Sut ydw i’n gosod polisi Cyflwyniad Hwyr yn y Llyfr Graddau?
Mae’r polisi Cyflwyniad Hwyr yn gadael i chi dynnu pwyntiau’n awtomatig o bob cyflwyniad hwyr. Mae’r cyflwyniad yn cael ei labelu’n hwyr pan mae wedi cael ei gyflwyno ar ôl y dyddiad erbyn. Dim ond aseiniadau gyda statws Hwyr fydd yn cael eu heffeithio gan y polisi Cyflwyniad Hwyr. Bydd y polisi hwyr yn cael ei osod i gyflwyniad pan mae’n cael ei raddio.
Dydy polisïau Cyflwyniad Hwyr ddim ond yn berthnasol i’r cwrs y maen nhw wedi’u ffurfweddu ynddo. Bydd polisïau Cyflwyniad Hwyl yn effeithio ar aseiniadau sydd eisoes wedi'u graddio, ond ni fyddant yn effeithio ar aseiniadau mewn cyfnodau graddio sydd wedi dod i ben neu gyflwyniadau ar gyfer myfyrwyr gydag ymrestriadau wedi’u dirwyn i ben. Ni fydd analluogi polisi Cyflwyniad Hwyr yn tynnu cosb am fod yn hwyr o aseiniadau sydd eisoes wedi’u graddio.
Mae’r polisi Cyflwyniad Hwyr yn gadael i chi ddiffinio canran y pwyntiau posib ar aseiniad a fydd yn cael ei dynnu ar gyfer cyflwyniadau hwyr. Mae pwyntiau’n gallu cael tynnu am bob diwrnod neu awr y mae’r cyflwyniad yn hwyr. Er enghraifft, os yw’r maes Tynnu wedi’i osod i 10%, a’r cyfnod wedi’i osod i Ddiwrnod, a bod yr aseiniad werth 10 pwynt, bydd 1 pwynt yn cael ei dynnu bob dydd. Os yw’r cyflwyniad 2 ddiwrnod yn hwyr, a bod y myfyriwr yn cael pwyntiau llawn, byddai eu gradd derfynol ar yr aseiniad yn 8 pwynt (2 ddiwrnod yn hwyr x 1 pwynt yn cael ei dynnu bob dydd = Cosb am fod yn hwyr o 2 bwynt).
I gyfrifo’r gosb am fod yn hwyr, mae Canvas yn talgrynnu’r diwrnod neu awr i’r rhif cyfan nesaf. Er enghraifft, gallwch chi osod polisi cyflwyniad hwyr o 10% bob dydd. Os bydd myfyriwr yn cyflwyno aseiniad 10 pwynt 1.4 diwrnod yn hwyr, bydd y gosb am fod yn hwyr yn talgrynnu’r 1.3 diwrnod i 2 ddiwrnod. Bydd sgôr y myfyriwr yn adlewyrchu tynnu 20% (2 bwynt) ar gyfer y cyflwyniad hwyr.
Yn ogystal, gallwch chi ddiffinio’r trothwy gradd isaf posib ar gyfer polisi hwyr. Y ganran gradd isaf posib yw’r sgôr isaf y gall myfyriwr ei gael pam mae didyniadau polisi hwyr yn cael eu gosod ar raddau sydd wedi’i rhoi uwchben y ganran honno. Ni fydd unrhyw radd sydd wedi’i rhoi sy’n hafal i neu o dan y ganran honno’r derbyn didyniadau polisi hwyr.
