Sut ydw i’n gweld a threfnu atebion mewn trafodaeth fel addysgwr?

Gallwch chi weld yr holl atebion mewn trafodaeth drwy sgrolio neu chwilio cynnwys. Mae atebion i drafodaethau penodol yn cael eu dangos mewn trefn hierarchaidd, mae trafodaethau aml-drywydd yn hierarchaidd, ac mae modd eu crebachu a’u hehangu.

Gallwch chi hefyd chwilio am atebion mewn trafodaeth a chopïo dolen uniongyrchol i ateb mewn trafodaeth.

Os nad yw’r camau yn y wers hon yn cyd-fynd â’r hyn sydd wedi’i ddangos yn eich cwrs, dysgwch sut i weld a threfnu atebion mewn trafodaeth yn y rhyngwyneb Ailddylunio Trafodaethau.

Agor Trafodaethau

Agor Trafodaethau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).

Agor Trafodaeth

Agor Trafodaeth

Cliciwch enw’r drafodaeth.

Gweld Trafodaeth

Gweld Trafodaeth

Mewn trafodaeth, mae gennych chi sawl opsiwn i weld a threfnu trafodaethau. Defnyddiwch y maes chwilio [1] i chwilio am atebion neu awduron penodol. I hidlo yn ôl atebion heb eu darllen, cliciwch y botwm Heb eu Darllen (Unread) [2]. I weld atebion wedi’u dileu, cliciwch y botwm Dangos (Show) [3]. Gallwch chi hefyd grebachu neu ehangu pob ymateb mewn trafodaeth [4].

I danysgrifio i drafodaeth, cliciwch y botwm Tanysgrifio (Subscribe) [5]. Mae tanysgrifio i drafodaeth yn gadael i chi ddilyn y drafodaeth a chael hysbysiadau fel sydd wedi’u gosod yn eich gosodiadau hysbysiadau. Rydych chi’n cael eich tanysgrifio’n awtomatig i unrhyw drafodaethau rydych chi’n ymateb iddynt. Pan fyddwch chi’n creu trafodaeth, byddwch chi hefyd yn cael ei ch tanysgrifio’n awtomatig i’r drafodaeth. Os ydych chi wedi tanysgrifio, bydd gan y botwm gefndir gwyrdd. I ddad-danysgrifio, cliciwch y botwm Tanysgrifio (Subscribe) a bydd y cefndir yn troi’n llwyd.

I olygu pwnc y drafodaeth, cliciwch y botwm Golygu (Edit) [6].

I agor opsiynau ar gyfer y drafodaeth, cliciwch yr eicon Opsiynau [7]. Mae opsiynau’n gadael i chi farcio pob post (atebion) sy’n bodoli’n barod fel wedi’i ddarllen, dileu’r drafodaeth, neu gau’r drafodaeth ar gyfer sylwadau. Os yw eich trafodaeth wedi’i graddio, gallwch chi weld y cyfarwyddyd sgorio ar gyfer y drafodaeth, os oes un , ynghyd â chael gafael ar SpeedGrader i raddio’r drafodaeth.

Gallwch chi weld faint heb eu darllen a faint o atebion sydd mewn edefyn [8]. Mae’r rhif ar y chwith yn nodi nifer yr atebion heb eu darllen, tra bod y rhif ar y dde yn nodi cyfanswm yr atebion.

Nodyn: Mae'r dudalen Trafodaethau yn delio â bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau crwydro hwylus, pwyswch Alt+F8 (ar fysell cyfrifiadur) neu Option+F8 (ar fysell Mac) ar yr un pryd ar eich bysell.

Gweld Trafodaeth Wedi’i Graddio

Gweld Trafodaeth Wedi’i Graddio

Os yw eich trafodaeth yn drafodaeth wedi’i graddio, gallwch weld y drafodaeth yn yr un ffordd â thrafodaethau arferol. Ond, gallwch chi weld faint o bwyntiau mae’r drafodaeth ei gwerth [1], ac os oes yna ddyddiad erbyn [2]. Bydd yr eicon Opsiynau [3] yn dangos y cyfarwyddyd sgorio ar gyfer y drafodaeth wedi’i graddio, os oes un, ynghyd â dolen i’r SpeedGrader.

Gweld Trafodaeth Grŵp

Gweld Trafodaeth Grŵp

Os yw trafodaeth yn drafodaeth grŵp, gallwch chi weld y grŵpiau sy’n gallu cael gafael ar y drafodaeth. I gael gafael ar y drafodaeth grŵp a’i gweld, cliciwch y dolenni grŵp.

Dim ond os ydyn nhw’n aelod o’r grŵp y mae trafodaethau grŵp yn ymddangos i fyfyrwyr.

