Sut ydw i’n cael mynediad i’r amgylchedd prawf fel addysgwr?

Yn yr amgylchedd prawf, gallwch chi brofi drwy ddefnyddio data amser real heb amharu ar eich amgylchedd cynhyrchu byw. Yma gallwch ychwanegu defnyddwyr, cynnwys cwrs prawf a/neu ddatrys problemau heb amharu ar brofiad eich defnyddwyr. Caiff yr amgylchedd prawf ei ddiystyru gan ddata o’r amgylchedd cynhyrchu bob tair wythnos. Gallwch ffurfweddu eich amgylchedd prawf gyda nodweddion sy'n barod i’w cynhyrchu, fel mynediad at system dilysu mewngofnodi eich sefydliad.

Os ydych chi am gael y nodweddion cynhyrchu diweddaraf yn Canvas, ewch i’r dudalen Nodiadau Rhyddhau yn yr adnodd Cymuned Canvas.

Mae’r amgylchedd prawf ar wahân i’r amgylchedd beta, sy'n cael ei ddiystyru gan ddata o'r amgylchedd cynhyrchu bob wythnos ac sy'n caniatáu i chi edrych ar nodweddion newydd cyn iddynt gael eu cynhyrchu. Rhagor o wybodaeth am amgylcheddau gwahanol Canvas.  

Nodiadau am yr Amgylchedd Prawf:

  • Gall yr holl ddefnyddwyr fynd i amgylchedd prawf Canvas, ond ni all myfyrwyr weld cynnwys cwrs y tu hwnt i Dudalen Hafan y Cwrs; os ydych chi am ganiatáu i fyfyrwyr weld holl gynnwys cwrs, cysylltwch â’ch Gweinyddwr lleol.
  • Nid oes modd anfon hysbysiadau yn yr amgylchedd prawf, gan gynnwys gwahoddiadau cwrs ac adroddiadau sy’n cael eu llwytho i lawr.
  • Rhaid i unrhyw newidiadau rydych chi am eu cadw yn yr amgylchedd prawf gael eu gwneud yn uniongyrchol yn yr amgylchedd cynhyrchu er mwyn cael effaith ar ddata byw.
  • Nid yw Adnoddau LTI (Apiau Allanol) ar gael y tu allan i’r amgylchedd cynhyrchu fel rheol. Gall adnoddau LTI ymddangos yn yr amgylchedd prawf, ond yn aml maent wedi eu ffurfweddu ar gyfer yr amgylchedd cynhyrchu yn unig. Bydd defnyddio adnoddau LTI sydd wedi eu ffurfweddu ar gyfer cynhyrchu yn yr amgylchedd beta yn effeithio ar ddata byw. Os oes gennych chi hawl i olygu adnoddau LTI, gallwch gadarnhau ffurfweddu adnodd LTI penodol ar gyfer eich cwrs neu eich cyfrif. Cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid ar gyfer cwestiynau penodol.
  • Ni fydd gosodiadau opsiwn nodwedd byth yn cael eu copïo o’r amgylchedd cynhyrchu a byddant bob amser yn cadw eu gosodiadau diofyn.

Mynd i’ch Amgylchedd Prawf

Mynd i’ch Amgylchedd Prawf

I fewngofnodi i’ch amgylchedd prawf, teipiwch [enw’r sefydliad (organization name)].test.instructure.com yn y maes URL.

Gweld Neges Rhaglen i Brofi

Bydd defnyddwyr yn yr amgylchedd prawf yn gweld bar pinc ar draws gwaelod y sgrin a fydd yn nodi bod y defnyddiwr mewn Rhaglen i Brofi Canvas. Caiff yr amgylcheddau prawf eu hailosod bob tair wythnos ar ôl rhyddhau cynhyrchiad, a bydd unrhyw newidiadau y byddwch yn eu gwneud yn eich amgylchedd prawf yn cael eu hailosod. Os ydych chi am gadw unrhyw gynnwys cwrs sydd wedi’i greu yn eich amgylchedd prawf, gallwch allgludo eich cwrs.

Nodyn: I guddio’r bar pinc ar draws gwaelod eich sgrin, cliciwch ddwywaith ar y bar Rhaglen i Brofi Canvas (Canvas Test Installation).

Rheoli Nodweddion Canvas

Bydd rhai nodweddion newydd yn cael eu rhyddhau fel nodweddion optio i mewn yn unig ac ni fyddant yn ymddangos nes y byddwch yn eu galluogi yn eich amgylchedd prawf. Gallwch weld y nodweddion hyn yn y tab Opsiynau Nodweddion (Feature Options) yng Ngosodiadau’r Cwrs. Dysgu sut mae rheoli nodweddion newydd ar gyfer cwrs unigol.