Er enghraifft, os yw’r polisi Cyflwyniad Hwyr wedi’i osod i ddidynnu 10% bob dydd ar gyfer cyflwyniadau hwyr, a bod myfyriwr yn cyflwyno aseiniad sydd werth 10 pwynt 8 diwrnod yn hwyr, byddai gradd y myfyriwr yr 2 bwynt os bydden nhw’n cael credyd llawn ar yr aseiniad (8 diwrnod yn hwyr x 1 pwynt yn cael ei dynnu bob dydd = Cosb am fod yn hwyr o 8 bwynt). Ond, os ydy radd bosib isaf wedi’i gosod i 60%, bydd gradd y myfyriwr yn cael ei haddasu i 6 pwynt. Ni fydd gan unrhyw raddau sydd wedi’u rhoi sydd yn llai na neu’n hafal i 6 bolisïau hwyr wedi’u gosod.
Sylwch:
- Mae gosod polisi Cyflwyniad Hwyr yn effeithio ar bob aseiniad yn y cwrs, gan gynnwys aseiniadau gyda dyddiadau erbyn yn y gorffennol. I eithrio aseiniad penodol, marciwch y cyflwyniad fel rhywbeth gwahanol i Hwyr yn Ardal Manylion y Cwrs.
- Er mwyn cyfrifo Cosb am fod yn Hwyr, bydd diwrnodau yn cael eu talgrynnu i’r rhif cyfan nesaf. Er enghraifft, os bydd myfyriwr yn cyflwyno 1.3 diwrnod yn hwyr, bydd y Gosb am fod yn Hwyr yn ystyried bod y myfyriwr 2 ddiwrnod yn hwyr. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gyfnodau o orau.
- Bydd gosod didyniad i gyflwyniadau hwyr yn effeithio’n awtomatig ar unrhyw gyflwyniadau sydd eisoes wedi’u graddio. Felly, dylai’r polisi Cyflwyniad Hwyr gael ei osod pan mae cwrs yn cael ei greu cyn creu aseiniadau.
- Ni fydd y polisi Cyflwyniad Hwyr yn effeithio ar gyflwyniadau mewn cyfnodau graddio sydd wedi dod i ben neu gyflwyniadau ar gyfer ymrestriadau wedi’u dirwyn i ben.
- Ni fydd y polisi Cyflwyniad Hwyr yn cael ei osod yn awtomatig i aseiniadau Dim Cyflwyniad neu Ar Bapur. Fodd bynnag, gallwch chi newid statws cyflwyniad yn y Llyfr Graddau ac ychwanegu label Hwyr i’r cyflwyniad yn Ardal Manylion y Radd.
- Ni fydd y polisi Cyflwyniad Hwyr yn effeithio ar gyflwyniadau ar gyfer aseiniadau Cyflawn/Anghyflawn.
- Efallai na fydd y polisi Cyflwyniad Hwyr yn gweithio’n iawn pan fydd yn cael ei osod i gwis sydd wedi cael ei greu gan ddefnyddio’r adnodd Cwisiau Clasurol ac wrth ddefnyddio polisi Cyflwyniad Coll. I sicrhau bod y didyniad hwyr yn cael ei gyfrifo’n iawn ar gyfer y cwisiau hyn, rhaid i chi osod dyddiad ac amser Tan sydd ar ôl y dyddiad Erbyn. Os na fyddwch chi’n gosod dyddiad Tan ar gyfer y cwis, gallwch chi osod pwyntiau ystumio’r cais i 0 yn SpeedGrader wrth raddio'r cwis.
- Wrth gwblhau cwis y gallwch roi sawl cynnig arno, bydd didyniadau’n cael eu cymryd oddi ar bob ymgais gan fyfyriwr sy’n rhoi cynnig arall arni ar ôl y dyddiad erbyn, gan gynnwys eu cynigion cyn y dyddiad erbyn.
- Does dim modd delio â’r Polisi Cyflwyniadau Hwyr wrth ddefnyddio mwy nag un cais yn New Quizzes.
Agor Graddau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).
Gweld Polisïau Gwaith Hwyr
Yng Ngosodiadau’r Llyfr Graddau, ewch i’r tab Polisïau Hwyr (Late Policies).
