Sut ydw i’n creu cwrs newydd yn y Dangosfwrdd fel addysgwr?

Os oes gennych chi hawl i ychwanegu cyrsiau newydd yn Canvas, gallwch chi i greu cwrs newydd o’ch Dangosfwrdd Canvas. Mae cyrsiau newydd yn cael eu creu fel cregyn cyrsiau sy’n gallu dal ymrestriadau a chynnwys cyrsiau ar gyfer eich sefydliad. Os yw wedi’i alluogi gan eich sefydliad, efallai y byddwch chi’n gallu dewis is-gyfrif ar gyfer eich cwrs newydd. Os nad yw’r nodwedd hon wedi’i galluogi, bydd eich cwrs newydd yn cael ei ychwanegu at is-gyfrif Cyrsiau sydd heb gael eu creu’n awtomatig eich sefydliad.

Pan fyddwch chi'n creu cwrs o’r Dangosfwrdd, rydych chi’n cael eich ychwanegu’n awtomatig at y cwrs fel addysgwr. Does dim ymrestriadau eraill yn y cwrs, ond efallai y byddwch chi’n gallu ychwanegu defnyddwyr at gwrs newydd. Yn ogystal, dydy cyrsiau newydd ddim yn cynnwys cwrs. Yn y cwrs newydd, gallwch chi greu cynnwys newydd ac ychwanegu cynnwys sy’n bodoli’n barod drwy ddefnyddio’r adnodd mewngludo cwrs a thrwy rannu cynnwys o gwrs sy’n bodoli’n barod.

Fe arall, gallwch chi greu cwrs newydd i’w ddefnyddio fel blwch tywod. Cwrs heb ymrestriadau myfyrwyr yw blwch tywod lle gallwch chi greu, addas a gweld rhagolwg o strwythur a chynnwys cwrs heb fyfyrwyr yn ymyrryd. Yna gallwch chi rannu neu fewngludo cynnwys eich blwch tywod i gyrsiau byw.

Nodiadau:

  • Os nad oes modd i chi ddechrau cwrs fel y dangosir yn y cyfarwyddiadau hyn, yna mae eich sefydliad wedi analluogi'r nodwedd hon. Mae rhai sefydliadau yn darparu cyrsiau i staff yn awtomatig drwy Ffeiliau SIS (System Gwybodaeth Myfyrwyr) wedi’u mewngludo. I gael help gyda chreu cwrs newydd, cysylltwch â’ch Gweinyddwr Canvas.
  • Os ydy eich sefydliad yn defnyddio templed cwrs, bydd eich cwrs newydd yn cynnwys tesun o’r templed hwnnw.

Agor Dangosfwrdd

Agor Dangosfwrdd

Yn y Ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Dangosfwrdd (Dashboard).

Creu Cwrs Newydd

Creu Cwrs Newydd

Ym mar ochr y Dangosfwrdd, cliciwch y botwm Dechrau Cwrs Newydd (Start a New Course). Efallai y bydd angen i chi sgrolio i lawr i weld y botwm hwn.

Nodyn: Os nad ydych chi’n gweld y botwm hwn yn Canvas, yna mae eich sefydliad wedi analluogi'r nodwedd hon.

Ychwanegu Manylion Cwrs

Ychwanegu Manylion Cwrs

Yn y gwymplen Pa gyfrif fydd y cwrs hwn yn gysylltiedig ag ef? (Which account will this course be associated with?) Dewiswch y cyfrif lle rydych chi eisiau i’r cwrs gael ei drefnu [1]. Dim ond cyfrifon sy’n cynnwys cyrsiau lle mae gennych chi ymrestriadau gweithredol y gallwch chi eu dewis. Os nad yw’r gwymplen hon i’w gweld, mae eich sefydliad wedi cyfyngu’r opsiwn i addysgwyr ddewis cyfrifon ar gyfer cyrsiau newydd.

Yn y maes Enw’r Cwrs (Course Name) [2], rhowch enw eich cwrs. Mae cod cwrs yn cael ei greu’n awtomatig ar sail y llinyn cyntaf o nodau cysylltiedig yn enw’r cwrs. Os bydd eich sefydliad yn ei ganiatáu, gellir newid cod y cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs.

I greu’r cwis, cliciwch y botwm Creu (Create) [3]. I ganslo creu cwrs, cliciwch y botwm Canslo (Cancel) [4].

Nodyn: Mae trwydded cynnwys cwrs a’r opsiynau gweld cwrs yn breifat yn ddiofyn. Gellir newid yr opsiynau hyn yng Ngosodiadau’r Cwrs.

 

Gweld Cwrs

Gweld y cwrs newydd. Yn dibynnu ar ddymuniad eich sefydliad, gallwch ddefnyddio’r Rhestr atgoffa wrth greu cwrs neu Diwtorial Creu Cwrs Canvas i lenwi eich cwrs.