Sut ydw i’n gweld ffrwd Calendr iCal i danysgrifio i galendr allanol fel addysgwr?

Mae ffrwd y Calendr iCal i’w gweld ar far ochr eich Calendr. Gallwch fewngludo’r ffrwd iCal i unrhyw ap calendr sy’n gallu delio â’r fformat iCal, fel Google Calendar, Apple Calendar, Outlook, ac Yahoo Calendar. Gallwch chi hefyd lwytho ffrwd y calendr i lawr fel ffeil ICS. Bydd ffrwd y calendr yn cynnwys digwyddiadau ac aseiniadau o’ch holl galendrau Canvas.

Nodyn:

  • Bydd digwyddiadau hyd at 366 yn y dyfodol, a digwyddiadau yn y gorffennol o fewn 30 diwrnod yn cael ei gynnwys pan fyddwch yn allgludo calendr Canvas i raglen calendr arall. Mae'r crynodeb calendr yn gynnwys hyd at 1,000 o eitemau.
  • Ni fydd myfyrwyr yn gweld eitemau i’w gwneud yn ffrwd iCal eu Calendr.

Agor Calendr

Agor Calendr

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).

Agor Ffrwd Calendr

Agor Ffrwd Calendr

Cliciwch y ddolen Ffrwd Calendr (Calendar Feed).

Copïo Ffrwd Calendr

Copïo Ffrwd Calendr

I gopïo’r ddolen, copïwch y ddolen yn y maes testun [1].

I lwytho'r ffrwd i lawr fel ffeil ICS, cliciwch y ddolen cliciwch yma i weld y ffrwd (click here to view the feed) [2].