Sut ydw i'n gweld graddau yn y Dangosfwrdd Gwedd Cardiau fel addysgwr?

Gallwch chi weld graddau cyrsiau cyffredinol yn y Dangosfwrdd Gwedd Cerdyn. Mae’r botwm hwn ar gael i bob rôl defnyddiwr ac mae’n dangos graddau ar gyfer cyrsiau sy’n cael eu cymryd a chyrsiau sy’n cael eu dysgu, os o gwbl.

Agor Graddau

Agor Graddau

Ym mar ochr y Dangosfwrdd, cliciwch y botwm Gweld Graddau (View Grades).

Gweld Cyrsiau

Gweld Cyrsiau

Mae’r pennyn Cyrsiau rydw i’n eu Dysgu yn dangos enw pob cwrs a’r cyfartaledd graddau cyffredinol cyfredol [1], sy’n dangos nifer y myfyrwyr sy’n rhan o’r sgôr cyfartalog. Os nad oes graddau wedi’u neilltuo, mae’r radd yn ymddangos fel dim gradd [2].

I weld manylion graddio yn y Llyfr Graddau, cliciwch enw’r cwrs [3].

I weld rhyngweithiadau gyda’ch myfyrwyr a gweithgarwch myfyrwyr ar y cwrs, cliciwch y ddolen Adroddiad Rhyngweithiadau Myfyrwyr (Student Interactions Report) [4].

Nodyn: Gallwch chi hefyd gael gaefael ar yr Adroddiad Rhyngweithiadau Myfyrwyr o’r dudalen Pobl mewn cwrs penodol.