Sut ydw i’n copïo cynnwys o gwrs Canvas arall gan ddefnyddio’r Adnodd Mewngludo Cwrs?

Gallwch gopïo cynnwys y cwrs fel aseiniadau, modiwlau, tudalennau, a thrafodaethau o gyrsiau Canvas blaenorol i'r cyrsiau presennol. Does gennych chi ddim ond mynediad i gopïo cynnwys o gyrsiau rydych chi wedi ymrestru arnynt fel defnyddiwr gyda hawliau addysgwr.

Mae'r opsiwn hwn yn caniatáu i chi gopïo cynnwys i gyrsiau sy’n bodoli’n barod. Mae’n bosib y byddwch yn gallu copïo cynnwys i gragen cwrs newydd.

Nodiadau:

  • Efallai na fydd y cynnwys i gyd yn cael ei drosglwyddo mewn prosesau mewngludo cwrs. Am ragor o fanylion, darllenwch am y mewngludo adran gynnwys yng Nghanllaw Nodweddion Sylfaenol Canvas.
  • Gall mewngludo cwrs fwy nag unwaith arwain at ganlyniadau anfwriadol. Os byddwch chi’n mewngludo cynnwys i gwrs newydd, yn golygu’r cynnwys yn y cwrs newydd, ac yna’n mewngludo'r cynnwys blaenorol eto, bydd y cynnwys sydd wedi'i fewngludo yn diystyru'r cynnwys presennol.
  • Os byddwch chi’n copïo’r holl gynnwys neu’n cynnwys gosodiadau cwrs yn y cynnwys sydd wedi’i ddewis, bydd y polisi postio graddau o’r cwrs gwreiddiol yn diystyru polisi postio graddau’r cwrs newydd. Bydd y dyddiadau cymryd rhan o’r cwrs gwreiddiol yn disodli’r dyddiadau cymryd rhan yn y cwrs newydd. Ar ben hyn, bydd aseiniadau wedi’u mewngludo yn cadw eu polisi postio aseiniadau a dyddiadau cymryd rhan o’r cwrs gwreiddiol.

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Mewngludo Cynnwys i Gwrs

Botwm Mewngludo Cynnwys i’r Cwrs hwn

Cliciwch y ddolen Mewngludo Cynnwys Cwrs (Import Course Content).

Dewis Math o Gynnwys

Mewngludo Cynnwys o Blackboard

Yn y gwymplen Math o Gynnwys, dewiswch yr opsiwn Copïo Cwrs Canvas (Copy a Canvas Course).

Chwilio am Gwrs

Dewis Sefydliad

Yn y gwymplen Chwilio am gwrs (Search for a course) [1], dewiswch y cwrs yr hoffech chi ei weld. Caiff cyrsiau eu trefnu yn nhrefn yr wyddor yn ôl y tymor mwyaf diweddar. Hefyd, gallwch ddewis cynnwys cyrsiau wedi’u cwblhau drwy roi tic yn y blwch cyrsiau wedi’u cwblhau [2]. Mae'r blwch ticio Cynnwys cyrsiau wedi’u cwblhau yn cael ei ddewi yn ddiofyn.

I chwilio am gwrs yn ôl enw, rhowch yr enw yn y maes Enw’r Cwrs (Course Name) [3]. Cliciwch enw’r cwrs ar ôl iddo ymddangos.

Nodyn: Os oes gennych chi fynediad at fwy na 100 o gyrsiau, dim ond y maes Enw’r Cwrs (Course Name) y bydd y dudalen chwilio yn ei ddangos.

Dewis Cynnwys Mudo

Dewis Cwrs

I fewngludo’r holl gynnwys o’r cwrs, dewiswch y botwm radio Holl Gynnwys (All Content) [1].

Os ydych chi am ddewis cynnwys penodol, cliciwch y botwm radio Dewis Cynnwys Penodol (Select specific content) [2].

Nodyn: Os byddwch chi'n dewis yr opsiwn cynnwys penodol, bydd gofyn i chi ddewis y cynnwys rydych am ei fewngludo ar ôl i chi adolygu’r opsiynau tudalennau sydd ar ôl. Ar ôl i chi ddechrau mewngludo'r cynnwys, does dim modd canslo’r ffeiliau a ddewiswyd i’w mewngludo.  

Addasu Digwyddiadau a Dyddiadau Erbyn

Dewis Cwrs

Os ydych chi am addasu’r dyddiadau erbyn sy’n gysylltiedig â digwyddiadau ac aseiniadau cwrs, cliciwch y blwch ticio Addasu dyddiadau erbyn a digwyddiadau (Adjust events and due dates).

Mewngludo Gosodiadau Cwrs Glasbrint

Mewngludo Gosodiadau Cwrs Glasbrint

Gallwch fewngludo gosodiadau o gwrs glasbrint i gwrs glasbrint arall. Wrth fewngludo gosodiadau glasbrint, mae hyn yn defnyddio'r un dewisiadau cloi gyda gwrthrychau fel y byddai’n digwydd gyda’r cwrs glasbrint gwreiddiol. I fewngludo gosodiadau o gwrs glasbrint, ticiwch y blwch Mewngludo Gosodiadau Cwrs Glasbrint (Import Blueprint Course Settings).

Gweld Neges Rhybudd Mewngludo Cynnwys

Gweld Neges Rhybudd Mewngludo Cynnwys

Wrth fewngludo cynnwys, mae neges yn ymddangos yn egluro bod mewngludo’r un cynnwys cwrs neu allgludo pecyn mwy nag unwaith yn disodli unrhyw cynnwys syddd eisoes yn bodoli yn y cwrs.

Mewngludo Cwrs

Mewngludo Cwrs

Cliciwch y botwm Mewngludo (Import).

Gweld Tasgau Presennol

Mae’r adran Tasgau Presennol (Current Jobs) yn dangos statws eich eitemau wedi’u mewngludo. Mae adroddiadau parhaus yn dangos bar cynnydd sy’n nodi’r amser sy'n weddill i orffen mewngludo [1].

Os gwnaethoch chi benderfynu dewis cynnwys penodol yn eich cwrs, bydd y dasg bresennol yn ymddangos fel un Yn Aros am Ddewis (Waiting for Select) [2], sy’n golygu bod rhaid i chi ddewis y cynnwys rydych chi am ei fewngludo.

Hefyd, bydd yr eitem sy’n cael ei mewngludo yn dangos dangosyddion statws eraill fel rhan o’r broses fewngludo. Gallwch ddysgu mwy am statws mewngludo cyrsiau.

Gallwch weld cynnwys unrhyw brosesau mewngludo sydd wedi’u cwblhau drwy fynd i unrhyw ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.