Sut ydw i’n defnyddio’r rhyngwyneb Cynadleddau fel safonwr neu gyflwynydd?

Pan fyddwch chi wedi dechrau cynhadledd neu wedi ymuno â chynhadledd fel safonwr, gallwch ddefnyddio’r rhyngwyneb Cynadleddau i safoni a chymryd rhan yn y gynhadledd. Bydd unrhyw ddefnyddiwr sy'n dechrau cynhadledd neu addysgwr sy'n ymuno â'r gynhadledd yn cael hawliau safonwr. Mae safonwyr yn gallu israddio safonwyr eraill i fod yn wylwyr.

Mae'r rhyngwyneb Cynadleddau yn cael ei ddangos gan system gynadledda HTML5 BigBlueButton. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg syml o'r rhyngwyneb Cynadleddau. I ddysgu mwy am nodweddion penodol, edrychwch ar y dogfennau defnyddiwr HTML5 BigBlueButton.

Mae'n syniad da defnyddio'r porwyr Chrome neu Firefox i gael mynediad at y rhyngwyneb Cynadleddau. Nid yw porwr Safari yn delio â rhannu sgrin.

Gweld Rhyngwyneb Cynadleddau

Mae’r rhyngwyneb Cynadleddau yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu chi i safoni a chyfrannu at eich cyflwyniad. Mae'r rhyngwyneb yn cynnwys y canlynol:

  • Dewislen Defnyddiwr [1]
  • Ffenestr Gyflwyno [2]
  • Adnoddau Cynhadledd [3]
  • Dewislen Opsiynau [4]

Gweld Dewislen Defnyddiwr

Gweld Dewislen Defnyddiwr

O'r Ddewislen Defnyddwyr, gallwch weld pob defnyddiwr sydd yn y gynhadledd [1]. Mae pob defnyddiwr yn cael ei gynrychioli gan ei enw arddangos yn Canvas.

Hefyd, gallwch siarad â chyfranogwyr y gynhadledd a chyfrannu at nodiadau wedi'u rhannu. I agor sgwrs y gynhadledd, cliciwch y ddolen Sgwrs Gyhoeddus (Public Chat) [2]. I agor y Nodiadau wedi'u rhannu, cliciwch y ddolen Nodiadau wedi'u rhannu (Shared Notes) [3].

Mae'r Ddewislen Defnyddiwr ar agor yn ddiofyn. I gau'r Ddewislen Defnyddiwr, cliciwch yr eicon Defnyddwyr (Users) [4].

Rheoli Defnyddwyr

Rheoli Defnyddwyr

I reoli gosodiadau ar gyfer pob defnyddiwr, cliciwch yr eicon Gosodiadau Defnyddiwr (User Settings) [1].

I glirio eiconau statws defnyddwyr, cliciwch y ddolen Clirio pob eicon statws (Clear all status icons) [2].

I dewi defnyddwyr, Cliciwch y dolenni Tewi pob defnyddiwr (Mute all users) neu Tewi pob defnyddiwr heb law am y cyflwynydd (Mute all users except presenter) [3].

I gadw enwau defnyddwyr, cliciwch y ddolen Cadw enwau defnyddwyr (Save user names) [4].

I gloi nodweddion penodol y gynhadledd, cliciwch y ddolen Cloi gwylwyr (Lock viewers) [5]. I greu ystafelloedd ymylol, cliciwch y ddolen Creu ystafelloedd ymylol (Create breakout rooms) [6].

I ysgrifennu capsiynau caeedig, cliciwch y ddolen Ysgrifennu capsiynau caeedig (Write closed captions) [7].

I sgwrsio a defnyddiwr, tynnwch ddefnyddiwr o'r gynhadledd, neu dyrchafwch ddefnyddiwr i fod yn gyflwynydd neu safonwr, cliciwch enw'r defnyddiwr [8].

Gweld Ffenestr Cyflwyniad

Mae’r Ffenestr Cyflwyniad yn dangos y cyflwyniad sydd wedi cael ei ddewis gan y safonwr neu'r cyflwynydd [1]. I lwytho ffeil cyflwyniad newydd i fyny, dechrau pôl, neu rannu fideo allanol, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add) [2].

I ddechrau recordio'r sesiwn, cliciwch y botwm Dechrau recordio (Start recording)[3].

Mae'r Ffenestr Cyflwyniad yn cynnwys nifer o adnoddau hefyd sy'n rheoli sut y gallwch chi gymryd rhan yn y gynhadledd. I dewi neu ddad-dewi eich meicroffon, cliciwch y botwm Meicroffon (Microphone) [4]. I adael neu ymuno â sain y gynhadledd, cliciwch y botwm Sain (Audio) [5].

I alluogi eich gwe-gamera, cliciwch y botwm Gwe-gamera (Webcam) [6]. Os yw gwe-gamerâu wedi'u galluogi, gallwch gau'r ffenestr cyflwyniad a dangos dim ond gwe-gamerâu drwy glicio’r eicon Cuddio Cyflwyniad (Hide Presentation) [7].

