Sut ydw i’n defnyddio'r dudalen Pobl mewn cwrs fel addysgwr?

Mae Pobl yn dangos yr holl ddefnyddwyr sydd wedi ymrestru ar eich cwrs, naill ai wedi'u hychwanegu gennych chi neu eich sefydliad drwy broses Mewngludo SIS.

Gallwch chi hefyd weld nifer y defnyddwyr presennol mewn cwrso’r dudalen Gosodiadau Cwrs.

Agor yr adnodd Pobl

Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).

Gweld yr adnodd Pobl

Mae'r dudalen Pobl (People) yn dangos yr holl wybodaeth am y defnyddwyr ar eich cwrs. Mae’r dudalen wedi’i dylunio gyda'r gosodiadau cyffredinol ar frig y dudalen [1] ac yna’r data defnyddiwr sydd wedi’i greu [2].

Chwilio a Hidlo Defnyddwyr

Mae’r gosodiadau cyffredinol yn cynnwys chwilio a hidlo yn ôl data defnyddiwr. I chwilio am ddefnyddiwr penodol, teipiwch enw’r defnyddiwr yn y maes chwilio [1].

I hidlo yn ôl rôl, dewiswch gwymplen y Rolau (Roles) [2]. Bydd yr hidlydd hefyd yn dangos sawl defnyddiwr sydd ym mhob math o rôl (e.e. myfyriwr).

Gallwch chi ychwanegu defnyddiwr at y cwrs hefyd [3].

Rheoli Grwpiau Myfyrwyr

Mae'r dudalen Pobl (People) yn trefnu pob un o’ch grwpiau myfyrwyr hefyd, a gallwch reoli'r grwpiau hynny. Gallwch greu grwpiau i roi'r myfyrwyr at ei gilydd i gwblhau prosiectau neu weithgareddau eraill. Gall myfyrwyr greu eu grwpiau eu hunain, a fydd yn caniatáu iddyn nhw gydweithio.

Rheoli Defnyddwyr

Rheoli Defnyddwyr

I reoli opsiynau defnyddwyr ar lefel y cwrs, cliciwch y gwymplen Opsiynau (Options) cyffredinol [2]. Gallwch weld grwpiau defnyddwyr [1]. Mae grwpiau defnyddwyr yr un fath â’r rhai a ddangosir yn y gosodiadau cyffredinol ar frig y dudalen.

Gallwch weld ymrestriadau blaenorol ar y cwrs [2]. Ymrestriadau blaenorol yw’r myfyrwyr a oedd wedi ymrestru ar y cwrs yn flaenorol ac mae eu hymrestriad wedi’u dirwyn i ben.  

Hefyd, gallwch weld crynodeb o’r holl ryngweithio â myfyrwyr ar eich cwrs [3]. Bydd y rhyngweithio’n cael ei gofnodi pan fyddwch chi’n cysylltu â'r myfyriwr drwy Sgyrsiau neu pan fyddwch chi’n gadael sylw ar aseiniad.

Gallwch weld gwasanaethau wedi'u cofrestru ar gyfer pob defnyddiwr ar y cwrs [4]. Os oes unigolyn wedi cofrestru cyfrif cyfryngau cymdeithasol yn Canvas, gallwch weld y gwasanaeth hwnnw wedi’i restru a chysylltu â’r unigolyn drwy unrhyw safle cyfryngau cymdeithasol maen nhw wedi’u cofrestru.

Gallwch allgludo rhestr o godau paru ar gyfer yr holl fyfyrwyr ar eich cwrs [5]. Mae codau paru'n cael eu defnyddio i baru myfyriwr gydag arsyllwr. Dydy'r opsiwn hwn ddim ond i'w weld os yw hunan-gofrestru wedi'i alluogi yn eich sefydliad a dydy'r nodwedd ddim ond ar gael i ddefnyddwyr sydd â hawl i greu codau paru arsyllwyr.

