Sut ydw i’n gweld yr hanes cysoni ar gyfer cwrs glasbrint fel addysgwr?

Os ydych chi wedi ymrestru ar gwrs glasbrint fel addysgwr, gallwch chi gysoni newidiadau i gynnwys glasbrint â chyrsiau cysylltiedig. Ar ôl cysoni cwrs glasbrint â chyrsiau cysylltiedig, caiff y broses cysoni ei chofnodi ar y dudalen Hanes Cysoni. Gallwch edrych ar Hanes Cysoni (Sync History) i weld prosesau cysoni blaenorol a manylion amdanynt.

Mae’r dudalen Hanes Cysoni yn cofnodi pum tro diwethaf y cysonwyd â’r cwrs glasbrint.

Nodiadau:

  • Mae cyrsiau cysylltiedig yn dangos gwybodaeth am y broses cysoni glasbrint ddiweddaraf yng Ngosodiadau'r Cwrs.
  • Os nad yw’r hanes cysoni yn dangos dim manylion cysoni, roedd y cwrs glasbrint yn cael ei gysoni â chwrs cysylltiedig gan weinyddwr. Mae'r hanes cysoni ar gyfer prosesau cysoni cysylltiedig yn dangos dyddiad ac amser y broses cysoni ond nid oes rhagor o fanylion yn cael eu cynnwys.

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Agor Hanes Cysoni

Ar Dudalen Hafan y Cwrs, cliciwch dab bar ochr y Glasbrint (Blueprint) [1], yna cliciwch y ddolen Hanes Cysoni (Sync History) [2].

Note: Gallwch weld bar ochr y Glasbrint o unrhyw dudalen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Gweld Hanes Cysoni

Mae’r dudalen Hanes Cysoni (Sync History) yn dangos gwybodaeth am y pum tro diwethaf y cysonwyd â'r cwrs glasbrint. Mae’r dudalen yn dangos dyddiad ac amser y cysoni [1], nifer y newidiadau [2], ac enw’r defnyddiwr a gysonodd y newidiadau [3].

Os oedd neges wedi’i chynnwys fel rhan o’r hysbysiad, caiff y neges ei dangos uwchben y rhestr o’r newidiadau sydd wedi’u cysoni [4].

Pan fydd gweinyddwr wedi cysylltu â chwrs, bydd yr hanes cysoni’n dangos dyddiad ac amser y broses cysoni ond ni fydd yn cynnwys manylion sy'n ymwneud â’r broses cysoni.

Gweld Manylion Cysoni

Mae’r dudalen Hanes Cysoni (Sync History) yn dangos y cynnwys penodol sydd wedi’i gysoni. Mae pob gwrthrych cynnwys yn dangos statws cysoni’r gwrthrych (wedi’i gloi neu wedi’i ddatgloi) [1], enw eitem y cynnwys [2], y math o wrthrych yn y cynnwys [3], newid y cynnwys [4] ac a gafodd y broses cysoni ei rhoi ar waith ai peidio [5].

Mae newidiadau i gynnwys yn gallu cael eu creu, eu diweddaru neu eu dileu. Mae newidiadau wedi’u diweddaru’n dangos unrhyw newid i gynnwys presennol.

Gweld Eithriadau Cysoni

Gall y dudalen Hanes Cysoni (Sync History) ddangos eitemau sydd ag eithriad o ran cysoni. Mae eithriadau’n codi pan na fydd cynnwys yn cael ei gysoni oherwydd bod y cynnwys wedi’i addasu mewn cwrs cysylltiedig cyn i’r cwrs glasbrint gael ei gysoni.

Caiff eithriadau eu nodi yn y dangosydd Eithriadau (Exception) [1], sy'n cynnwys y nifer o eithriadau.

I weld pa gwrs/gyrsiau oedd ag eithriad, cliciwch yr eicon saeth wrth enw eitem y cynnwys [2]. Mae’r manylion sydd wedi’u hehangu yn dangos tymor ac enw'r cwrs.

Cau Hanes Cysoni

Cau Hanes Cysoni

Ar ôl i chi orffen edrych ar y dudalen Hanes Cysoni (Sync History), cliciwch y botwm Gorffen (Done).