Sut ydw i’n gweld cynnwys a gweithgarwch myfyriwr mewn grŵp fel addysgwr?
Fel addysgwr, gallwch weld beth sy’n digwydd mewn grwpiau drwy edrych ar bob grŵp defnyddiwr. Gallwch weld gweithgarwch myfyriwr yn y grŵp a gweld cynnwys sydd wedi'i greu gan grŵp. Hefyd, gallwch gael mynediad at grwpiau myfyrwyr i greu cydweithrediadau grŵp ac ychwanegu cynnwys arall sy’n benodol i grŵp os oes angen.
Agor yr adnodd Pobl
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Mynd i Dudalen Hafan y Grŵp
Wrth ymyl enw’r grŵp, cliciwch y ddewislen Opsiynau (Options) [1]. Wedyn, cliciwch y ddolen Mynd i Dudalen Hafan y Grŵp (Visit Group Homepage) [2].
Gweld Tudalen Hafan y Grŵp
Fel yr addysgwr, gallwch weld holl weithgarwch y myfyriwr yn y grŵp drwy glicio unrhyw ddolen yn Newislen Crwydro - Grwpiau (Group Navigation Menu) [1]. Hefyd, gallwch gymryd rhan mewn unrhyw faes cynnwys yn y grŵp, fel creu cydweithrediad ar gyfer y grŵp neu weld trafodaeth grŵp. Ond, gallwch ddal greu cydweithrediadau a thrafodaethau grŵp o’r cwrs. Gall aelodau grŵp greu eu cynnwys eu hunain ar gyfer y grŵp hefyd.
Wrth edrych ar grŵp myfyrwyr, gallwch newid a gweld pob grŵp yn rhwydd o fewn set grwpiau drwy glicio’r ddolen Newid Grŵp (Switch Group) [2]. Hefyd, mae addysgwyr ac arweinwyr grwpiau myfyrwyr yn gallu gweld y ddolen Golygu Grŵp (Edit Group) [3], sy’n caniatáu mynediad cyflym i olygu enw’r grŵp.
I fynd yn ôl i dudalen hafan y cwrs, ewch at ddolen y briwsion bara a chlicio enw’r cwrs [4].
Nodyn: I ehangu neu grebachu'r Ddewislen Crwydro'r Grŵp, cliciwch yr eicon Dewislen (Menu) [5]. Pan fyddwch chi’n dewis ehangu neu grebachu’r ddewislen crwydro'r grŵp, bydd eich dewis yn cael ei osod ar bob grŵp rydych chi’n aelod ohono.