Sut ydw i’n dileu tudalennau mewn cwrs?
Gallwch chi ddileu un dudalen neu fwy nag un dudalen os nad oes eu hangen arnoch chi yn eich cwrs.
Nodyn: Ni fyddwch chi’n gallu dileu tudalen os yw’n cael ei ddefnyddio fel Tudalen Flaen cwrs.
Agor Tudalennau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).
Gweld Tudalennau
Mae’r adran Tudalennau (Pages) wedi’i dylunio i agor i dudalen flaen y cwrs, os oes tudalen flaen wedi cael ei dewis. I ddewis tudalen o’r mynegai Tudalennau (Pages), cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).
Dileu Tudalennau
Dewiswch flwch ticio’r dudalen neu’r tudalennau rydych chi eisiau eu dileu [1]. Yna cliciwch y botwm Dileu (Delete) [2].
Nodyn: Ni fyddwch chi’n gallu dileu tudalen os yw’n cael ei ddefnyddio fel Tudalen Flaen cwrs [3].
Cadarnhau’r broses Dileu

I gadarnhau dileu tudalennau sydd wedi’u dewis, cliciwch y botwm Dileu (Delete).