Sut ydw i’n creu e-Bortffolio newydd fel addysgwr?

Gallwch greu e-Bortffolio newydd yn eich gosodiadau defnyddiwr. Rhaid i chi fod wedi ymrestru am gwrs i greu e-Bortffolio.

Nodiadau:

  • Os nad ydych yn gallu gweld y ddolen e-Bortffolio yn eich Cyfrif Defnyddiwr, mae eich sefydliad wedi analluogi'r nodwedd hon.
  • Os ydych chi'n defnyddio cyfrif Am-Ddim-i-Athrawon, does dim modd i chi gyhoeddi cwrs nes eich bod chi wedi cadarnhau eich cyfeiriad e-bost.
  • Os nad ydych chi’n gweld y botwm Creu e-Bortffolio, efallai fod gennych chi e-Bortffolio sydd wedi cael ei farcio fel sbam. Cysylltwch â'ch gweinyddwr Canvas am ragor o gymorth.
  • Mae’r wers hon yn dangos sut i ddefnyddio Canvas ePortfolios yn eich cyfrif defnyddiwr. Os ydy’r ePortfolios yn eich cyfrif defnyddiwr yn edrych yn wahanol i’r lluniau yn y wers hon, dysgwch sut i ddefnyddio Canvas Student ePortfolios.

Agor e-Bortffolios

Agor e-Bortffolios

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen e-Bortffolios (ePortfolios) [2].

Creu e-Bortffolio

Creu e-Bortffolio

Cliciwch y botwm Creu e-Bortffolio (Create an ePortfolio).

Nodiadau:

  • Rhaid i chi fod wedi ymrestru am gwrs i greu e-Bortffolio newydd.
  • Os nad yw’r botwm Creu e-Bortffolio i’w weld, efallai fod gennych chi e-Bortffolio sydd wedi cael ei farcio fel sbam. Cysylltwch â'ch gweinyddwr Canvas am ragor o gymorth.

Creu e-Bortffolio

Creu e-Bortffolio

Rhowch enw i'ch e-Bortffolio drwy deipio yn y maes Enw e-Bortffolio (ePortfolio Name) [1]. Penderfynwch os bydd eich e-Bortffolio yn gyhoeddus [2] (gallwch newid y gosodiad hwn rywbryd eto) ac yna cliciwch y botwm Gwneud e-Bortffolio (Make ePortfolio) [3].

Gweld e-Bortffolio

Gweld e-Bortffolio

Ar ôl creu'r e-Bortffolio, mae sawl opsiwn ar gyfer creu cynnwys ar gyfer eich portffolio, gan gynnwys dewin fydd yn eich arwain drwy eich portffolio, gam wrth gam.

Gweld Neges Rhybudd

Gweld Neges Rhybudd

Os ydy eich e-Bortffolio wedi cael ei farcio fel sbam, bydd neges rhybudd yn ymddangos yn eich e-Bortffolio. Ni fyddwch chi'n gallu golygu eich e-Bortffolio nes bod gweinyddwr Canvas yn marcio'r e-Bortffolio'n Ddiogel. Yn ogystal, ni fyddwch chi'n gallu creu unrhyw e-Bortffolios newydd nes bod gweinyddwr Canvas yn marcio'r e-Bortffolio'n ddiogel.

Golygu e-Bortffolio

Golygu e-Bortffolio

I olygu gosodiadau eich e-Bortffolio, cliciwch y ddolen Gosodiadau e-Bortffolio (ePortfolio Settings).

Diweddaru e-Bortffolio

Diweddaru e-Bortffolio

Golygwch yr opsiwn enw neu amlygrwydd e-Bortffolio yng Ngosodiadau'r e-Bortffolio [1]. Cliciwch y botwm Diweddaru e-Bortffolio (Update ePortfolio) [2].