Sut ydw i’n mewngludo pecyn allgludo cwrs Canvas?

Os oes gennych chi becyn allgludo cwrs Canvas gan rywun arall rydych chi am ei ddefnyddio yn Canvas, neu os ydych chi wedi allgludo cwrs o’r blaen, yna gallwch fewngludo’r cwrs fel pecyn allgludo cwrs Canvas. Mae pecyn allgludo yn cael ei fewngludo fel ffeil IMSCC.

Sylwch:

  • Pan fyddan nhw’n cael eu mewngludo i gwrs, mae gan ffeiliau allgludo cwrs yr un cyfyngiadau â ffeiliau mewngludo cwrs. I gael rhagor o fanylion, gallwch ddysgu mwy am yr Adnodd Mewngludo Cyrsiau (Course Import Tool).
  • Wrth fewngludo pecyn allgludo cwrs Canvas, bydd y pecyn yn disodli rhai o osodiadau presennol y cwrs. Er enghraifft, os yw eich cwrs derbyn wedi ei osod â hawlfraint breifat, a’ch bod yn mewngludo pecyn sydd â hawlfraint creative commons (CC), yna bydd trwydded hawlfraint y cwrs derbyn yn newid o Breifat i CC. Adolygwch osodiadau’r cwrs ar ôl i chi fewngludo unrhyw beth i’r cwrs i wneud yn siŵr bod gosodiadau pwysig yn dal yn weithredol.
  • Does dim modd i chi addasu cwis cyfredol drwy fewngludo fersiwn wedi’i addasu. Dim ond wrth greu cwis am y tro cyntaf mae modd defnyddio ffeiliau wedi’u mewngludo. Os byddwch chi’n mewngludo'r un cwis fwy nag un waith, ni fydd cwisiau sydd wedi’u mewngludo’n flaenorol yn cael eu disodli, bydd yn creu mwy nag un copi o'r un cwis.
  • Mae cyfyngiad penodol ar faint ffeiliau i’w storio wedi cael ei neilltuo ar gyfer cyrsiau. Rhaid i faint ffeil pecyn allgludo eich cwrs fod yn llai na’r cwota ar gyfer eich cwrs fel sydd i’w weld yn ystadegau’r cwrs. Os nad oes gennych chi ddigon o le storio ar eich cwrs i fewngludo'r pecyn allgludo, yna cysylltwch â'ch gweinyddwr Canvas.
  • Bydd angen i addysgwyr danysgrifio i, neu alluogi hysbysiadau ar gyfer trafodaethau a chyhoeddiadau ar ôl eu mewngludo i gwrs newydd.
  • Mae pecynnau allgludo Canvas ar gyfer Cynradd yn cadw thema Canvas ar gyfer Cynradd wrth eu mewngludo.

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Mewngludo Cynnwys i Gwrs

Botwm Mewngludo Cynnwys i’r Cwrs hwn

Cliciwch y ddolen Mewngludo Cynnwys Cwrs (Import Course Content).

Dewis Math o Gynnwys

Dewis Pecyn Allgludo Cwrs Canvas

Yn y gwymplen Math o Gynnwys, dewiswch yr opsiwn Pecyn Allgludo Cwrs Canvas (Canvas Course Export Package).

Dewis Ffeil

Dewis Ffeil

Cliciwch y botwm Dewis Ffeil (Choose File).

Agor Ffeil

Agor Ffeil

Dewiswch y ffeil .imscc rydych chi am ei mewngludo [1]. Cliciwch y botwm Agor (Open) [2].

Dewis Cynnwys Mudo

Dewis Cwrs

I fewngludo’r holl gynnwys o’r cwrs, dewiswch y botwm radio Holl Gynnwys (All Content) [1].

Os ydych chi am ddewis cynnwys penodol, cliciwch y botwm radio Dewis Cynnwys Penodol (Select specific content) [2].

Sylwch:

  • Os byddwch chi'n dewis yr opsiwn cynnwys penodol, bydd gofyn i chi ddewis y cynnwys rydych am ei fewngludo ar ôl i chi adolygu’r opsiynau tudalennau sydd ar ôl. Ar ôl i chi ddechrau mewngludo'r cynnwys, does dim modd canslo’r ffeiliau a ddewiswyd i’w mewngludo.  
  • Os dewiswch yr opsiwn cynnwys penodol, ni fydd ffeiliau a delweddau cysylltiedig yng nghynnwys y cwrs (megis aseiniadau, trafodaethau a thudalennau) yn cael eu cadw.

