Sut ydw i’n personoli fy rhestr Cyrsiau fel addysgwr?

Pan fyddwch chi wedi ymrestru ar gyfer mwy nag un cwrs Canvas, gallwch addasu’r cyrsiau gweithredol rydych chi am eu dangos yn y rhestr Cyrsiau. Hoff gyrsiau yw'r term a roddir ar y cyrsiau rydych chi eisiau eu dangos yn y gwymplen Cyrsiau. Gall unrhyw gwrs gweithredol sy'n ymddangos ar y dudalen rhestr o gyrsiau gael ei osod fel hoff gwrs. Mae hoff gyrsiau hefyd yn ymddangos ar y Dangosfwrdd Gwedd Cerdyn.

Pan nad oes cwrs wedi’i nodi’n ffefryn, bydd y rhestr o gyrsiau yn dangos hyd at 20 o gyrsiau yn awtomatig yn nhrefn yr wyddor yn y gwymplen. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddewis o leiaf un cwrs fel ffefryn, dim ond eich hoff gyrsiau fydd yn ymddangos ar y rhestr Cyrsiau.

Sylwch: Caiff cyrsiau eu rhestru yn nhrefn yr wyddor bob amser; ni allwch newid trefn eich cyrsiau.

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch y ddolen Pob Cwrs (All Courses) [2].

Rheoli Cyrsiau

I nodi cwrs fel ffefryn, cliciwch y seren wrth enw’r cwrs [1]. Mae cyrsiau sydd â sêr wedi’u llenwi yn dangos bod y cwrs yn ffefryn [2].

Yn y Dangosfwrdd, bydd unrhyw gyrsiau lle mae gennych chi rôl addysgwr yn cael eu rhestru gyntaf, wedyn rhai lle mae gennych chi rôl Cynorthwyydd Dysgu ac unrhyw fath personol arall o rôl addysgwr. Y cyrsiau lle mae gennych chi rôl myfyriwr fydd yn cael eu rhestru olaf.

Sylwch: Pan fyddwch chi'n hoffi o leiaf un cwrs, dim ond y cyrsiau wedi’u hoffi y bydd y Dangosfwrdd yn eu dangos. Hefyd, bydd Canvas yn parhau i hoffi ymrestriadau newydd i'r cwrs yn awtomatig.

Gweld Cyrsiau sydd heb eu Cyhoeddi

Gellir dod o hyd i gyrsiau heb eu cyhoeddi drwy eu cefndir llwyd [1] a’r golofn Wedi Cyhoeddi [2]. Gall cyrsiau sydd heb eu cyhoeddi gael eu gwneud yn ffefrynnau.

Gweld Ymrestriadau Blaenorol

Yn ddibynnol ar ffurfweddiad cyrsiau, efallai y byddwch yn dal yn gallu gweld cyrsiau sydd wedi dirwyn i ben o dan y pennawd Ymrestriadau Blaenorol. Fodd bynnag, dydy cyrsiau ddim yn cael eu tynnu o’r ffefrynnau yn awtomatig pan mae cwrs yn dirwyn i ben. Os yw cwrs blaenorol yn dal yn ymddangos fel ffefryn, gallwch chi dynnu’r cwrs o’ch ffefrynnau drwy glicio’r eicon seren [2].