Sut ydw i’n creu tudalen newydd mewn cwrs?

Fel addysgwr, gallwch greu tudalen newydd i'w hychwanegu at eich cwrs.

Wrth greu tudalennau, gallwch osod hawliau tudalen ynglŷn â phwy sy’n cael golygu’r dudalen: addysgwyr (athrawon), addysgwyr a myfyrwyr, neu unrhyw un. Hefyd, gallwch ychwanegu tudalen at restrau Tasgau i'w Gwneud myfyrwyr.

Agor Tudalennau

Agor Tudalennau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).

Gweld Tudalennau

Mae’r adran Tudalennau (Pages) wedi’i dylunio i agor i dudalen flaen y cwrs, os oes tudalen flaen wedi cael ei dewis. I ddewis tudalen o’r mynegai Tudalennau (Pages), cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).

Ychwanegu Tudalen

Ychwanegu Tudalen

Cliciwch y botwm Ychwanegu Tudalen (Add Page).

Ychwanegu Cynnwys

Rhowch enw i’ch tudalen [1].

Ychwanegu dolenni, ffeiliau, delweddau a chynnwys arall yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2]. Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun.

Golygu Gosodiadau Tudalen

Gallwch benderfynu pwy sy'n cael golygu’r dudalen drwy glicio’r gwymplen Defnyddwyr sy’n cael golygu’r dudalen hon (Users allowed to edit this page) [1]. Mae’r opsiynau yn cynnwys dim ond athrawon, athrawon a myfyrwyr, neu unrhyw un. Dydy’r opsiwn Unrhyw un ddim ond yn berthnasol i ddefnyddwyr sydd wedi ymrestru ar y cwrs.

Gallwch chi ychwanegu'r dudalen at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud trwy glicio’r blwch Ychwanegu at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud (Add to student to-do) [2]. Pan fyddwch chi'n ychwanegu tudalen at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud, mae'r tasgau i'w gwneud i'w gweld yn rhestr tasgau i'w gwneud y myfyriwr ynghyd ag yng nghalendr y cwrs ac yn Rhestr tasgau i’w gwneud bar ochr cwrs y myfyriwr.

Gallwch chi drefnu pryd y bydd tudalen yn cael ei chyhoeddi. Rhowch ddyddiad ac amser yn y maes Cyhoeddi Am (Publish At) [3]. Rhaid i’ch tudalen fod heb ei chyhoeddi i drefnu dyddiad cyhoeddi.

Hefyd, gallwch roi gwybod i ddefnyddwyr bod cynnwys wedi newid drwy glicio’r blwch ticio Rhoi gwybod i ddefnyddwyr bod y cynnwys hwn wedi newid (Notify users that this content has changed) [4].

Nodwch: Os yw hysbysiad Cynnwys Cwrs defnyddiwr wedi’i ddiffodd nid ydynt yn cael gwybod am ddiweddariadau i’r dudalen.  

Cadw a Chyhoeddi

Cadw a Chyhoeddi

Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich tudalen, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish) [1]. Os ydych chi am greu drafft o’ch tudalen, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Nodwch: Os byddwch chi’n ceisio gadael tudalen heb ei chadw, byddwch yn cynhyrchu rhybudd naid.

Botwm Cyhoeddi

Pan fydd eich tudalen yn cael ei chadw ar ffurf drafft, gallwch fynd yn ôl i’r dudalen a'i chyhoeddi ar unrhyw adeg drwy glicio’r botwm Cyhoeddi (Publish) [1]. Bydd y botwm yn newid o lwyd i wyrdd [2]

Gweld Cyhoeddiad Tudalen wedi’i Drefnu

Gweld Cyhoeddiad Tudalen wedi’i Drefnu

Pan fydd eich tudalen yn cael ei chadw i gael ei chyhoeddi ar amserlen, gallwch fynd yn ôl i’r dudalen a rheoli ei chyhoeddi ar unrhyw adeg drwy glicio’r botwm Cyhoeddi ar...(Will publish on...) [1].

Gallwch chi ddewis rhwng cyhoeddi’r dudalen, dadgyhoeddi’r dudalen, neu drefnu i’r dudalen gael ei chyhoeddi ac yna clicio’r botwm Iawn (OK) [2].

Gweld Tudalen

Gweld Tudalen

Gweld y dudalen rydych chi wedi'i chreu.