dudalen i gwrs arall [8].

Nodiadau: Dydy'r opsiwn Tudalen Flaen ddim ond yn dangos ar gyfer tudalennau wedi'u cyhoeddi.

Gweld Cwrs Glasbrint

Os yw eich cwrs yn cynnwys eiconau Glasbrint (Blueprint), yna mae eich cwrs yn gysylltiedig â chwrs glasbrint. Mae Cyrsiau Glasbrint yn gyrsiau sy’n cael eu rheoli fel templed a gallant gynnwys gwrthrychau wedi’u cloi ac wedi’u rheoli gan weinyddwr, dylunydd cyrsiau, neu addysgwr arall yn Canvas.

Bydd y tab Manylion Cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs yn rhoi gwybod i chi os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint. Fel arfer, ni fydd eich cwrs yn gwrs glasbrint a dim ond cynnwys wedi’i ddatgloi fyddwch chi’n gallu ei reoli yn eich cwrs. Os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint, gallwch gloi a chysoni cynnwys cwrs â chyrsiau cysylltiedig.

Gweld y Wedd Myfyrwyr

I weld y dudalen mynegai tudalennau fel myfyrier, cliciwch y botwm Gwedd Myfyriwr (Student View).

Nodyn: Os ydy’r ddolen crwydro’r cwrs ar gyfer y dudalen wedi’i hanalluogi ac wedi’i chuddio rhag myfyrwyr, ni fydd y botwm Gwedd Myfyriwr yn ymddangos.