Sut ydw i’n ychwanegu eitem o fanc eitemau at gwis mewn Cwisiau Newydd?

Gallwch chi ychwanegu eitemau unigol o fanc eitemau at gwis mewn Cwisiau Newydd. Gallwch chi hefyd ychwanegu mwy nag un eitem o fanc eitemau.

Mae’r wers hon yn dangos i chi sut i ychwanegu eitem o fanc eitemau gan ddefnyddio’r botwm Banciau Eitemau ar y dudalen Adeiladu. Gallwch chi hefyd gael gafael ar eich banciau eitemau wrth ychwanegu cynnwys at gwis.

Agor Cwisiau

Agor Cwisiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).

Note: Gallwch chi gae mynediad at gwisiau o’r dudalen Aseiniadau hefyd.

Agor Tudalen Adeiladu

I ychwanegu eitem o fanc eitemau, dewch o hyd i’r cwis rydych chi eisiau ei agor [1].

I agor Cwisiau Newydd o gwis sydd eisoes yn bodoli, cliciwch yr eicon Opsiynau [2], a chlicio’r ddolen Adeiladu (Build) [3].

Agor Banciau Eitemau

Cliciwch y botwm Banciau Eitemau (Item Banks).

 

Agor Banc Eitemau

Agor Banc Eitemau

Cliciwch enw banc eitemau.

Ychwanegu Eitem

Ychwanegu Eitem

I ychwanegu eitem at gwis, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add) wrth yr eitem honno.

Bydd yr eitem yn ymddangos yn y cwis.

Gweld Eitem

Gweld yr eitem yn y cwis. I olygu’r eitem, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddyblygu’r eitem, cliciwch yr eicon Copïo [2]. I symud yr eitem, cliciwch yr eicon Symud [3].  I ddileu’r eitem, cliciwch yr eicon Dileu [4].

Os bydd unrhyw dagiau wedi cael eu hychwanegu, bydd y tagiau’n ymddangos yn yr eitem [5].

Golygu Eitem

Wrth olygu eitem banc eitemau mewn cwis, dim ond gwerthoedd pwynt [1] a rhai opsiynau [2] y byddwch chi’n gallu eu golygu. I olygu rhannau eraill o’r cwestiwn, cliciwch yr eicon Golygu yn y Banc (Edit in Bank) [3].