Gweld Atebion

Gweld Atebion

Mae atebion mewn trafodaeth yn cael ei dangos yn nhrefn y dyddiad postio. Yn yr atebion mewn trafodaeth, mae’r eicon heb ei ddarllen yn nodi bod yr ateb yn newydd a heb ei ddarllen [1]. Mae’r eicon wedi darllen yn nodi bod ateb wedi’i ddarllen [2]. Pan fyddwch chi’n symud i ffwrdd oddi wrth y drafodaeth neu’n adnewyddu’r dudalen, bydd Canvas yn marcio’r atebion fel wedi’u darllen yn awtomatig. Ar ôl i Canvas newid statws yr ateb, gallwch chi farcio trafodaethau fel wedi’u darllen neu heb eu darllen eich hun ar unrhyw adeg.

Gallwch chi hefyd newid eich Gosodiadau Trafodaeth er mwyn i chi allu marcio atebion fel wedi’u darllen eich hun.

Gweld Trafodaeth Aml-drywydd

Gweld Trafodaeth Aml-drywydd

Mae Trafodaethau Aml-drywydd yn drafodaethau gydag atebion o fewn atebion. Yn ogystal â’r dyddiad postio, mae’r atebion yn cael eu dangos mewn trefn hierarchaidd, gyda’r atebion yn cael eu mewnosod i ddangos pan fod myfyriwr yn ymateb i ateb myfyriwr arall.

Wrth weld atebion mewn trafodaeth aml-drywydd, gallwch chi grebachu ac ehangu trafodaethau aml-drywydd unigol drwy hofran dros y blwch gwyn sy’n cynnwys yr ateb cyfan [1]. Pan fydd ateb mewn trafodaeth aml-drywydd wedi’i grebachu, gallwch chi weld y dangosyddion ymateb sy’n dangos cyfanswm yr atebion a’r nifer heb eu darllen [2].

Gweld Trafodaeth wedi’u Hoffi

Gweld Trafodaeth wedi’u Hoffi

Os byddwch chi’n gadael i fyfyrwyr hoffi atebion mewn trafodaeth, bydd eicon Hoffi yn ymddangos wrth ymyl pob ateb yn y drafodaeth. Mae eiconau glas yn nodi atebion rydych chi wedi’u hoffi. Mae cyfanswm yr hoffiadau hefyd yn ymddangos wrth ymyl yr eicon.

Gweld Hysbysiad am Ymrestriad

Gweld Hysbysiad am Ymrestriad

Os yw trafodaeth yn cynnwys ateb gan fyfyriwr anweithredol, bydd label yn ymddangos wrth ymyl enw’r myfyriwr. Bydd trafodaethau wedi’u graddio gan fyfyrwyr anweithredol yn dal yn gallu cael eu graddio yn SpeedGrader, ond fydd myfyrwyr ddim yn cael hysbysiadau am eu haseiniad a does dim modd gweld graddau cwrs.

Chwilio am Ateb

I chwilio am ateb mewn trafodaeth, rhowch unrhyw derm yn y maes Chwilio (Search) [1]. Mae canlyniadau chwilio’n cynnwys enwau defnyddwyr [2] a thestun ymateb [3] sy’n cyfateb.

Gweld Ateb mewn Trafodaeth

Gweld Ateb mewn Trafodaeth

I glirio canlyniadau chwilio a gweld yr ateb fel rhan o’r drafodaeth gyfan, cliciwch y ddolen Gweld mewn trafodaeth (View in discussion) [1].

I gopîo dolen uniongyrchol i ateb mewn trafodaeth cliciwch y ddolen Gweld mewn trafodaeth a dewis yr opsiwn Copïo Cyfeiriad Dolen (Copy Link Address) [2].

Gweld Gosodiadau Ymateb

Gweld Gosodiadau Ymateb

Mae gan bob ateb mewn trafodaeth ei ddewislen opsiynau ei hun.

Mewn atebion gwreiddiol i drafoddaeth, gallwch chi ddychwelyd i brif bwnc y drafodaeth drwy glicio’r ddolen Mynd i Bwnc (Go to Topic) [1].

Mewn trafodaethau aml-drywydd, os ydych chi’n edrych ar ateb mewn ateb, gallwch chi ddychwelyd i’r ateb gwreiddiol drwy glicio’r ddolen Mynd i’r Rhiant (Go to Parent) [2].

I olygu neu ddileu’r ymateb, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) neu Dileu (Delete) [3].

Gweld Gosodiadau Trafodaeth wedi’i Graddio

Gweld Gosodiadau Trafodaeth wedi’i Graddio

Mae trafodaethau wedi’u graddio hefyd yn cynnwys dolen Agor yn SpeedGrader (Open in SpeedGrader) i raddio atebion mewn trafodaeth.

Ymateb i Drafodaeth

Ymateb i Drafodaeth

I ymateb i drafodaeth, anfonwch ateb i brif bwnc y drafodaeth drwy glicio'r maes Ateb [1]. Os yw eich trafodaeth yn aml-drywydd, gallwch chi ymateb i unrhyw bost arall yn y drafodaeth drwy glicio’r ddolen Ateb (Reply) [2].