Sut ydw i’n newid y dewis iaith yn fy nghyfrif defnyddiwr fel addysgwr?
						
					
					
				
			
		
	
		
	
	
	
	
	
	
	
	
			
					
				
		
	
Saesneg yw iaith ddiofyn Canvas, ond gallwch ddewis gweld rhyngwyneb Canvas mewn iaith arall.
Nodiadau:
- Gallwch newid yr iaith o’ch dewis ar gyfer eich cyrsiau. Os oes iaith wahanol wedi'i gosod ar gyfer un o’ch cyrsiau (cyrsiau ieithoedd tramor gan amlaf), bydd iaith y cwrs yn disodli'r iaith yn eich gosodiadau defnyddiwr.
- Os byddwch chi’n newid eich dewisiadau iaith neu leoliad, mae’n bosib y bydd dyddiad dechrau wythnos y Calendr yn newid hefyd. Mae rhai ieithoedd neu leoliadau yn newid dyddiad dechrau wythnos y Calendr i ddydd Llun.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr
 
  Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Golygu Gosodiadau
 
  Cliciwch y botwm Golygu Gosodiadau (Edit Settings).
Dewis Iaith
 
  Yn y gwymplen Iaith (Language), dewiswch yr iaith o’ch dewis.
Diweddaru Gosodiadau
 
  Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).
 
      