Sut ydw i’n newid tudalen Hafan y Cwrs?

Gallwch chi newid tudalen Hafan eich Cwrs i adlewyrchu un o bum opsiwn cynllun: Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar, Tudalen Flaen ar gyfer Tudalennau, Modiwlau’r Cwrs, y Rhestr Aseiniadau, neu'r Maes Llafur.

Nodwch: Rhaid i chi osod Tudalen Flaen cyn dewis yr opsiwn Tudalen Flaen ar gyfer Tudalennau. Ar ben hynny, dim ond tudalennau Wedi'u cyhoeddi gellir eu gosod yn Dudalen Flaen.

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Dewis tudalen Hafan

Dewis tudalen Hafan

Ym mar ochr y dudalen Hafan, cliciwch y botwm Dewis tudalen Hafan (Choose Home Page).

Dewis Cynllun y Dudalen Hafan

Dewis Cynllun y Dudalen Hafan

Cliciwch y botwm radio sydd wrth ymyl cynllun y dudalen Hafan sydd orau gennych chi.

Gosod Tudalen Flaen

Gosod Tudalen Flaen

Os ydych chi am newid Tudalen Flaen ar gyfer Tudalennau ond bod y ddolen yn lliw llwyd, rhaid i chi osod Tudalen Flaen i ddechrau.

Nodwch: Dim ond tudalennau Wedi'u cyhoeddi gellir eu gosod yn Dudalen Flaen. Gwnewch yn siŵr bod y dudalen rydych chi am ei gosod yn Dudalen Flaen wedi cael ei chyhoeddi.

Cadw Cynllun y Dudalen Hafan

Cadw Cynllun y Dudalen Hafan

Cliciwch y botwm Cadw (Save).