Sut ydw i’n gweld dadansoddiadau ar gyfer myfyriwr ar gwrs?
Mae dadansoddiadau myfyrwyr yn dangos i chi sut hwyl mae myfyriwr penodol yn ei gael ar eich cwrs. Gallwch hefyd weld dadansoddiadau myfyrwyr ar ôl i’ch cwrs ddod i ben.
Efallai y bydd eich sefydliad yn gadael i fyfyrwyr weld eu dadansoddiadau eu hunain o’r cwrs, sy’n helpu i ddangos gwybodaeth gywir iddyn nhw am eu gweithgarwch ar y cwrs a’r ffordd maen nhw’n rhyngweithio â’r cwrs. Os yw’r hawl hon wedi’i galluogi, byddwch chi a'r myfyriwr yn gweld yr un wybodaeth am eu dadansoddiadau.
Nodiadau:
- Bydd y nodweddion Dadansoddi sydd i’w gweld yn y wers hon yn cael eu tynnu yn y dyfodol a byddant yn cael eu disodli gan Ddadansoddiadau Newydd. Gweld rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Dulliau Dadansoddi Newydd.
- Mae gweld dadansoddiadau yn un o hawliau cwrs. Os na allwch chi weld dadansoddiadau, mae’ch sefydliad wedi rhwystro’r nodwedd hon.
- Mae modd cael mynediad at yr adran Dadansoddi drwy’r dudalen Pobl hefyd, a gweld tudalen manylion defnyddiwr y myfyriwr.
Agor Cwrs
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].
Agor Dadansoddiadau Cwrs
Cliciwch y botwm Gweld Dadansoddiadau Cwrs (View Course Analytics).
Agor Dadansoddiadau Myfyrwyr
Yn y tabl Dadansoddiadau Myfyrwyr, cliciwch enw’r myfyriwr.
I ddod o hyd i fyfyriwr, gallwch drefnu’r tabl yn ôl enw myfyriwr, tudalennau a welwyd, achosion o gymryd rhan a sgôr bresennol. Mae’r tabl dadansoddiadau wedi’i dudalennu, felly gallwch weld mwy o fyfyrwyr wrth sgrolio ar hyd y dudalen.
Gweld Gwybodaeth Myfyriwr
Wrth edrych ar ddadansoddiadau ar gyfer myfyriwr unigol, gallwch weld enw’r myfyriwr a’i ganran bresennol ar y cwrs [1]. I anfon neges yn uniongyrchol at y myfyriwr, cliciwch yr eicon post [2].
I weld dadansoddiadau ar gyfer myfyriwr gwahanol, cliciwch y botymau blaenorol neu nesaf yn y ddewislen defnyddiwr [3], neu chwiliwch am y myfyriwr yn y gwymplen [4].
Gweld Graffiau Dadansoddiadau
Yn ddiofyn, bydd dadansoddiadau yn ymddangos mewn fformat graff. Mae pedwar math o graff: Gweithgarwch yn ôl Dyddiad, Cyfathrebu, Cyflwyniadau a Graddau.
Gweld Gweithgarwch yn ôl Dyddiad
Mae’r graff Gweithgarwch yn ôl Dyddiad yn dangos holl weithgarwch y myfyriwr ar y cwrs. Mae echelin x yn cynrychioli dyddiadau’r cwrs, ac echelin y yn cynrychioli nifer y tudalennau a welwyd. Mae barrau glas tywyll yn cynrychioli’r achosion o gymryd rhan yn y cwrs. Os yw dyddiad ond yn dangos y tudalennau a welwyd, dim ond bar glas golau fydd yn ymddangos.
Bydd y graff yn newid y bar sy’n ymddangos yn unol ag amser. Os yw gweithgarwch wedi digwydd o fewn y chwe mis diwethaf, barrau gweithgarwch dyddiol fydd yn ymddangos. Gyda gweithgarwch sydd dros chwe mis yn ôl, barrau gweithgarwch wythnosol fydd yn ymddangos, a barrau gweithgarwch misol fydd yn ymddangos ar gyfer gweithgarwch tua blwyddyn yn ôl. I weld manylion y graff bar, dylech hofran dros y bar penodol rydych chi am ei weld. Mae’r wedd wythnosol yn dangos dyddiad cyntaf ac olaf yr wythnos; mae’r wedd fisol yn dangos y mis a’r flwyddyn. Gall maint ffenestr y porwr, lefel nesáu a phellhau, a chydraniad y sgrin newid sut mae'r barrau'n ymddangos.
Bydd y gweithredoedd canlynol gan ddefnyddiwr yn achos o gymryd rhan ar gyfer dadansoddiadau cwrs:
- llwytho cydweithrediad i weld/golygu'r ddogfen
- ymuno â gwe-gynhadledd
- postio sylw newydd ar drafodaeth neu gyhoeddiad
- cyflwyno cwis
- dechrau gwneud cwis
- cyflwyno aseiniad
- creu tudalen wiki
Gallwch hefyd weld data penodol am gymryd rhan yn yr adroddiad mynediad ar gyfer cwrs.
Gweld Gwybodaeth am Gyfathrebu
Mae’r graff Cyfathrebu (Communication) yn dangos y sgyrsiau rhwng y myfyriwr a'r addysgwr neu’r addysgwyr ym Mlwch Derbyn Canvas. Mae echelin y yn cynrychioli’r math o ddefnyddiwr; bydd eiconau neges oren yn ymddangos pan fydd myfyriwr wedi anfon neges at addysgwr, ac eiconau neges glas yn ymddangos pan fydd addysgwr wedi anfon neges at y myfyriwr. Mae echelin x yn cynrychioli dyddiad y rhyngweithio.
