Sut ydw i’n gweld y wybodaeth am gysoni glasbrint ar gyfer cwrs sy’n gysylltiedig â chwrs glasbrint?

Os oes eiconau Glasbrint ar eich tudalennau mynegai cynnwys, yna mae eich cwrs yn gysylltiedig â chwrs glasbrint. Mae Cyrsiau Glasbrint yn gyrsiau sy’n cael eu rheoli fel templed, a gall newidiadau i wrthrychau sydd wedi’u cloi gael eu cysoni o'r cwrs glasbrint i'ch cwrs ar unrhyw adeg. Ond, gallwch reoli unrhyw gynnwys cwrs sydd wedi’i ddatgloi yn eich cwrs.

Gallwch weld yr wybodaeth ddiweddaraf am gysoniad glasbrint yng Ngosodiadau’r Cwrs. Mae'r wybodaeth glasbrint yn cynnwys manylion am y cynnwys neu unrhyw briodoleddau eraill sydd wedi cael eu newid yn eich cwrs.

Note: I gael gwybod am ddiweddariadau sydd wedi’u cysoni o gwrs glasbrint, mae angen i chi alluogi'r hysbysiad cysoni Glasbrint yng Ngosodiadau'r Defnyddiwr.

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Agor Gwybodaeth Glasbrint

Agor Gwybodaeth Glasbrint

Yn y bar ochr, cliciwch y ddolen Gwybodaeth Glasbrint (Blueprint Information).

Gweld Gwybodaeth Cysoni

Mae’r dudalen Gwybodaeth Glasbrint yn dangos gwybodaeth o'r cysoniad glasbrint diwethaf. Mae'r dudalen yn dangos enw ac ID cwrs y cwrs glasbrint [1] ac enw ac ID cwrs eich cwrs cysylltiedig [2].

Gallwch hefyd weld dyddiad ac amser y broses cysoni [3] a nifer y newidiadau [4].

Os oedd neges wedi’i chynnwys fel rhan o’r hysbysiad, caiff y neges ei dangos uwchben y rhestr o’r newidiadau sydd wedi’u cysoni.

Pan fydd gweinyddwr wedi cysylltu â chwrs, bydd yr wybodaeth cysoni hefyd yn dangos dyddiad ac amser y broses cysoni ond ni fydd yn cynnwys manylion sy'n ymwneud â’r broses cysoni.

Gweld Manylion Cysoni

Gweld Gwybodaeth Glasbrint

Mae’r dudalen Gwybodaeth Glasbrint yn dangos y cynnwys penodol sydd wedi’i gysoni. Mae pob gwrthrych cynnwys yn dangos statws cysoni’r gwrthrych (wedi’i gloi neu wedi’i ddatgloi) ac enw'r gwrthrych [1], y math o wrthrych [2], y newid a roddwyd ar waith [3], ac a gafodd y broses cysoni ei rhoi ar waith ai peidio [4].

Mae newidiadau i gynnwys yn gallu cael eu creu, eu diweddaru neu eu dileu. Mae newidiadau wedi’u diweddaru’n dangos unrhyw newid i gynnwys presennol.

Cau Gwybodaeth Glasbrint

Cau Gwybodaeth Glasbrint

Ar ôl i chi orffen â'r dudalen Gwybodaeth Glasbrint, cliciwch y botwm Wedi Cwblhau (Done).