Mudo cwisiau sy’n bodoli’n barod mewn swp fel Cwisiau Newydd

Mewngludo cwisiau sy’n bodoli’n barod fel Cwisiau Newydd

Os yw wedi’i ganiatáu gan eich sefydliad, gallwch chi fudo cwisiau sy’n bodoli’n barod mewn swp i Cwisiau Newydd drwy glicio’r blwch ticio Mewngludo cwisiau sy’n bodoli’n barod fel Cwisiau Newydd (Import existing quizzes as New Quizzes).

Os yw eich sefydliad yn galluogi’r nodwedd mudo cwis, bydd banciau cwestiynau sydd wedi’u cysylltu drwy grŵp cwestiynau yn Cwisiau Clasurol yn symud i Cwisiau Newydd. Os nad yw’r nodwedd mudo cwis wedi’i galluogi gan eich sefydliad, rhaid i gwestiynau o fanciau cwestiynau gael eu hychwanegu’n unigol cyn mudo i Cwisiau Newydd.

Sylwch:

  • Nid yw Cwisiau Newydd yn cynnwys nodwedd arolwg. Felly, mae arolygon sy’n cael eu mudo o Cwisiau Clasurol yn dod drosodd fel cwisiau safonol yn Cwisiau Newydd.
  • Ar ôl mudo i Cwisiau Newydd, mae mwy nag un cwestiwn cwymplen yn ymddangos fel cwestiynau cyfatebol.
  • Mae cwestiynau Testun Dim Cwestiwn yn mudo i Cwisiau Newydd fel cwestiynau Ysgogiad. Rhaid i addysgwr ychwanegu cwestiwn er mwyn iddo gael ei ddangos mewn cwis.
  • Bydd grwpiau cwestiynau gyda chwestiynau wedi’u creu gennych chi yn mudo fel banciau eitemau yn Cwisiau Newydd.
  • Os bydd cwis yn cael ei fudo mwy nag unwaith, bydd Canvas yn defnyddio cyfuno clyfar i ddatrys y cynnwys banc cwestiynau a ddylai gael ei gadw. Mae’r broses hon yn helpu i sicrhau bod yr holl gynnwys yn cael ei gadw, er enghraifft mewn achosion pan mae mwy nag un defnyddiwr yn golygu cwis ar yr un pryd.
  • Mae modd mudo cwisiau ymarfer o Cwisiau Clasurol i Cwisiau Newydd Ar ôl mudo, yn ddiofyn, mae’r cwisiau ymarfer yn cael eu dangos fel dim pwyntiau posib ac maen nhw wedi’u cuddio o’r tudalennau Graddau a’r Llyfr Graddau.

Addasu Digwyddiadau a Dyddiadau Erbyn

Dewis Cwrs

Os ydych chi am addasu’r dyddiadau erbyn sy’n gysylltiedig â digwyddiadau ac aseiniadau cwrs, cliciwch y blwch ticio Addasu dyddiadau erbyn a digwyddiadau (Adjust events and due dates).

Gweld Neges Rhybudd Mewngludo Cynnwys

Gweld Neges Rhybudd Mewngludo Cynnwys

Wrth fewngludo cynnwys, mae neges yn ymddangos yn egluro bod mewngludo’r un cynnwys cwrs neu allgludo pecyn mwy nag unwaith yn disodli unrhyw gynnwys sydd eisoes yn bodoli yn y cwrs.

Mewngludo Cwrs

Mewngludo Cwrs

Cliciwch y botwm Mewngludo (Import) [1].

Mae dangosydd cynnydd yn dangos y statws llwytho i fyny yn ôl canran [2].

Gweld Tasgau Presennol

Mae’r adran Tasgau Presennol (Current Jobs) yn dangos statws eich eitemau wedi’u mewngludo. Mae adroddiadau parhaus yn dangos bar cynnydd sy’n nodi’r amser sy'n weddill i orffen mewngludo [1].

Os gwnaethoch chi benderfynu dewis cynnwys penodol yn eich cwrs, bydd y dasg bresennol yn ymddangos fel un Yn Aros am Ddewis (Waiting for Select) [2], sy’n golygu bod rhaid i chi ddewis y cynnwys rydych chi am ei fewngludo.

Hefyd, bydd yr eitem sy’n cael ei mewngludo yn dangos dangosyddion statws eraill fel rhan o’r broses fewngludo. Gallwch ddysgu mwy am statws mewngludo cyrsiau.

Gallwch weld cynnwys unrhyw brosesau mewngludo sydd wedi’u cwblhau drwy fynd i unrhyw ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.