I weld manylion y graff bar, dylech hofran dros y bar penodol rydych chi am ei weld. Gallwch weld y dyddiad cyfathrebu a faint o negeseuon a anfonwyd. Mae neges yn golygu neges unigol rhwng un defnyddiwr a defnyddiwr arall; mewn edefyn o negeseuon, mae pob neges unigol yn cael ei chyfrif. Mewn sgyrsiau grŵp, mae achosion o ryngweithio’n cael eu cyfrif ar yr amod bod y myfyriwr yn un o’r rhai sydd wedi derbyn y negeseuon. Dydy hysbysiadau ddim yn cael eu cynnwys mewn dadansoddiadau, oni bai fod y defnyddiwr yn gweithredu ar yr hysbysiad ac yn creu neges newydd sy’n cael ei hanfon drwy Flwch Derbyn Canvas. Dydy cyhoeddiadau ddim yn cael eu cynnwys mewn dadansoddiadau cyfathrebu.
Gallwch hefyd weld data penodol am gyfathrebu yn yr adroddiad rhyngweithio â myfyrwyr.
Gweld Cyflwyniadau
Mae’r graff Cyflwyniadau (Submissions) yn dangos statws pob cyflwyniad ar gyfer y myfyriwr. Mae echelin y yn cynrychioli pob aseiniad, ac echelin x yn cynrychioli dyddiad y cyflwyniad. Mae cylch gwyrdd yn dangos bod aseiniad wedi cael ei gyflwyno’n brydlon. Mae triongl melyn yn dangos bod aseiniad wedi cael ei gyflwyno’n hwyr. Mae sgwâr coch yn dangos bod aseiniad ar goll (heb gael ei gyflwyno). Mae cylch gwyn ag amlinell ddu yn dangos bod gan aseiniad ddyddiad erbyn sydd yn y dyfodol.
Os yw cyflwyniad yn cynnwys dyddiad erbyn, gall y cyflwyniad gynnwys llinell lorweddol. Mae’r llinell yn dangos pryd cafodd yr aseiniad ei gyflwyno, a’r siâp yn dangos yr union ddyddiad erbyn. Os cafodd y gwaith ei gyflwyno cyn y dyddiad erbyn, mae’r llinell lorweddol yn wyrdd; os cafodd ei gyflwyno ar ôl y dyddiad erbyn, mae’r llinell lorweddol yn felyn. Os nad oes gan gyflwyniad linell lorweddol, mae hynny naill ai’n golygu nad oedd ganddo ddyddiad erbyn, neu fod yr aseiniad wedi’i gyflwyno ar y dyddiad erbyn.
I weld manylion y graff bar, dylech hofran dros y bar penodol rydych chi am ei weld. Mae aseiniadau presennol a blaenorol yn cynnwys teitl yr aseiniad, y dyddiad erbyn (os oes un), dyddiad y cyflwyniad a'r sgôr. Mae aseiniadau yn y dyfodol yn cynnwys teitl yr aseiniad, y dyddiad erbyn (os oes un) a'r sgôr.
Nodyn: Dydy’r siart Cyflwyniadau (Submissions) ddim yn cynnwys gwybodaeth am aseiniadau nad oes angen eu cyflwyno yn Canvas (e.e. ddim yn cael eu graddio, aseiniadau ar bapur), aseiniadau wedi’u hesgusodi, nac aseiniadau sydd ddim yn berthnasol i fyfyriwr oherwydd aseiniadau wedi’u gwahaniaethu.
Gweld Graddau
Mae’r graff Graddau (Grades) yn dangos y sgorau cymedrig, uchel ac isel ar gyfer pob aseiniad. Mae echelin x yn cynrychioli pob aseiniad, ac echelin y yn cynrychioli nifer y pwyntiau ar gyfer aseiniad. Mae’r llinell ddu fertigol yn ymestyn o’r sgôr uchaf i’r sgôr isaf [1]. Mae’r blwch llwyd yn ymestyn o’r ganradd 75 i ganradd 25 [2]. Mae’r llinell ddu lorweddol yn dangos y sgôr gymedrig ar gyfer yr aseiniad [3].
Mae sgôr y myfyriwr yn cael ei dynodi gan yr un siapiau â’r rheini sy’n ymddangos yn y graff Cyflwyniadau (Submissions). Mae cylch gwyrdd yn dynodi aseiniad â sgôr dda. Mae sgôr da yn gyfartal a, neu'n uwch na'r sgôr gymedrig. Mae triongl melyn yn dynodi aseiniad â sgôr gymedrol. Mae sgôr deg yn is na'r cymedr ond o fewn canradd 75 i ganradd 25. Mae sgwâr coch yn dynodi aseiniad â sgôr wael. Mae sgôr wael yn is na chanradd 25.
I weld enwau a manylion aseiniadau, dylech hofran eich cyrchwr dros y graff [4].
Gweld Tablau Dadansoddiadau
I weld dadansoddiadau heb hofran dros golofnau graffiau, gallwch weld yr holl ddata mewn fformat tabl. I newid i’r fformat tabl, cliciwch yr eicon Dadansoddi. Bydd yr eicon yn symud o’r ochr chwith i’r ochr dde, gan ddangos y wedd dadansoddi bresennol.
Gweld Data Tabl
Bydd tablau ar gyfer pob graff ar y dudalen berthnasol, a bydd pob colofn yn diffinio’r data yn y graff perthnasol. Mae data’r graff yn cael ei ddangos fesul colofn.
Ym mhob tabl, bydd 30 cofnod yn ymddangos ar bob tudalen. Mae modd gweld tudalennau ychwanegol drwy symud ymlaen i’r dudalen nesaf.