Sut ydw i’n dechrau cynhadledd?
Fe allwch chi ddechrau cynadleddau rydych chi wedi’u creu ar gyfer eich cwrs.
Nodyn: Mae’r ddolen Crwydro'r Cwrs ar gyfer eich adnodd gwe-gynadledda yn adlewyrchu enw’r adnodd gwe-gynadledda. Efallai y bydd y ddolen yn ymddangos fel BigBlueButton, Adobe Connect, neu enw’r adnodd gwe-gynadledda mae eich sefydliad yn ei ddefnyddio.
Agor Cynadleddau
Yn Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen ar gyfer eich adnodd gwe-gynadledda. Mae enw’r ddolen yn adlewyrchu’r adnodd cynadledda sy’n cael ei ddefnyddio gan eich sefydliad.
Dechrau Cynhadledd
Cliciwch y botwm Cychwyn (Start) wrth ymyl y gynhadledd rydych chi am ei dechrau.
Bydd Canvas yn eich anfon i’r ystafell gynadledda ar gyfer eich cynhadledd. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio’r rhyngwyneb cynadleddau.