Gosod Polisi Cyflwyniad Hwyr
Cliciwch y blwch ticio Gosod didyniad yn awtomatig i gyflwyniadau hwyr (Automatically apply deduction to late submissions).
Sylwch:
- Bydd dewis y blwch ticio hwn yn gosod yn awtomatig y didyniad rydych chi wedi’i osod ar gyfer unrhyw gyflwyniadau hwyr yn y cwrs sydd eisoes wedi cael eu graddio yn ogystal â’i osod ar unrhyw gyflwyniadau hwyr y byddwch chi’n eu graddio yn y dyfodol.
- Wrth gwblhau cwis clasurol y gallwch roi sawl cynnig arno, bydd didyniadau’n cael eu cymryd oddi ar bob ymgais gan fyfyriwr sy’n rhoi cynnig arall arni ar ôl y dyddiad erbyn, gan gynnwys eu cynigion cyn y dyddiad erbyn.
Gosod Didyniad
I osod y ganran rydych chi eisiau ei didynnu o gyflwyniadau hwyr, gosodwch ganran yn y maes Didyniad Cyflwyniad Hwyr (Late Submission Deduction) [1]. Yna gosodwch y cyfnod yr hoffech chi i Canvas ddidynnu pwyntiau ar ei gyfer yn y gwymplen Cyfnod Didynnu (Deduction Interval) [2]. Yr opsiynau cyfnod sydd ar gael yw Diwrnod neu Awr.
Gosod y Radd Isaf Bosib
I reoli trothwy’r radd isaf bosib ar gyfer y polisi hwyr, rhowch ganran yn y maes Gradd isaf bosib (Lowest possible grade). Y ganran gradd isaf posib yw’r sgôr isaf y gall myfyriwr ei gael pam mae didyniadau polisi hwyr yn cael eu gosod ar raddau sydd wedi’i rhoi uwchben y ganran honno. Ni fydd unrhyw radd sydd wedi’i rhoi sy’n hafal i neu o dan y ganran honno’r derbyn didyniadau polisi hwyr.
Gosod Gosodiadau
Cliciwch y botwm Gosod Gosodiadau (Apply Settings).
Gweld Graddau
Gallwch chi weld y graddau sydd wedi’u heffeithio yn y Llyfr Graddau.
Gweld Ardal Manylion y Radd
Yn Ardal Manylion y Radd, gallwch chi weld manylion am radd y myfyriwr ac addasu’r gosodiadau ar gyflwyniadau unigol pob myfyriwr.
Yn yr adran Gwybodaeth gradd (Grade info) [1], gallwch chi weld neu olygu’r radd y gwnaethoch chi ei rhoi i’r myfyriwr am ei gyflwyniad, faint sy’n cael ei dynnu am gosb am fod yn hwyr, a gradd derfynol y myfyriwr ar gyfer yr aseiniad.
Yn yr adran Statws (Status) [2], gallwch chi weld faint o ddiwrnodau’n hwyr y gwnaeth y myfyriwr gyflwyno’r aseiniad ac addasu nifer y diwrnodau hwyr yn y maes cyfnod. Gallwch chi hefyd newid y cyflwyniad eich hun i statws gwahanol i Hwyr, ond bydd newid y statws yn tynnu unrhyw gosb am fod yn hwyr oedd wedi cael ei rhoi’n awtomatig i gyflwyniad y myfyriwr.
Gweld Rhybudd Polisi Hwyr
Os byddwch chi’n gosod polisi hwyr, ac yna’n addasu unrhyw un o’r paramedrau, bydd Canvas yn dangos rhybudd i roi gwybod i chi y bydd newid y polisi hwyr yn effeithio ar gyflwyniadau sydd eisoes wedi’u graddio I eithrio cyflwyniad o’r gosb am fod yn hwyr bydd angen i chi newid statws y cyflwyniad eich hun i rywbeth gwahanol i hwyr yn Ardal Manylion y Radd.