Gallwch gael mynediad at Canvas o unrhyw borwr ar eich dyfais Android/iOS. Fodd bynnag, does dim modd delio â phorwyr symudol, ac efallai na fydd nodweddion yn gweithio yn ôl y disgwyl wrth gymharu â defnyddio Canvas mewn porwr bwrdd gwaith cwbl gydnaws.
Ar ddyfeisiau symudol, mae Canvas wedi'i ddylunio i gael ei ddefnyddio yn apiau symudol Canvas. Dim ond pan fydd gweithred yn yr ap yn cysylltu’n uniongyrchol â’r porwr, fel pan fydd myfyrwyr yn gwneud rhai mathau penodol o gwisiau, y bydd modd defnyddio tudalennau Canvas mewn porwr symudol. Os nad oes modd defnyddio tudalennau yn yr ap ar hyn o bryd, fel Cynadleddau a Chydweithrediadau, does dim modd eu defnyddio yn y porwr chwaith.
Hefyd, dim ond rhywfaint o gymorth y mae Canvas yn ei gynnig ar gyfer porwyr symudol cynhenid ar ddyfeisiau tabled. I gael y manylion, darllenwch y canllawiau cymorth cyfyngedig ar gyfer porwyr symudol.