Gweld Defnyddwyr

Mae'r dudalen Pobl (People) yn trefnu defnyddwyr yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu henw olaf. Mae canlyniadau chwilio a hidlo’n dangos y data canlynol:

  • Enw’r defnyddiwr (The user’s name) [1]
  • ID Mewngofnodi (Login ID) [2]
  • ID SIS (SIS ID) [3]—mae angen caniatâd i weld ID SIS yn y golofn hon
  • Adran (Section) [4]—wedi ymrestru mewn mwy nag un adran o bosib
  • Rôl [5]—dangos enw’r rôl defnyddiwr
  • Gweithgarwch Diwethaf (Last Activity) [6]—yn dangos dyddiad ac amser rhyngweithiad diweddaraf defnyddiwr ar y cwrs. Mae’r stamp amser hwn yn diweddaru pan fydd defnyddiwr yn crwydro drwy'r cwrs drwy ddefnyddio dewislen Crwydro'r Cwrs, yn ymateb i drafodaeth neu’n cyflwyno aseiniad neu gwis, a phan fydd yn cael mynediad at ffeiliau a thudalennau cwrs. Efallai na fydd gweithredoedd symudol yn ymddangos oherwydd gosodiadau storio dyfeisiau lleol.
  • Cyfanswm y gweithgarwch (Total Activity) [7]—yn gadael i chi weld am ba mor hir mae'r myfyrwyr yn rhyngweithio o fewn cwrs ac mae'n cyfrif sawl gwaith mae rhywun yn symud rhwng tudalennau’n unig. Mae cyfanswm amser gweithgarwch yn cael ei ddangos mewn oriau:munudau:eiliadau. Os dydy defnyddiwr ddim wedi gwneud awr o weithgarwch eto, bydd cyfanswm yr amser yn cael ei ddangos mewn munudau:eiliadau. Mae Cyfanswm y Gweithgarwch yn cofnodi unrhyw amser a dreulir yn edrych ar gynnwys cwrs sy’n fwy na dau funud. Os yw’r amser rhwng gweithgaredd newydd a'r gweithgaredd a gafodd ei gwblhau ddiwethaf o dan ddeng munud, bydd yr holl amser rhwng y ddau ddigwyddiad hyn yn cael ei gynnwys hefyd. Dydy Cyfanswm y Gweithgarwch ddim yn cynnwys gweithgarwch grŵp nac ymweliad â’r dudalen ar gyfer fideos nad ydynt yn cynnwys ceisiadau tudalen hanner ffordd, fel darlith hanner awr wedi'i recordio. I weld ymweliadau penodol â thudalen ar gyfer myfyriwr, ewch i adroddiad mynediad cwrs ar gyfer y myfyriwr.

Nodyn: Mae gweld manylion defnyddwyr, gan gynnwys ID Mewngofnodi a chyfeiriadau e-bost defnyddwyr, yn rhai o hawliau'r cwrs. Gan ddibynnu ar eich hawliau, mae’n bosib na fyddwch chi’n gallu gweld yr holl wybodaeth sydd ar gael ar y dudalen Pobl.

Gweld Statws Defnyddiwr

Hefyd, gallwch weld statws ymrestriadau anweithredol ac ymrestriadau sy’n aros.

Ar ôl cyhoeddi cwrs, bydd defnyddwyr yn cael gwahoddiad i'r cwrs. Bydd defnyddwyr nad ydynt wedi derbyn gwahoddiad i’r cwrs eto yn dangos statws yn aros [1]. I ail-anfon gwahoddiadau cwrs i ddefnyddwyr sy’n aros, cliciwch y ddolen Ail-anfon (Resend) [2] ar frig y dudalen.

Bydd defnyddwyr sy’n anweithredol yn y cwrs yn dangos statws anweithredol [3]. Mae'r statws anweithredol yn rhoi cyfle i chi weld gweithgarwch blaenorol defnyddiwr ar y cwrs ond nid yw'n gadael i’r myfyriwr gael mynediad i’r cwrs.

Gweld Cerdyn Cyd-destun

I weld cerdyn cyd-destun myfyriwr, cliciwch enw’r myfyriwr.

Rheoli Defnyddwyr

I reoli defnyddiwr ar eich cwrs, cliciwch yr eicon Opsiynau. Os oes gennych chi hawl yn eich cwrs, gallwch chi ail-anfon gwahoddiadau cwrs a gweld manylion defnyddiwr. Mae’n bosib hefyd y byddwch yn gallu golygu adrannau cwrs y defnyddiwr, golygu rôl y defnyddiwr, analluogi'r defnyddiwr, neu dynnu'r defnyddiwr o’r cwrs.

Rheoli Arsyllwyr

Ar gyfer rôl Arsyllwr, gallwch chi gysylltu arsyllwr gyda myfyriwr hefyd.

Gweld y Wedd Myfyrwyr

I weld y dudalen pobl fel myfyrier, cliciwch y botwm Gwedd Myfyriwr (Student View).

Nodyn: Os ydy’r ddolen crwydro’r cwrs ar gyfer y dudalen wedi’i hanalluogi ac wedi’i chuddio rhag myfyrwyr, ni fydd y botwm Gwedd Myfyriwr yn ymddangos.