Sut ydw i’n cael mynediad i amgylchedd beta Canvas fel addysgwr?

Mae’r amgylchedd beta yn caniatáu i chi edrych ar nodweddion newydd cyn iddynt gael eu cynhyrchu. Caiff yr amgylchedd beta ei ddiystyru gan ddata o’r amgylchedd cynhyrchu bob dydd Sadwrn. Bydd unrhyw waith neu gynnwys y byddwch chi’n ei ychwanegu at eich amgylchedd beta yn cael ei ddiystyru bob wythnos.

Os ydych chi am gael y nodweddion beta diweddaraf yn Canvas, ewch i’r dudalen Nodiadau Rhyddhau yn yr adnodd Cymuned Canvas.

Mae’r amgylchedd beta ar wahân i’r amgylchedd prawf, sy’n cael ei ddisodli gan ddata o’r amgylchedd cynhyrchu bob trydydd dydd Sadwrn o’r mis. Mae’r amgylchedd prawf yn gadael i chi brofi gan ddefnyddio eich data go iawn heb ddifetha’r profiad ar gyfer eich defnyddwyr. Rhagor o wybodaeth am amgylcheddau gwahanol Canvas.  

Nodiadau am yr Amgylchedd Beta:

  • Gall yr holl ddefnyddwyr fynd i amgylchedd beta Canvas, ond ni all myfyrwyr weld cynnwys cwrs y tu hwnt i Dangosfwrdd; os ydych chi am ganiatáu i fyfyrwyr weld holl gynnwys y cwrs, cysylltwch â’ch Gweinyddwr lleol.
  • Nid oes modd anfon hysbysiadau yn yr amgylchedd beta, gan gynnwys gwahoddiadau i gwrs ac adroddiadau sy’n cael eu llwytho i lawr.
  • Mae modd defnyddio DocViewer Canvas yn yr amgylchedd beta, ond ni fydd nodweddion newydd a diweddaraf DocViewer ar gael i'w defnyddio.
  • Mae modd defnyddio Canvas Commons yn yr amgylchedd beta, ond ni fydd nodweddion newydd a diweddaraf Commons ar gael i'w defnyddio.
  • Mae modd defnyddio New Quizzes yn yr amgylchedd beta, ond ar hyn o bryd nid yw'n gallu delio ag adroddiadau, ystadegau, chwilio banc eitemau, a thagio banc eitemau.
  • Rhaid i unrhyw newidiadau rydych chi am eu cadw yn yr amgylchedd beta gael eu gwneud yn uniongyrchol yn yr amgylchedd cynhyrchu cyn i beta cael ei ailosod.
  • Nid yw Adnoddau LTI (Apiau Allanol) ar gael y tu allan i’r amgylchedd cynhyrchu fel rheol. Gall adnoddau LTI ymddangos yn yr amgylchedd beta, ond yn aml maent wedi eu ffurfweddu ar gyfer yr amgylchedd cynhyrchu yn unig. Bydd defnyddio adnoddau LTI sydd wedi eu ffurfweddu ar gyfer cynhyrchu yn yr amgylchedd beta yn effeithio ar ddata byw. Os oes gennych chi hawl i olygu adnoddau LTI, gallwch gadarnhau ffurfweddu adnodd LTI penodol ar gyfer eich cwrs neu eich cyfrif. Cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid ar gyfer cwestiynau penodol.
  • NI chaiff gosodiadau opsiwn nodwedd eu copïo o’r amgylchedd cynhyrchu. Rhaid i opsiynau nodweddion gael eu rheoli'n unigol yn yr amgylchedd beta.
  • Nid oes modd gweld hanes eich ymweliadau â thudalenau cwrs Canvas yn ddiweddar yn amgylchedd beta Canvas.

Mynediad i Amgylchedd Beta

Mynediad i Amgylchedd Beta

I fewngofnodi i’ch amgylchedd beta, teipiwch [enw’r sefydliad (organization name)].beta.instructure.com i’r maes URL.

Gweld Neges Rhaglen i Brofi

Bydd defnyddwyr yn yr amgylchedd beta yn gweld bar y Rhaglen i Brofi ar draws gwaelod y sgrin a fydd yn nodi bod y defnyddiwr mewn Rhaglen i Brofi Canvas. Mae amgylcheddau Beta yn ailosod bob dydd Sul a bydd unrhyw gynnwys sydd wedi ei greu yn yr amgylchedd hwn yn cael ei ddileu. Os ydych chi am gadw unrhyw gynnwys cwrs sydd wedi’i greu yn eich amgylchedd beta, gallwch allgludo eich cwrs.

Nodyn: I guddio bar y Rhaglen i Brofi, cliciwch yr eicon cau.

Rheoli Nodweddion Canvas

Bydd rhai nodweddion newydd yn cael eu rhyddhau fel nodweddion optio i mewn yn unig ac ni fyddant yn ymddangos nes y byddwch yn eu galluogi yn eich amgylchedd beta. Gallwch weld y nodweddion hyn yn y tab Opsiynau Nodweddion (Feature Options) yng Ngosodiadau’r Cwrs. Dysgu sut mae rheoli nodweddion newydd ar gyfer cwrs unigol.