Sut ydw i'n ychwanegu digwyddiad at galendr cwrs?

Mae digwyddiad Canvas yn weithgarwch Canvas sydd ddim wedi’i raddio. Ni fydd digwyddiadau rydych yn eu creu ar y Calendr yn ymddangos ar y dudalen Aseiniadau (Assignments) nac yn y Llyfr Graddau. Ond byddant yn ymddangos ar dudalen y Maes Llafur (Syllabus) a chalendrau myfyrwyr. Gallwch greu digwyddiadau gydag amser penodol ynghyd â digwyddiadau diwrnod cyfan.

Er enghraifft, mae modd i chi greu digwyddiad cwrs gyda dolen i'r deunyddiau yr ydych am i’r myfyrwyr eu darllen er mwyn paratoi at drafodaeth ddosbarth sydd ar y calendr. Ni fyddwch yn graddio myfyrwyr ar p'un ai a ydynt wedi gwneud y gwaith darllen neu beidio, ond byddwch yn darparu’r deunyddiau darllen ar ddiwrnod penodol er mwyn eu helpu i reoli eu hamser yn effeithlon.

Gallwch chi hefyd greu digwyddiad rheolaidd.

Nodyn: Mae digwyddiadau sy’n cynnwys dolen gynadledda yn y maes disgrifiad neu leoliad yn cynnwwys botwm Ymuno ar Ddangosfwrdd Gweld Rhestr y myfyriwr.

Agor Calendr

Agor Calendr

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).

Ychwanegu Digwyddiad

Gwnewch yn siŵr fod blwch ticio’r cwrs rydych chi’n gwneud digwyddiad ynddo wedi’i ddewis [1].

Cliciwch unrhyw ddyddiad ar y calendr i ychwanegu digwyddiad [2]. Neu, cliciwch y saethau drws nesaf i enw’r mis i fynd i fis gwahanol [4] a dewis dyddiad.

Os nad ydych chi am ddod o hyd i'r dyddiad eich hun, gallwch glicio’r eicon Ychwanegu [4].

Ychwanegu Manylion Digwyddiad

Ychwanegu Manylion Digwyddiad

Rhowch deitl i’r digwyddiad [1].

Yn dibynnu ar sut y gwnaethoch chi ychwanegu eich digwyddiad, mae’n bosib y bydd y dyddiad wedi cael ei lenwi i chi. Os nad yw wedi’i lenwi, rhowch ddyddiad yn y maes dyddiad [2].

Mae’n bosib y bydd amseroedd y calendr wedi cael eu llenwi i chi hefyd yn y meysydd O (From) [3]. I olygu, defnyddiwch y gwymplen neu rhowch amser dechrau a gorffen ar gyfer eich digwyddiad. I greu digwyddiad diwrnod cyfan, gadewch y meysydd O (From) yn wag fel nad oes amser dechrau a gorffen ar gyfer eich digwyddiad.

Yn y gwymplen Amlder (Frequency), gallwch chi osod digwyddiadau calendr rheolaidd [4].

Gallwch chi roi lleoliad [5].

Yn y gwymplen Calendr (Calendar) [6], dewiswch galendr y cwrs [7].

Cyflwyno Digwyddiad

Cyflwyno Digwyddiad

I ychwanegu mwy o fanylion at eich digwyddiad, cliciwch y botwm Mwy o Opsiynau (More Options) [1]. Gallwch ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i ychwanegu dolenni disgrifiad neu adnodd.

Os mai dim ond gyda manylion dros dro rydych chi am greu'r digwyddiad, a’ch bod am ychwanegu manylion rywbryd eto, cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [2]. Gallwch olygu'ch digwyddiad ar unrhyw adeg