I rannu sgrin eich cyfrifiadur, cliciwch y botwm Rhannu Sgrin (Share Screen) [8].

Gweld Adnoddau Anodi

Gweld Adnoddau Anodi

Mae rhyngwyneb y Gynhadledd yn cynnwys nifer o adnoddau y gallwch chi eu defnyddio i anodi ffenestr y cyflwyniad. I dremio dogfen sydd wedi cael ei nesáu, cliciwch yr eicon Tremio (Pan) [1].

I weld yr holl adnoddau anodi, cliciwch a daliwch yr eicon Tremio. Ynghyd â'r adnodd tremio, gallwch hefyd greu anodiadau testun [2], anodiadau llinell [3], neu anodiadau siâp [4].

I ddefnyddio pensil i ysgrifennu yn y ffenestr cyflwyniad, cliciwch yr eicon Pensil [5].

Os bydd anodiad yn cael ei ychwanegu at eich cyflwyniad, gallwch chi ddewis trwch a lliw’r anodiad yn yr Adnoddau Anodi.

I ddadwneud yr anodiad diweddaraf, cliciwch yr eicon Dadwneud (Undo) [6]. I ddileu’r holl anodiadau rydych chi wedi'u creu, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [7].

I alluogi gwrthod cledr, cliciwch yr eicon Gwrthod Cledr (Palm Rejection) [8].  

I adael i ddefnyddwyr ddefnyddio'r adnoddau anodi, newid lliw'r anodiad, cliciwch yr eicon Bwrdd Gwyn Aml-ddefnyddiwr (Multiuser Whiteboard) [9].

Agor Dewislen Opsiynau

Agor Dewislen Opsiynau

I agor y ddewislen Opsiynau, cliciwch yr eicon Opsiynau [1].

I weld y cyflwyniad mewn sgrin lawn, cliciwch y ddolen Sgrin Lawn (Make fullscreen) [2].

I weld gwybodaeth am y rhyngwyneb, cliciwch yr opsiwn Am (About) [3]. I weld tiwtorialau help, cliciwch y ddolen Help [4]. I weld bysellau brys, cliciwch y ddolen Bysellau hwylus (Keyboard shortcuts) [5].

I orffen y gynhadledd, cliciwch y ddolen Gorffen cyfarfod (End meeting) [6]. I allgofnodi o'r rhyngwyneb, cliciwch yddolen Gadael cyfarfod (Leave meeting) [7].

I weld statws eich cysylltied, cliciwch yr eicon Statws cysylltiad (Connection status) [8].

Gweld Dewislen Gosodiadau

Gweld Dewislen Gosodiadau

I agor y ddewislen Gosodiadau, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Rheoli Gosodiadau Rhaglen

Rheoli Gosodiadau Rhaglen

I reoli gosodiadau rhaglen, cliciwch y ddolen Rhaglen (Application) [1].

I reoli animeiddiadau sy'n ymddangos pan mae defnyddiwr yn siarad, cliciwch y togl Animeiddiad (Animations) [2].

I reoli hidlyddion sain meicroffon, cliciwch y togl Hidlyddion Sain ar gyfer Meicroffon (Audio Filters for Microphone) [3].

I ddewis yr iaith ar gyfer y rhyngwyneb, cliciwch y gwymplen Iaith Rhaglen (Application Language) [4].

I newid maint y ffont, cliciwch y botwm Lleihau (Decrease) neu'r botwm Chwyddo (Increase) [5].

Rheoli Gosodiadau Hysbysiadau

Rheoli Gosodiadau Hysbysiadau

I reoli gosodiadau hysbysiad, cliciwch y ddolen Hysbysiadau (Notifications) [1].

I reoli rhybuddion sgwrs, cliciwch y toglau Rhybuddion Sain Negeseuon Sgwrs (Chat Message Audio Alerts) [2] a Rhybuddion Naid (Popup Alerts) [3].

I reoli rhybuddion ymuno defnyddiwr cliciwch y toglau Rhybuddion Sain Ymuno Defnyddwyr (User Join Audio Alerts) [4] a Rhybuddion Naid (Popup Alerts) [5].

Yn olaf, i reoli rhybuddion codi llaw, cliciwch y toglau Rhybuddion Sain Codi Llaw (Raise hand Audio Alerts) [6] a Rhybuddion Naid (Popup Alerts) [7].

Nodyn: Dydy rhybuddion sgwrs ddim ond yn gweithio ar y math o borwr y mae'r rhyngwyneb Cynadleddau ar agor arno.

Rheoli Gosodiadau Cadw Data

Rheoli Gosodiadau Cadw Data

I reoli gosodiadau cadw data, cliciwch y ddolen Cadw data (Data saving) [1].

I alluogi neu analluogi gwe-gamerâu, cliciwch y togl Galluogi gwe-gamerâu (Enable webcams) [2].

I alluogi neu analluogi rhannu bwrdd gwaith, cliciwch y togl Galluogi rhannu bwrdd gwaith (Enable desktop sharing) [3].