Sut ydw i’n ychwanegu ac yn addasu testun yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?

Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, Cwisiau, a Maes Llafur. Dysgwch am gael mynediad at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn eich cwrs.

Gallwch chi deipio testun a gallwch chi gopïo a gludo testun o ffynonellau eraill i mewn i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog hefyd yn cynnwys nifer o adnoddau fformatio sy’n gadael i chi addasu eich testun.

Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn gallu delio â bysellau hwylus ar gyfer copïo a gludo testun.

Copïo a Gludo’n Defnyddio PC

  • Copïo (Ctrl+C) a Gludo (Ctrl+V)
  • Copïo (Ctrl+C) a Gludo heb fformatio (Ctrl+Shift+V)

Copïo a Gludo’n Defnyddio Mac

  • Copïo (Command+C) a Gludo (Command+V)
  • Copïo (Command+C) a Gludo heb fformatio (Command+Option+Shift+V)

Nodyn: Os ydych chi e wedi galluogi Thema Sylfaenol Canvas ar eich cwrs, bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn dangos ffont wahanol.

Gweld y Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Gweld y Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Wrth greu neu olygu cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, tudalen, cwis, neu faes llafur, mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn agor yn ddiofyn.

Gallwch chi ychwanegu a fformatio cynnwys gan ddefnyddio’r bar dewislen [1] neu’r bar offer [2].

Agor Bysellau Hwylus

Agor Bysellau Hwylus

Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau crwydro hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd (Keyboard) neu pwyswch Alt+F8 (ar fysell cyfrifiadur) neu Option+F8 (ar fysell Mac) ar yr un pryd ar eich bysell.

Gweld Cyfrif Geiriau

Gweld Cyfrif Geiriau

Gallwch weld cyfanswm y cyfrif geiriau. I weld y cyfanswm cyfrif geiriau, nodau a nodau heb fylchau, cliciwch y ddolen Cyfrif Geiriau (Word Count).

Newid Maint Ffenestr Golygydd

Newid Maint Ffenestr Golygydd

Rhoi Testun

Rhoi Testun

Teipiwch neu ludo testun wedi’i gopïo i mewn i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Tynnu Fformatio Testun

I dynnu fformatio testun, dewiswch y testun [1], yna cliciwch yr eicon Clirio Fformatio (Clear Formatting) [2].

Nodyn: I weld yr eicon Clirio Fformatio, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [3].

Newid Maint Ffont

Newid Maint Ffont

Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei addasu [1]. Yna cliciwch y gwymplen Maint Ffont (Font Sizes) [2] a dewis maint y ffont rydych chi eisiau ei ddefnyddio [3]. Gallwch chi ddewis o ffontiau maint 8, 10, 12, 14, 18, 24, neu 36pt

Newid Steil Testun

Newid Steil Testun

Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei addasu [1]. Yna cliciwch y gwymplen Paragraff (Paragraph) [2] a dewis steil y testun rydych chi eisiau ei ddefnyddio [3]. Dewiswch rhwng Pennawd 2, Pennawd 3, Pennawd 4, Wedi’i Fformatio’n Barod a Pharagraff.

Nodyn: Yn ddiofyn, mae’r prif bennawd ar gyfer y cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, tudalen, cwis, neu faes llafur yr un fath a’r teitl neu’r enw rydych chi’n ei roi wrth greu eitem cwrs.

Testun Bwlch Sengl

Testun Bwlch Sengl

I greu bylchau sengl yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, Pwyswch Shift+Enter (ar fysellfwrdd PC) neu Shift+Return (ar fysellfwrdd Mac). Mae hyn yn creu toriad llinell yn hytrach na thoriad paragraff.

Fformatio Pwyslais Testun

Fformatio Pwyslais Testun

Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei fformatio [1].

I wneud y testun dan sylw yn drwm, cliciwch yr eicon Trwm (Bold) [2], neu bwyso Cmd+B (Bysellfwrdd Mac) neu Ctrl+B (Bysellfwrdd PC).

I wneud y testun dan sylw yn italig, cliciwch yr eicon Italic (Italic) [3], neu bwyso Cmd+I (Bysellfwrdd Mac) neu Ctrl+I (Bysellfwrdd PC).

I danlinellu’r testun dan sylw, cliciwch yr eicon Tanlinellu (Underline) [4], neu bwyso Cmd+U (Bysellfwrdd Mac) neu Ctrl+U (Bysellfwrdd PC).

Pan fo’r ffeil dan sylw wedi’i fformatio, bydd saeth yn ymddangos uwchben yr opsiwn dan sylw [5].

Lliwio ac Uwcholeuo Testun

Lliwio ac Uwcholeuo Testun

Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei liwio [1].

I newid lliw'r testun, cliciwch yr eicon Lliw’r Testun (Text Color) [2].

I uwcholeuo’r testun, cliciwch yr eicon Lliw Cefndir (Background Color) [3]

Dewiswch liw o’r gwymplen lliwiau [4]. Gallwch chi weld enw’r lliw drwy hofran eich llygoden dros y lliw [5].

I dynnu fformatio lliw, cliciwch yr eicon Tynnu Lliw (Remove Color) [6].

I ddewis lliw personol ar gyfer testun, cliciwch yr eicon Lliw Personol (Custom Color) [7].

