Mae tudalen Hafan y Cwrs yn gysylltiedig â'r ddolen Hafan (Home) yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs, a hon yw'r dudalen gyntaf a welir ar gyfer pob cwrs. Mae pum cynllun gwahanol ar gael ar gyfer tudalen Hafan pob Cwrs, yn ddibynnol ar yr hyn rydych chi’n ei ffafrio.
Mae pob cynllun ar gyfer tudalennau Hafan y Cwrs hefyd yn cynnwys eitemau penodol yn y bar ochr, yn ogystal â’r Rhestr o Dasgau i’w Gwneudy.
Mae tudalen Hafan y Cwrs yn mynd i’r dudalen Modiwlau yn ddiofyn, ond fe allwch chi newid y dudalen Hafan. Hefyd, mae pob cynllun ar gyfer tudalennau Hafan y Cwrs yn gallu dangos cyhoeddiadau diweddar ar frig y dudalen. Fodd bynnag, dim ond testun a dolenni sy’n cael eu dangos ar gyfer pob cyhoeddiad.
Mae Modiwlau Cwrs yn trefnu’r cwrs i fodiwlau, neu adrannau. Mae modiwlau yn helpu i amlinellu’r cwrs ac yn dangos yr aseiniadau neu'r tasgau gofynnol ar gyfer y cwrs i gyd. Gallwch chi ychwanegu modiwlau neu eitemau modiwl o’r dudalen Modiwlau.
Os yw eich tudalen Hafan wedi’i gosod i ddangos Modiwlau Cwrs, bydd y bar ochr yn dangos y canlynol, yn ogystal â'r Rhestr o Dasgau i'w Gwneud:
Mae’r Ffrwd Gweithgarwch Cwrs yn caniatáu i chi weld y gweithgarwch a'r rhyngweithio diweddaraf ar gyfer y cwrs hwn. Mae’n debyg iawn i'r ffrwd gweithgarwch diweddar ar y Dangosfwrdd, ond ei bod yn dangos cynnwys ar gyfer y cwrs penodol yn unig.
Os yw eich tudalen Hafan wedi’i gosod i ddangos Modiwlau Cwrs, bydd y bar ochr yn dangos y canlynol, yn ogystal â'r Rhestr o Dasgau i'w Gwneud:
Mae Tudalen Flaen yr adran Tudalennau yn caniatáu i addysgwyr ddylunio tudalen hafan y cwrs a chynnwys dolenni, delweddau neu gyfryngau cyfoethog. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu rhyngweithio â’r cynnwys sydd wedi'i ychwanegu at y dudalen hon.
Mae'r Dudalen Flaen hefyd yn cael ei nodi ar y Dudalen Mynegai Tudalennau. Gall myfyrwyr hefyd weld Tudalennau yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs os yw’r ddolen Tudalennau (Pages) i'w gweld yn y cwrs.
Hefyd, mae cynllun tudalen Hafan pob Cwrs yn gallu dangos cyhoeddiadau diweddar ar frig y dudalen.
Os yw eich tudalen Hafan wedi’i gosod i ddangos Modiwlau Cwrs, bydd y bar ochr yn dangos y canlynol, yn ogystal â'r Rhestr o Dasgau i'w Gwneud:
Mae’r Rhestr Aseiniadau (Assignment List) yn dangos y rhestr o aseiniadau ar gyfer y cwrs, gydag aseiniadau diweddar a rhai sydd ar y gweill i’w gweld ar frig y dudalen. Gall defnyddwyr glicio dolen yr aseiniad i gael rhagor o fanylion.
Os yw eich tudalen Hafan wedi’i gosod i ddangos y Rhestr Aseiniadau (Assignments List), bydd y bar ochr yn dangos y canlynol, yn ogystal â'r Rhestr o Dasgau i'w Gwneud:
Gall y Maes Llafur gynnwys disgrifiad o’r hyn a ddisgwylir ar y cwrs, neu gyflwyno’r cwrs drwy ddolenni, delweddau neu gynnwys arall. Bydd y Maes Llafur hefyd yn ymddangos yn awtomatig yn y wedd calendr, sy’n cynnwys pob aseiniad a digwyddiad cwrs wrth iddyn nhw gael eu hychwanegu neu eu haddasu yn y cwrs.
Mae modd gweld y Maes Llafur yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs hefyd.
Os yw eich tudalen Hafan wedi’i gosod i ddangos y Maes Llafur, bydd y bar ochr yn dangos y canlynol, yn ogystal â'r Rhestr o Dasgau i'w Gwneud: