Sut ydw i’n allgludo cwrs Canvas?

Gallwch allgludo cwrs Canvas er mwyn ei roi i rywun mewn cyfrif Canvas arall, ei lwytho i fyny i gyfrif sefydliad arall rywbryd eto, neu er mwyn creu copi wrth gefn ar eich cyfrifiadur lleol. Gallwch fewngludo ffeil sydd wedi cael ei hallgludo i Canvas ar unrhyw adeg.

Mae ffeiliau sydd wedi cael eu hallgludo yn cael eu pecynnu fel ffeiliau ZIP IMSCC, sydd ddim ond yn gallu cael eu hagor gan raglenni sy’n gallu delio â ffeiliau Common Cartridge. Gallwch hefyd newid yr estyniad o .imscc i .zip a’i drin fel unrhyw ffeil ZIP arall.

Nodiadau:

  • Dydy prosesau allgludo Canvas ddim yn cynnwys copïau wrth gefn o wybodaeth am ryngweithio a graddau myfyrwyr. Mae modd i raddau gael eu hallgludo ar wahân fel ffeil gwerthoedd wedi'u gwahanu gydag atalnodau (CSV).
  • Dydy rhai adnoddau LTI apiau allanol fel Google Drive ac Office 365 ddim yn cadw ffurfweddiadau adnoddau mewn cyrsiau sydd wedi’u hallgludo. Yn hytrach, efallai y byddwch yn ystyried copïo'r cwrs.
  • Dydy Canvas ddim yn gallu delio â ffeiliau allgludo cwrs sy’n fwy na 50 GB. Fydd cyrsiau sy’n fwy na 50 GB ddim yn cael eu hallgludo a bydd neges gwall yn ymddangos os fyddwch chi’n ceisio allgludo.
  • Mae pecynnau allgludo Canvas ar gyfer Cynradd yn cadw thema Canvas ar gyfer Cynradd.

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Allgludo Cwrs

Allgludo Cwrs

Cliciwch y ddolen Allgludo Cynnwys Cwrs (Export Course Content).

Dewis Math o Broses Allgludo

Dewis Math o Broses Allgludo

Yn y pennawd Math o Broses Allgludo, cliciwch y botwm radio Cwrs (Course) [1]. Cliciwch y botwm Creu Proses Allgludo (Create Export) [2].

Nodyn: Os ydych chi wedi allgludo’r cwrs o’r blaen, bydd Canvas yn dangos prosesau allgludo blaenorol o dan y pennawd Prosesau Allgludo Cynnwys (Content Exports).

Gweld Proses Allgludo

Gweld y bar cynnydd. Gall allgludo cwrs yn Canvas gymryd rhai munudau, yn dibynnu ar ei faint. Byddwch yn derbyn e-bost pan fydd y broses allgludo wedi gorffen.

Llwyo i lawr ffeiliau allgludo newydd

Llwyo i lawr ffeiliau allgludo newydd

Pan mae eich proses llwytho i lawr yn barod, cliciwch y ddolen Ffeiliau Allgludo Newydd (New Export).

Nodyn: Mae cynnwys sydd wedi cael ei allgludo yn dod i ben ar ôl 30 diwrnod ac nid oes modd ei lwytho i lawr wedi hynny.