Mae’r bar ochr yn eich helpu i reoli'r broses raddio ym mhob un o’ch cyrsiau. Fodd bynnag, mae aseiniadau nad ydynt yn cael eu graddio ac nad oes angen eu cyflwyno ar-lein yn ymddangos tan y dyddiad erbyn yn unig.
Mae’r adran Tasgau i’w Gwneud (To Do) bob amser yn dangos yr holl eitemau y mae angen eu graddio yn Canvas, waeth beth yw’r dyddiad erbyn [1]. Mae pob eitem yn y rhestr Tasgau i’w Gwneud yn dangos enw’r aseiniad, enw’r cwrs, nifer y pwyntiau a'r dyddiad erbyn ar gyfer yr aseiniad. Gall rhai aseiniadau ddangos mwy nag un dyddiad erbyn.
Mae’r adran Ar y Gweill (Coming Up) yn dangos aseiniadau a digwyddiadau sydd ar y gweill yn ystod y saith diwrnod nesaf [2]. Gall eitemau gynnwys cwisiau heb eu graddio ac aseiniadau nad oes angen eu cyflwyno yn Canvas, ond ni fydd y mathau hyn o aseiniadau i’w gweld yn y rhestr Tasgau i’w Gwneud (To Do) ar gyfer addysgwyr. Gall rhai eitemau ddangos mwy nag un dyddiad erbyn. Mae'r adran Ar y Gweill (Coming Up) yn dangos hyd at 20 o eitemau wedi’u trefnu yn ôl dyddiad.
Os yw’ch gweinyddwr Canvas wedi rhoi caniatâd i chi greu cyrsiau, efallai y byddwch yn gweld y botwm Dechrau Cwrs Newydd (Start a New Course) [3], a fyddai’n eich galluogi chi i greu Cwrs Canvas newydd.
Mae'r botwm Gweld Graddau (View Grades) yn cysylltu â thudalen Graddau’r Dangosfwrdd, ac yn dangos cyfartaledd y radd gyffredinol ar gyfer eich holl gyrsiau gweithredol [4].