Dewis Lliw Personol

Dewis Lliw Personol

Defnyddiwch y dewiswr lliw i ddewis tôn [1] ac arlliw [2]. Gallwch chi hefyd roi codau lliw RGB [3] neu roi cod lliw HEX [4]. Edrychwch ar eich lliw personol yn y ffenestr dangos lliw [5].

I roi’r lliw ar eich testun, cliciwch y botwm Cadw (Save) [6].

Testun Uwch-ysgrif ac Is-ysgrif

Gallwch chi fformatio eich testun i ymddangos fel uwch-ysgrif neu is-ysgrif. Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei addasu [1].

I fformatio eich testun fel uwch-ysgrif, cliciwch yr eicon Uwch-ysgrif [2] a dewis yr opsiwn Uwch-ysgrif (Superscript) [3].

I fformatio eich testun fel is-ysgrif, cliciwch yr eicon Uwch-ysgrif [2] a dewis yr opsiwn Is-ysgrif (Subscript) [4].

Cysoni Testun

I gysoni testun, rhowch y cyrchwr o flaen y testun rydych chi eisiau ei gysoni [1], yna cliciwch yr eicon Cysoni (Alignment) [2]. O’r gwymplen gallwch chi ddewis cysoni’r testun i’r Chwith (Left) [3], Canol (Center) [4], a’r Dde (Right) [5].

Nodyn: I weld yr eicon Alinio, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [6].  

Mewnoli ac Alloli Testun.

Mewnoli ac Alloli Testun.

I fewnoli testun, cliciwch yr eicon Mewnoli (Indent) [1].

Os yw eich testun wedi’i fewnoli, gallwch chi alloli eich testun. I alloli eich testun, cliciwch yr eicon Saeth Mewnoli (Indent Arrow) [2] a chlicio’r opsiwn Alloli (Outdent) [3].

Gallwch chi glicio’r opsiynau Mewnoli ac Alloli fwy nag unwaith i gynyddu neu leihau mewnoliad y testun.

Nodyn: I weld yr eicon Mewnoli, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [4].  

Cysoni Cyfeiriad Testun

Cysoni Cyfeiriad Testun

I alinio cyfeiriad eich testun, cliciwch y ddolen Fformatio yn y bar dewislen [1], yna dewiswch yr opsiwn Cyfeirioldeb [2]. Gallwch chi alinio eich testun o’r Chwith i’r Dde (Left to Right) [3] ac o’r Dde o’r Chwith (Right to Left) [4].

Creu Rhestr o Bwyntiau Bwled neu Rifau

Creu Rhestr o Bwyntiau Bwled neu Rifau

Dewiswch y testun rydych chi eisiau ei gynnwys yn eich rhestr [1], yna cliciwch yr eicon Rhestr (List) [2]. Gallwch chi ddewis math o restr o bwyntiau bwled [3], neu restr rifol neu alffabetig [4].

Nodyn: I weld yr eicon Rhestr, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [5].

Gweld Rhestr o Bwyntiau Bwled

Gweld Rhestr o Bwyntiau Bwled

Gweld y rhestr o bwyntiau bwled.

Gweld Rhestr o Rifau

Gweld Rhestr o Rifau

Gweld y rhestr o rifau.

Gweld cynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig

Gweld cynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig

Os byddwch chi’n ail-lwytho neu’n mynd oddi ar y dudalen wrth olygu cynnwys yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, bydd Canvas yn cadw eich cynnwys yn awtomatig yn storfa’r porwr am hyd at un diwrnod. Pan fyddwch chi’n ail-lwytho’r dudalen neu’n mynd yn ôl i’r dudalen roeddech chi’n ei golygu, bydd Canvas yn dangos neges yn nodi fod cynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig yn bodoli. Gallwch chi weld rhagolwg o’r cynnwys, hepgor y cynnwys, neu lwytho’r cynnwys i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Nodiadau:

  • Dydy cynnwys wedi’i gadw’n awtomatig ddim yn nodwedd ddi-ffael ac mae’n bosib na fydd cadw cynnwys mewn rhai sefyllfaoedd.
  • Mae faint o le storio lleol sydd ar gael yn dibynnu ar ba borrwr rydych chi’n ei ddefnyddio.
  • Dydy cynnwys wedi’i gadw’n awtomatig ddim ond ar gael ar dudalennau sy’n cynnwys un ffenestr Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
  • Dydy cynnwys wedi’i gadw’n awtomatig ddim ond ar gael ar yr un porwr a’r cyfrifiadur roeddech chi’n eu defnyddio pan wnaethoch chi greu’r cynnwys gwreiddiol.

Gweld rhagolwg o gynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig

Gweld rhagolwg o gynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig

I weld rhagolwg o gynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig gan Canvas, cliciwch y botwm Rhagolwg (Preview).

Llwytho cynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig

Llwytho cynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig

I lwytho cynnwys sydd wedi’i gadw’n awtomatig i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, cliciwch y botwm Iawn (Yes) [1]. I hepgor y newidiadau sydd wedi’u cadw’n awtomatig, cliciwch y botwm Na (No) [2].

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw (Save).

Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn y nodwedd Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).

Gweld Cynnwys

Gweld Cynnwys

Gweld y cynnwys sydd wedi’i greu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.